Mae canser gallu cael effaith ddinistriol iawn ar yr unigolyn, teulu a chymdeithas. Er gwaethaf hyn, dwi’n cael fy ysbrydoli o weld a chlywed am gleifion yn brwydro ymlaen â’u bywydau er gwaethaf y driniaeth ddwys ac yr ansicrwydd. Mae’r cleifion yn dweud, dro ar ôl tro, gymaint ma’ pryd maethlon o fwyd yn gysur mawr iddynt...a dyma darddle syniad o greu llyfr ryseitiau llawn bwyd cysur.
Mae’n fraint enfawr cael gweithio ar y prosiect yma, ond un peth angenrheidiol sydd ei angen ar Ganolfan Ganser Felindre yw ryseitiau gan gleifion (presennol neu orffennol). Beth sy’n dod â chysur i chi? Cino dydd Sul arbennig roedd mam yn arfer ei goginio neu bwdin arbennig roedd mamgu'n arfer ei goginio pan oeddech chi’n ifanc. Beth bynnag sy’n dod â chysur i chi – cysylltwch â Felindre gyda’ch ryseitiau.
Er mwyn helpu Felindre gyda’r prosiect, mae rhai o gogyddion blaenllaw Cymru wedi cytuno i goginio’r ryseitiau. Neb llai na:
Sam a Shauna, Hangfire Southern Kitchen
Mae Sam a Shauna wedi ail-ddiffinio bwyd BBQ yng Nghymru ac wedi llwyddo symud o fod yn fwyty achlysurol ‘pop up’ i fwyty llwyddiannus iawn yn Y Bari. Yn 2015, enillodd Sam a Shauna gwobr ‘Best Street Food’ sianel BBC, Radio 4.
Anand George, Purple Poppadom
Cogydd hynod o dalentog sydd wedi sefydlu ei hun fel un o’r goreuon yn y brifddinas. Mae bwyty Purple Poppadom wedi ennill sawl gwobr a chydnabyddiaeth gan Jay Rayner. Mae Anand George hefyd allan ar ei tukka tuk yn arlwyo, ymhlith prydau eraill, cyw iâr a sglodion arbennig o dda. Mae hefyd yn awdur The 5,000 Mile Journey, yn gyfrifol am ysgol goginio a rhedeg cwmni sy’n cynnal gwyliau bwyd i Kerala.
Padraig (Paj) Jones, ymgynghorydd bwyd
Ar ôl gweithio gyda rhai o gewri’r byd bwyd, megis Marco Pierre White, Pierre Koffmann a Micheal Roux wnaeth Paj torri cwys ei hun a chreu enw ei hun yng Nghaerdydd gyda Le Gallois cyn symud ymlaen i amryw o fwytai eraill. I ble bynnag aeth Paj, roedd cydnabyddiaeth gan y Good Food Guide yn ei ddilyn. Mae Paj nawr yn gweithio fel ymgynghorydd a chogydd datblygu prydau ar gyfer archfarnadoedd y DU.
Stephen Terry, The Hardwick
Un arall sydd wedi gweithio gyda’r arwr bwyd Marco Pierre White, Mae Stephen yn wyneb cyfarwydd i lawer diolch i raglen Saturday Kitchen Live. Mae Stephen yn ennill canmoliaeth dro ar ôl tro am ei fwyd ym mwyty The Hardwick. Mae Stephen hefyd yn awdur llyfr ryseitiau “inspired…by”.
Shaun Hill, The Walnut Tree
Yn llysgennad bwyd dros Gymru a chogydd sydd yn uchel ei barch yn y byd bwyd ar ôl gweithio yn y diwydiant am 50 mlynedd. Mae’r Walnut Tree yn un o saith bwyty yng Nghymru sydd â seren Michelin.
Stephen Gomes, Moksh
Mae’r cogydd yn wallgo’ – mae wedi coginio cyw iâr mewn peiriant golchi llestri ac mae’n cynnig ‘chocolate orange’ fel cwrs cyntaf! Mae’n ffan fawr o ddulliau coginio arloesol ac os oes modd cyflwyno cynnyrch yn defnyddio dull ‘spherification’ mi wna! Mae’n gogydd sydd wedi ennill sawl gwobr ac wedi ennill tipyn o gydnabyddiaeth ar ôl cymryd rhan yn rhaglen deledu The Great British Menu.
Angela Gray o ysgol goginio Angela Gray
Mae Angela yn wyneb cyfarwydd iawn i bobl sy’n mynychu gwyliau bwyd led led Cymru. Mae’n athrawes goginio profiadol ac mae’r ysgol goginio wedi ennill cydnabyddiaeth gan The Guardian a The Telegraph fel un o’r ysgolion gorau yn y DU.
Chris Harrod, The Whitebrook
Un o fy hoff fwytai. Mae Chris Harrod wedi llwyddo i ddathlu cynnyrch lleol mewn ffordd gynaliadwy a blasus iawn. Dwi wedi blogio eisoes am y bwyty yma. Mae Chris wedi ennill a chynnal seren Michelin ers sawl blwyddyn ac yn un o dri bwyty yng Nghymru â phedair rosette AA.
Danfonwch eich ryseitiau at
Ceri Harris: ceri.harris3@wales.nhs.uk neu
GIG Ymddiriedolaeth Felindre
2 Charnwood Court
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QZ neu
Arlein www.surveymonkey/r/Velindrecookbook

o'r chwith i'r dde... |

No comments:
Post a Comment