Showing posts with label hangfire. Show all posts
Showing posts with label hangfire. Show all posts

Tuesday, 3 October 2017

Ysbyty Felindre: Galw am Ryseitiau

Mae canser gallu cael effaith ddinistriol iawn ar yr unigolyn, teulu a chymdeithas. Er gwaethaf hyn, dwi’n cael fy ysbrydoli o weld a chlywed am gleifion yn brwydro ymlaen â’u bywydau er gwaethaf y driniaeth ddwys ac yr ansicrwydd. Mae’r cleifion yn dweud, dro ar ôl tro, gymaint ma’ pryd maethlon o fwyd yn gysur mawr iddynt...a dyma darddle syniad o greu llyfr ryseitiau llawn bwyd cysur.

Mae’n fraint enfawr cael gweithio ar y prosiect yma, ond un peth angenrheidiol sydd ei angen ar Ganolfan Ganser Felindre yw ryseitiau gan gleifion (presennol neu orffennol). Beth sy’n dod â chysur i chi? Cino dydd Sul arbennig roedd mam yn arfer ei goginio neu bwdin arbennig roedd mamgu'n arfer ei goginio pan oeddech chi’n ifanc. Beth bynnag sy’n dod â chysur i chi – cysylltwch â Felindre gyda’ch ryseitiau.

Er mwyn helpu Felindre gyda’r prosiect, mae rhai o gogyddion blaenllaw Cymru wedi cytuno i goginio’r ryseitiau. Neb llai na:
o'r chwith i'r dde...
Sam a Shauna, Hangfire Southern Kitchen
Mae Sam a Shauna wedi ail-ddiffinio bwyd BBQ yng Nghymru ac wedi llwyddo symud o fod yn fwyty achlysurol ‘pop up’ i fwyty llwyddiannus iawn yn Y Bari. Yn 2015, enillodd Sam a Shauna gwobr ‘Best Street Food’ sianel BBC, Radio 4.

Anand George, Purple Poppadom
Cogydd hynod o dalentog sydd wedi sefydlu ei hun fel un o’r goreuon yn y brifddinas. Mae bwyty Purple Poppadom wedi ennill sawl gwobr a chydnabyddiaeth gan Jay Rayner. Mae Anand George hefyd allan ar ei tukka tuk yn arlwyo, ymhlith prydau eraill, cyw iâr a sglodion arbennig o dda. Mae hefyd yn awdur The 5,000 Mile Journey, yn gyfrifol am ysgol goginio a rhedeg cwmni sy’n cynnal gwyliau bwyd i Kerala.

Padraig (Paj) Jones, ymgynghorydd bwyd
Ar ôl gweithio gyda rhai o gewri’r byd bwyd, megis Marco Pierre White, Pierre Koffmann a Micheal Roux wnaeth Paj torri cwys ei hun a chreu enw ei hun yng Nghaerdydd gyda Le Gallois cyn symud ymlaen i amryw o fwytai eraill. I ble bynnag aeth Paj, roedd cydnabyddiaeth gan y Good Food Guide yn ei ddilyn. Mae Paj nawr yn gweithio fel ymgynghorydd a chogydd datblygu prydau ar gyfer archfarnadoedd y DU.

Stephen Terry, The Hardwick
Un arall sydd wedi gweithio gyda’r arwr bwyd Marco Pierre White, Mae Stephen yn wyneb cyfarwydd i lawer diolch i raglen Saturday Kitchen Live. Mae Stephen yn ennill canmoliaeth dro ar ôl tro am ei fwyd ym mwyty The Hardwick. Mae Stephen hefyd yn awdur llyfr ryseitiau “inspired…by”.

Shaun Hill, The Walnut Tree
Yn llysgennad bwyd dros Gymru a chogydd sydd yn uchel ei barch yn y byd bwyd ar ôl gweithio yn y diwydiant am 50 mlynedd. Mae’r Walnut Tree yn un o saith bwyty yng Nghymru sydd â seren Michelin.

Stephen Gomes, Moksh
Mae’r cogydd yn wallgo’ – mae wedi coginio cyw iâr mewn peiriant golchi llestri ac mae’n cynnig ‘chocolate orange’ fel cwrs cyntaf! Mae’n ffan fawr o ddulliau coginio arloesol ac os oes modd cyflwyno cynnyrch yn defnyddio dull ‘spherification’ mi wna! Mae’n gogydd sydd wedi ennill sawl gwobr ac wedi ennill tipyn o gydnabyddiaeth ar ôl cymryd rhan yn rhaglen deledu The Great British Menu.

Angela Gray o ysgol goginio Angela Gray
Mae Angela yn wyneb cyfarwydd iawn i bobl sy’n mynychu gwyliau bwyd led led Cymru. Mae’n athrawes goginio profiadol ac mae’r ysgol goginio wedi ennill cydnabyddiaeth gan The Guardian a The Telegraph fel un o’r ysgolion gorau yn y DU.

Chris Harrod, The Whitebrook
Un o fy hoff fwytai. Mae Chris Harrod wedi llwyddo i ddathlu cynnyrch lleol mewn ffordd gynaliadwy a blasus iawn. Dwi wedi blogio eisoes am y bwyty yma. Mae Chris wedi ennill a chynnal seren Michelin ers sawl blwyddyn ac yn un o dri bwyty yng Nghymru â phedair rosette AA.

Danfonwch eich ryseitiau at
Ceri Harris: ceri.harris3@wales.nhs.uk  neu
GIG Ymddiriedolaeth Felindre
2 Charnwood Court
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QZ neu
Arlein www.surveymonkey/r/Velindrecookbook

Wednesday, 23 September 2015

Hangfire Smokehouse am gyhoeddi llyfr

Does dim diwedd ar dalent Sam a Shauna, y partneriaid tu nôl i Hangfire Smokehouse:
  • Mae’r bwyd yn anhygoel ac yn ddiweddar mae nhw wedi ennill gwbor 'Best Street Food' yn y Food and Farming Awards y BBC;
  • Maen nhw’n wneuthurwyr saws - 'saucy times';
  • Dros yr haf lansiwyd soda crefft gyntaf Cymru;
  • …a'r prosiect diweddaraf yw ysgrifennu llyfr
Bydd y llyfr, sydd heb deitl eto, yn adrodd hanes eu taith ar draws America, gan gynnwys gwybodaeth fanwl am grilio a mygu yn ogystal â chynnig cyngor ar sut i adeiladu mygwr eich hun! Bydd y llyfr, sydd yn cael ei gyhoeddi y gwanwyn nesaf, yn cynnwys dros 100 o ryseitiau.
Sam a Shauna, Hangfire Smokehouse
Meddai Shauna Guinn o Hangfire, "Cysylltodd cwmni cyhoeddi Quadrille â ni nol ym mis Mai yn dilyn ein buddugoliaeth yng ngwobrau bwyd y BBC, ac wedi bod yn gweithio ar y llyfr ers hynny. Rydym mor falch cael gallu rhannu ein newyddion - buom yn anodd cadw'r gyfrinach yma!

"Mae'r llyfr yn mynd i fod yn llawn popeth sydd angen i chi ei wybod am fygu yn y cartref. Ni allwn aros i rannu'r hyn yr ydym wedi'i ddysgu gyda phawb."

Gwnaed y cyhoeddiad dros y penwythnos yn ystod eu dosbarth meistr 'The Alchemy of Barbecue' yng Ngŵyl Fwyd y Fenni - y digwyddiad cyntaf i werthu allan eleni.

Ychwanegodd Samantha Evans: "Mae'r ŵyl fwyd yn ymddangos fel y lle perffaith i wneud y cyhoeddiad. Rydym yn cyflwyno ein dosbarth meistr i gynulleidfa sy’n cynnwys pobl oedd yn awyddus iawn i blymio i mewn i’r byd o fygu bwyd yn ‘low and slow’ a phobl sydd wedi ein cefnogi o'r cychwyn cyntaf."

Quadrille Publishing yw un o'r cyhoeddwyr mwyaf blaenllaw ym myd llyfrau coginio ac meant wedi bod yn noddwyr i gogyddion blaenllaw megis Michel Roux OBE, Antonio Carluccio, Nathan Outlaw, ac Anjum Anand.

Am y wybodaeth ddiweddaraf ewch i http://hangfiresmokehouse.com/ neu dilynwch Hangfire ar Twitter.

Saturday, 15 February 2014

Hangfire Smokehouse: Seren Caerdydd

Gyda James Sommerin yn agor ei fwyty ym Mhenarth ym mis Ebrill, mater o amser yw hi cyn i Gaerdydd ennill seren Michelin.

Dwi’n meddwl bod bwyty sydd yn deilwng o seren Michelin yng Nghaerdydd eisoes. Bwyty unnos (pop-up) yw e yn nhafarn Lansdowne yn Nhreganna: Hangfire Smokehouse.

Mae arolygwyr Michelin yn dilyn y meini prawf yma:

Ansawdd y cynhwysion
Meistroli’r blasau
Meistroli’r coginio
Personoliaeth y cuisine
Gwerth am arian
Cysondeb o’r hyn mae’r bwyty yn ei gynnig i’w gwsmeriaid a thrwy gydol y flwyddyn

Mae dulliau arolygu Michelin wedi newid yn ddiweddar a gwelwyd llai o bwyslais ar ffurfioldeb. Nid rhaid wrth liain gwyn ar y byrddau a cheir perthynas llai oeraidd rhwng y rhai sy’n gweini a’r cwsmeriaid. Mae bwyty Tim Ho Wan yn Hong Kong yn enghraifft berffaith o hyn. Mae Hangfire yn cwrdd â’r meini prawf uchod ac yn llawn haeddu seren yn fy marn i.

Sam a Shauna sydd tu ôl i Hangfire ac mae’r ddwy ohonyn nhw wedi ymchwilio’n helaeth i mewn i’r cwestiwn beth yn union yw barbaciw Americanaidd? Er mwyn ateb y cwestiwn treuliodd Sam a Shauna chwe mis yn teithio ar draws America yn mynychu dosbarthiadauau meistr a chystadlu mewn gwahanol gystadlaethau. Penderfynais roi cynnig ar Hangfire BBQ yn ddiweddar. Wrth i mi aros am fy mwyd, mi oedd cyflwyniad PowerPoint yn rhannu’r daith yma ar y wal yn y dafarn. Fel rhyw fath o lamp lafa o luniau yn fy hudolu cyn i mi gael profi America ar blât.

Mae’r wybodaeth a’r grefft a’r sgiliau yma wedi’u cyfuno gyda chynnyrch lleol er mwyn creu bwyd arbennig o dda. Yr enghraifft orau o’r math yma o fwyd yng Nghaerdydd, heb os.

Mae’r fwydlen yn syml: gwahanol mathau o gig wedi’u fygu’n ara deg. Prisiau rhesymol iawn
Gwres anuniongyrchol yn gyfrifol am y cig tyner a suddog. Does dim cig wedi’u foddi mewn saws barbaciw artiffisial/melys yma. Brest cig eidion, sglodion gyda phaprica, adenydd cyw iâr, pulled pork
Ffa barbaciw a cholslo ysgafn a ffres
Sawsiau cartref 
Pei key lime gyda chydbwysedd perffaith rhwng yr hufen cyfoethog ac asidedd y leim  (gan @innercitypickle )
Mae @hangfirebbq yn nhafarn @Thelansdownepub bob nos Iau a nos Wener rhwng 5:30 a 9yp - ewch yno mewn da bryd!