Saturday 29 December 2018

Uchafbwyntiau Bwyta Yn Y Brifddinas 2018

Mi oedd hi’n ddechreuad anodd iawn i’r flwyddyn gyda sawl bwyty yn cau. Cau am y tro olaf gwnaeth 29 Park Place, The Hashery, The Meating Place, Barley & Rye, Harvester, Arbennig, Fish at 85, Strada, Juboraj, Miss Jones, Dill Jeera, Chez Francis, Porro, La Mangiatoia, Bayside Brasserie a mwy. Bu ‘restaurant no shows’ yn bygwth parhad i nifer arall o fwytai hefyd.

Er gwaethaf hyn, mae yna achos dathlu a dwi wedi rhestri rhai o fy uchafbwyntiau o loddesta yng Nghaerdydd.

Milkwood

Bwyty gorau Caerdydd 2018 yw Milkwood yn fy marn i. Wedi bod yn ffodus iawn cael bwyta yno sawl tro yn 2018 a dyma un o hoff brydau bwyd fy ngwraig.
Da Mara

Ar ôl sawl methiant ar safle '2 Penylan Road' mae’n braf gweld bwyty yn llwyddo a braf gweld Da Mara yn llawn dop ac yn ffynnu. Tro ar ôl tro mae Da Mara yn coginio pizza perffaith. Braf gweld bod Ffwrnes wedi agor lle ym marchnad Caerdydd hefyd.
Penylan Pantry

Y saladau gorau yn y brifddinas ac mae’n amlwg bod sawl person arall yn cytuno ‘da fi. Mae Penylan Pantry bellach gyda stondin Cheese Pantry yn y farchnad a’r Secret Garden. Mae’r wy – gyda diolch i Holly Yolks – yn wych o beth.
James Sommerin

Mae gallu James Sommerin i greu prydau o’r ansawdd gorau yn rheolaidd wedi’i gydnabod unwaith eto gan arolygwyr Michelin. Mae’r ‘pebble’ yma sy’n lasagne yn enghraifft o’i greadigrwydd.
Gŵyl Fwyd Bite

Gŵyl am ddim gyda chogyddion gorau’r brifddinas yn arlwyo bwyd am £3 y plât. Does dim byd arall o’r fath yng Nghymru a dwi’n gobeithio’n fawr iawn bydd Bite yn dychwelyd yn 2019.
The Heathcock

Mae Hare & Hounds yn un o dri bwyty yng Nghymru gyda bib gourmand. Roeddwn i wrth fy modd felly pan glywais i ei bod nhw am agor ail fwyty yn The Heathcock. Braf gweld y tarfan yn ail agor a dydy e ddim yn syndod ei fod yn llwyddiant ar ôl ond tri mis.
Heaney’s

Bwyty arall sydd wedi agor yn ddiweddar. Bwyty arall sydd yn hynod o lwyddiannus a phrysur. Y cogydd wedi ennill tipyn o ganmoliaeth ar raglen Great British Menu ac wedi llwyddo codi dros £50k cyn iddo agor y drysau. Cyfle gorau’r brifddinas i ennill seren Michelin yn 2019?
Blwyddyn Newydd Dda, a joiwch 2019

Friday 21 December 2018

Fy mherthynas i gyda bwyd

O fwyta bwcedaid o gyw iâr o KFC i ddilyn diet fegan mae gennym ni gyd berthynas unigryw â bwyd. Rhywle rhwng y ddau begwn yma mae modd crisialu’ch perthynas chi gyda bwyd, perthynas sydd we wedi’i lywio ar sail addysg am fwyd, cwmpawd moesol, magwraeth, barn ar yr amgylchedd a ffactorau tebyg. Ble ydych chi ar hyd y continwwm hwn?
Er fy mod i’n hoff iawn o fwyd ac yn bwyta allan yn rheolaidd rydw i’n teimlo’n llai sicr am fy mherthynas i gyda bwyd. Rydw i’n gwynebu penbleth mawr. Er mwyn deall y penbleth yma, beth am i ni ddechrau ar un pegwn o’r continiwm: KFC.

Mae’r cadwyni fel KFC, Burger King a McDonalds yn dominyddu’r farchnad. Maen nhw’n dominyddu oherwydd bod y bwyd yn rhad, yn gyfleus ac yn flasus. Mae’n gwbl ‘normal’ i fwyta’r bwyd yma. I fod yn berffaith onest, dwi’n bwyta tua un Big Mac o McDonalds bod deufis. Mae’r cyfartaledd yma’n lleihau serch hynny am ddau brif reswm.

  • Moesol

Mae hyn yn bersonol i bawb ond os taw dyma sut mae’r cig yn cyrraedd y plat…sori, bwced, dydw i ddim am lenwi pocedi y cyfalafwyr menter.


Dyma yw’r gwirionedd tu nôl i’r cig rydym ei fwyta. Yn bersonol, dydw i ddim yn cytuno gyda’r camdrin o’r fath. Dydw i ddim am gyfrannu at hyn trwy brynu cig rhad felly. Barn personol yw ho n a ma lladd-dai ‘da’ yn y diwydiant ond dwi’n tybio bydd mwyafrif ohonom yn ail feddwl ein perthynas gyda chig ar ôl deall y realiti:


  • Amgylcheddol

Mae ffermio dwys er mwyn ateb galw cig garwyr yn niweidio’r planed. Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi adrodd bod effaith ffermio anifeiliaid yn waeth na’r diwydiant trafnidiaeth yn ei gyfanrwydd ac mae’n gyfrifol am golli erw o’n coedwigoedd bob eiliad. Yn bersonol, dydw i ddim am gyfrannu at yr ystadegau yma. Dydw i ddim felly am fwyta cig sydd yn deillio o ffermio dwys.

Mae’r ffactorau yma wedi arwain i mi fwyta llai o gig ac os oes angen rhoi label ar fy mherthynas dwi’n ‘flexiterian’. Yn agosach at begwn fegan na phegwn KFC. Trwy fod yn flexitarion dwi’n cydymffurfio gyda ‘norm’ diwylliannol, dosbarth canol a dwi wedi teimlo’n gyfforddus yn y gofod yma. Mae’r teimlad cyfforddus yma yn erydu’n raddol serch hynny wrth i mi ddeall mwy am y pwnc.

Erbyn heddiw, rydw wedi cyrraedd pwynt ble dwi’n cwestiynu fy safbwynt presennol ac mae erthygl gan David Mitchell yn crisialu’r penbleth sy’n fy ngwynebu’n berffaith:

Ethics, practically speaking, are relative. Our ethical compasses are calibrated according to the norms of the time in which we live. So I eat dead animals because I was brought up to eat dead animals. It seemed like almost everyone did when I was younger, and the tiny minority who didn’t certainly had lots of cheese and eggs. It was normal, and it still is normal, just a bit less so.

It’s not uncommon, in the history of human societies, for things once deemed normal to start being deemed wrong. Sometimes it’s something like homophobia, sometimes it’s something like openly criticising those in power – it depends on the time and the society. Maybe all these vegans are harbingers of such a change. It annoys me because it makes me worry that I’m becoming a victim of history, just like all the animals I’ve eaten.

Dwi’n gofidio yn yr un modd a phwy a ŵyr ble fydda i ar hyd y continwwm yn 2019. Rhaid i mi gyfaddef fy mod i’n gogwyddo mwy at begwn feganiaeth neu lysieuaeth nac un o’r opsiynau arall ar hyn o bryd.