Saturday 30 April 2016

Dusty Knuckle

Pwy sy'n adeiladu ffwrn pizza yn ei ardd ar gyfer parti? Dyna wnaeth Phil, perchennog Dusty Knuckle ryw ddegawd yn ôl. Dyma darddiad busnes Dusty Knuckle sydd wedi bod yn fwyty dros dro am bedwar mis ar bymtheg cyn iddo fachu mangre barhaol yn Nhreganna. Mae DK wedi trawsnewid iard gefn siop Crafty Devil i fod yn berl o le.
Ches i ddim cwrs cyntaf ond roedd gweld cynhwysion gan gynhyrchwyr lleol Cymru fel Inner City Pickle a Charcutier Ltd yn arwydd da.

Mae creu pizza da yn anodd ac yn her. Gwnaeth Heston Blumethal egluro'r her rai blynyddoedd yn ôl ar ei raglen “In search of perfection".  Yn syml, mae'r broses o goginio yn lladd blas tyner perlysiau megis basil felly mae angen coginio'r toes cyn gynted â phosib.

Nid yw ffwrn draddodiadol yn gallu ymdopi â’r her yma. Felly, dyma DK yn adeiladu ffwrn ei hun, ffwrn sydd yn cyrraedd gwres o dros 550oF. Mae'r ffwrn yn galluogi DK i greu pizza arbennig. Pizza sydd wedi ennill lle yn netholion 25 pizza gorau ym Mhrydain yn ôl The Times.
Ces i pizza ffenigl gyda selsig Eidalaidd ffenigl gan yr athrylith Illtud Llyr Dunsford yn serenni a pizza pepperoni gyda selsig sydd wedi'u creu yn arbennig ar gyfer DK. Roedd y pizza yn y ffwrn am gwpwl o funudau yn unig. Yn ddigon i bothelli'r toes ond cynnal blas cynhwysion mwy tyner. Mae'r canlyniad yn un hyfryd.
Gyda gwres y tsili o'r pizza yn dal ar fy nhafod roedd hufen iâ yn berffaith ar gyfer pwdin. Unwaith eto, dathlu cynnyrch o Gymru maen nhw'n neud gyda hufen iâ fanila Gwynne's. Roedd y diliau mêl (honeycomb) cartref yn ychwanegu ychydig o wead hefyd.
Mae DK yn sicr o fod yn llwyddiant ac mae'n fwyty arall yn Nhreganna sy'n werth ei brofi.

16 Heol Llandaf
Caerdydd
CF11 9NJ
@dusty_knuckle
Facebook/dustyknuckle

Tuesday 26 April 2016

Dyw pethau ddim yn Hokkei

Mae methiant Hokkei ar ôl codi arian trwy ymgyrch torfol Seedrs wedi cythruddo rhai:

"These guys should be banned from ever using this type of funding again", meddai un blogiwr a meddai @jameskoash: "Something is totally amiss here. A business should not be struggling after a £275k crowdfunding campaign."

I’r rhai ohonoch chi sydd ddim yn gyfarwydd â’r stori, agorwyd Hokkei nôl yn 2014 ar ôl i Dale a Larkin ennill tipyn o sylw yn dilyn rhaglen Masterchef yn 2013. 

O ddarllen erthyglau Wales Online, roedd y cwmni’n ffynnu ac roedd Hokkei am ehangu i fod yn gadwyn o 4 siop/bwyty. Caewyd drysau Hokkei cyn y Nadolig ar gyfer “gwyliau” ond cau am y tro olaf naethon nhw. Beth ar y ddaear digwyddodd felly?
Dyma linell amser o’r brif digwyddiadau:
  • Tachwedd 2014, Hokkei yn agor ei ddrysau
  • Tachwedd 2014, Hokkei yn cau ar ôl ond 48 awr oherwydd y galw mawr am ei fwyd
  • Tachwedd 2014, Hokkei yn ail-agor gyda bwydlen gyfun a dim darpariaeth cludo bwyd
  • Hokkei yn trosi dros £150,000 mewn cyfnod o 3 mis
  • Gorffennaf 2015, yn ôl cyfrifon Hokkei, roedd rhwymedigaethau cyfredol o £280,032, asedau cyfredol o £257, 904, £241, 350 o arian parod a gwerth net o £133, 860
  • 29 Gorffennaf 2015, Diolch i fuddsoddiad gan 218 unigolyn, Hokkei yn llwyddo i godi £317, 610 ar wefan sedrs https://www.sedrs.com/post_investment/16805 
  • 17 Awst 2015, un o’r cyfarwyddwyr, Dale, yn gadael Hokkei
  • 17 Awst 2015, David Heycock yn ymuno â Larkin fel cyfarwyddwyr
  • 2 Hydref 2015, Hokkei yn cyhoeddu y bydd ail safle
  • 22 Rhagfyr 2015, Hokkei yn "cau" am y Nadolig
  • 29 Rhagfyr 2015, David Haycock yn camu lawr fel cyfarwyddwr ac yn gadael Larkin fel unig gyfarwyddwr Hokkei
  • 31 Rhagfyr 2015, aelodau staff Hokkei ddim yn cael eu talu. Mr Beynon yn cael ei benodi er mwyn delio gyda’r cwmni 
  • Ionawr 2016, ymateb Twitter:
Arwydd cynta' nad oedd popeth yn Hokkei

...a phethau'n mynd o ddrwg i waeth
  • Mae'r sylw wedyn yn troi at reolaeth y cwmni ac yr ansicrwydd sydd o gwmpas y cannoedd o filoedd sydd wedi eu buddsoddi gan unigolion trwy wefan sedrs:
Y rhwystredigaeth yn amlwg
Er tegwch i wefan seedrs, maen nhw'n sicrhau bod unigolion yn ymwybodol o'r risg cyn buddsoddi
  • 1 Chwefror 2016, cwmni CVR Global (gweinyddwyr) yn galw cyfarfod er mwyn dyrannu asedau
  • 3 Chwefror 2016, Larkin yn cyfaddef mewn cyfweliad nad oedd model busnes Hokkei yn un cynaladwy. 
Mae rhai yn hynod o rwystredig gyda’r sefyllfa ac yn awyddus i gael esboniad:

“Be interesting to know how they spent their +£300k in less than six months..." Manse1  

Mae natur ac amseru methaint Hokkei wedi denu sylw blogiwr Fantasy Crowdfunding:
Mae'r blogiwr hwn yn hynod o feirniadol o lwyfannau torfol yn gyffredinol. Yn wir, mae sawl unigolyn yn rhannu amheuaeth Fantasy Crowdfunding, "It's too easy for bad businesses to raise finance" a "diligence is overdue."

Y bennod nesaf yn stori Hokkei yw adroddiad gan y gweinyddwyr. Bydd yr adroddiad yn ateb cwestiwn sydd ar wefusau nifer o bobl: i ble aeth yr arian? Mae'r broses yma wedi bod yn boenus o araf hyd yma:
Thomas Davies, Prif Swyddog Gwybodaeth, Seedrs
Cawn weld beth yw cynnwys yr adroddiad maes o law.

Dwi wedi cysylltu â Larkin (19 Ebrill 2016) yn gofyn am ei farn ar yr honiadau yma ond dydw i heb dderbyn ateb eto.

Friday 22 April 2016

Chutney Roti

Dyma fy mlog cyntaf ar fwyty cyri. Er bod y brifddinas yn llawn o fwytai cyri, dwi gan amlaf yn dewis bwyta ym Mint & Mustard neu Purple Poppadom. Mae ansawdd eu bwyd ac eu harloesedd o ran trawsnewid prydau traddodiadol wedi codi safon y math yma o fwyd i lefel dyw Caerdydd ddim wedi ei weld o'r blaen. Mae'r bwyd yn ddrud serch hynny gyda bwydlen blasu yn costio £45 (PP) a £40 (MM).

Mae Moksh, lawr yn y bae yn haeddu ychydig o sylw hefyd (£40 am y fwydlen blasu). Mae'r cogydd, Stephen Gomes yn llawn brwdfrydedd ac yn fwy arbrofol na neb hyd y gwelaf i. Oherwydd yr arbrofi yma, ma 'rhaid' bod yn oddefgar at ambell i fethiant. Mae Moksh yn ceisio creu profiad sy'n apelio at y synhwyrau i gyd. O wynt cardamom yn cael ei ledaenu drwy fwg y liquid nitrogen i weini pwdin trwy ei daflu o'ch blaenau - mae'r cogydd yn fwy o wyddonydd gwallgo’ na chogydd.
Os nad ydych chi am brofi theatr Moksh neu ddim am wario cymaint ar gyri PP neu MM, mae Chutney Roti ar Whitchurch Road yn ateb y briff.

Nid yw'r bwyd cystal â M&M na PP ond mae £25 am fwydlen blasu pum cwrs yn cynrychioli gwerth am arian gwell nag unrhyw fwyty cyri arall yng Nghaerdydd.
Gyda phris mor isel, roeddwn i’n disgwyl llwyth o garbohydradau fel reis a bara ond roedd y tri chwrs cyntaf llawn protin: cyw iâr basil a tikka, kofta cig oen a physgodyn tikka. Byddai'n well gen i gael pysgodyn gyda gwead mwy cigog fel maelgi ond bydd hynny’n sicr o gynyddu’r pris. Dechreuad addawol iawn i’r pryd.
Fel prif gwrs mae tri gwahanol gyri, daal, reis a thri gwahanol fath o fara naan. Mae’r fath o gyri yn newid o yn go aml ond y bwriad yw i gael blas gwahanol fathau o ran y cig/pysgod (cyri cyw iâr, cig oen a chorgimwch) a’r blas (cyri wedi’i sbeisio’n ysgafn, cymedrol a phoeth). Mae’r bara nann (plaen, garlleg a peshwari) yn ysgafn ac yn flasus.
I bwdin mae’r cacen gaws gyda hufen iâ. Does dim byd arbennig am y melysfwyd ond mae’n gyfle i ryfeddu at ba mor rhesymol mae’r pryd. Dwi wedi cael y fwydlen yma ddwywaith a dwi’n gadael heb deimlo’n orlawn a theimlo fel fy mod wedi blasu rhan helaeth o’r fwydlen. Hyn oll am ond £25 ac mae bwydlen blasu lysieuol ar gael hefyd am £19.99 yn unig. Bargen.
Y bwyty cyri gorau yng Nhaerdydd? Nage, ond dwi’n amau cewch chi fwyty cyri sy’n cynnig gwell gwerth am arian.

Chutney Roti
90 – 92 Whitchurch Road
Caerdydd
CF14 3LY

02920231511 / 02920236833
info@chutneyroti.co.uk 

Monday 4 April 2016

Hare & Hounds, Aberthin

Rwy’n hoff iawn o fwyd tafarn da. Bwyd syml fel lasagne a sglodion neu selsig a stwnsh am bris rhesymol mewn awyrgylch cymharol anffurfiol. Roeddwn i’n edrych ymlaen felly at ginio yn nhafarn Hare & Hounds yn Aberthin. Ar ôl ond ychydig o funudau roedd hi’n amlwg i mi nad tafarn gyffredin mo'r Hare & Hounds.
I ddechrau ces i foch mochyn crimp gyda saws mwstard. Roedd asidedd y saws yn torri trwy fraster a chyfoethogrwydd y porc.
Profais gwrs cyntaf fy nghariad, y madarch. Roedd e’n gyfuniad o ryw fath o carpaccio madarch amrwd ar ben rhywbeth yn debyg i tapenade madarch. Roedd e’n ddechreuad arbennig o dda - mi oedd e mor dda, archebais i un i fy hun.
Fel prif gwrs ces i’r cig carw - ysgwydd carw wedi’i goginio’n araf. Mae’r asgwrn glân yn dangos pa mor dda oedd y cig carw wedi’i goginio. Roedd y cig yn dyner a llawn blas. Roedd y crochan o gig carw i’w rannu rhwng dau ond roedd e’n ddigon i fwydo teulu o bedwar!
Dw i ddim wedi profi bwyd tafarn tebyg i hyn erioed, ac wrth sgwrsio gyda’r weinyddes, sylweddolais pam. Mae’r cogydd, Tom Watts-Jones, wedi treulio saith mlynedd yn coginio yn Anchor & Hope a’r bwyty Michelin, St John yn datblygu ei sgiliau. Mae’r cynnyrch yn arbennig o dda hefyd gyda mam y cogydd yn gweithio fel garddwr i’r bwyty. Mae’r cyfuniad o gynnyrch lleol a sgiliau’r cogydd yn profi i fod yn un llwyddiannus iawn i’r Hare & Hounds.

Wythnos yn ddiweddarach es i nôl ar gyfer cinio dydd Sadwrn a mwynheuais cymaint, dwi wedi archebu bwrdd ar gyfer y mis nesa.

Hare & Hounds,
Aberthin,
Y Bontfaen,
CF71 7LG
01446 774892
info@hareandhoundsaberthin.com
@Hare__Hounds