Friday 23 August 2013

Café Città: Bwyd syml ar ei orau…

Yn anaml iawn bydda i’n cytuno gyda Trip Advisor. Mae yna eithriadau serch hynny, ac mae bwyty Café Città ar Heol yr Eglwys yng Nghaerdydd yn un. Dydw i ddim o reidrwydd yn cytuno mai dyma Y bwyty gorau yng Nghaerdydd, ond mae e yn un o’r llefydd, os nad y lle gorau, am Pizza.

Mae’r bwyty ei hun yn un cul gyda chegin fach yn y cefn. Dim ond lle i ryw 25 person sydd.


Syml iawn yw’r fwydlen ac mae popeth i'w weld yn ddigon safonol am fwyty Eidalaidd. I ddechrau, ces i’r Melanzane alla Parmagiana (£5.00). Dwi wedi cael rhywbeth tebyg mewn bwyty arall yng Nghaerdydd a ces i fy siomi pan daeth powlen o blanhigyn wy amrwd a chwerw, saws tomato priddlyd, a phopeth yn morio mewn olew. Does dim modd torri corneli gyda phryd mor syml. Mi oedd Melanzane Café Città yn wych. Fel mae’r llun yn dangos, does dim cyflwyniad ffansi. Y cynhwysion o safon uchel sydd yn cael y sylw, ac yn yr achos yma, yn serenni.

Melanzane alla Parmagiana
Ar gyfer prif gwrs, rhannais i Pizza Città (£8.90): ham Parma salad berwr a chaws parmesan a Linguine Città (£8.50) (tomato heulgras, caws ricotta, hufen, cnau pîn wedi’u rhostio, dail berwr a tsili) gyda fy nghariad.


Ham Parma, salad berwr a chaws parmesan
Mae pleser y prif gwrs yn dechrau cyn i’r bwyd gyrraedd fy mwrdd. Gyda bwyty mor fach â chegin agored mae’n bosib gweld y cogydd yn paratoi’r bwyd. Roedd paratoi’r pizza yn dod â bach o theatr i’r noson gyda’r cogydd yn troi a throsi toes y pizza yn yr awyr.


Mae’r pizza yn syml ond yn wych. Mae’r ffwrn tân pren yn creu tymheredd uchel er mwyn coginio’r toes tenau yn sydyn grimp, heb or-goginio’r cynhwysion ar ben y pizza.

Ffwrn tân pren

Mi oedd y Linguine Città yn dda iawn ond dim cystal â’r pizza. Unwaith eto, syml iawn yw’r cyflwyniad (ychydig yn flêr os unrhyw beth) ond anodd iawn yw pigo gwendid o ran ei flas. Wedi dweud hynny, dwi’n falch mai rhannu’r plât nes i oherwydd dwi’n amau y byddai llond plât o linguine, hufen a chaws ricotta yn ormod. Mi oedd angen llai o fraster, neu rywbeth i dorri trwyddo. Mi oedd y tomato heulgras yn flasus, y cnau pîn yn ategu gwead crenshlyd a’r caws parmesan yn hallt braf.

Linguine, tomato heulgras, caws ricotta, hufen, cnau pîn wedi’u rhostio, dail berwr a tsili

Doedd dim chwant unrhyw beth melys arnaf ar ôl y pasta cyfoethog a daeth y bil i £120 am bedwar (gan gynnwys potel o Prosecco, tri chwrw a childwrn).

Y peth sydd yn fy nharo i yn bennaf yw bod perchnogion Città ddim yn gwneud yn fawr o’r lle sydd gyda nhw. Dim gwefan, dim presenoldeb ar gyfryngau cymdeithasol na unrhyw farchnata hyd y gwela i. Wedi dweud hynny, does dim rhaid iddyn nhw wneud unrhywbeth. Coginio bwyd Eidalaidd syml, a gwneud hynny yn ddiffwdan a diymdrech. Mae’r agwedd hamddenol at hyrwyddo’u hunain yn amlwg a dydy e ddim yn fy synnu i glywed eu bod nhw wedi gwrthod (mwy nag unwaith) gwahoddiad y cogydd Marco Pierre White i ymddangos ar ei raglen 'Kitchen Wars' ar Sianel 5 y llynedd. Er gwaethaf hyn oll, mae’r bwyty yn ffynnu ac yn aml dan ei sang.

Os ydy bwyd syml Eidalaidd yn apelio, dwi'n hyderus iawn y byddwch chi wrth eich boddau yn bwyta yma.

4 Heol yr Eglwys, Caerdydd, CF10 1BG
029 2022 4040