Showing posts with label Eidalaidd. Show all posts
Showing posts with label Eidalaidd. Show all posts

Monday, 6 July 2015

Il Pastificio - perl Penylan

Mae’n gychwyn pennod newydd i fwyty Il Pastificio heddiw (8fed o Orffennaf). Mae bwyty Il Pastificio yn gadael Heol Wellfield ac yn agor eu drysau am y tro cyntaf ar Heol Penylan, cyferbyn â thafarn The Claude.

Gyda hi’n anodd iawn cael bwrdd, mae’n beth da bod Il Pastificio nawr mewn bwyty llawer mwy.


Dw i wedi cwympo mewn cariad gyda’r lle. Yn syml, mae’n wych. Mae personoliaeth ac egni yn perthyn i’r lle sydd ddim ar gael unrhywle arall yng Nghaerdydd. Mae’r cogydd yn llawn bywyd ac yn cyfarch a sgwrsio gyda’r cwsmeriaid. Mae’r gegin agored yn llwyfan iddo fe a’r tîm i berfformio a gyda’r cogyddion a gweinwyr yn siarad Eidaleg, mae’r naws yn hyfryd. Dw i’n gobeithio bydd y fangre newydd yn gallu ail greu’r awyrgylch yma. Yn sicr, dw i’n gobeithio bydd cegin agored yno er mwyn i’r cwsmeriaid cael gweld y cogyddion yn perfformio. 


Mae’r bwyd ei hun yn hynod o syml. I ddechrau gofynnais i am gorgimwch mawr, tomato a saws tomato sbeislyd a dyna’r union beth ges i. Doedd dim byd ‘cheffy’ am y pryd, dim ond bwyd syml wedi’i goginio’n dda.

Corgimwch mawr (£7.95)
Roedd yr un peth yn wir am y prif gwrs. Stecen llygad yr asen gyda sbigoglys a chaws gorgonzola. Syml a blasus. Roedd y risotto gydag ysbinbysg y môr yn arbennig. Ffiledwyd y pysgodyn mewn eiliadau ac fe ffriwyd yn ysgafn i greu pryd tyner iawn.

Stecen 'ribeye' gyda sbigoglys a chaws gorgonzola (£23.95)
Risotto gydag ysbinbysg y mor (£18.95)
Roedd y gwin yn llifo erbyn hyn ac er i mi deimlo’n llawn, roedd gweld pwdinau ar fyrddau pobl eraill yn ormod o demtasiwn i mi.

Fy newis i oedd y darten lemwn. Roedd y crwst yn denau ac yn frau ond gallu cynnal y llenwad.

Crostata al Limone £4.50
Ar ddiwedd noson llawn hwyl, daeth y cogydd allan eto a chynnig gwydred o limoncello am ddim i ni. Roedd y cogydd yr un mor egnïol ar ddiwedd y noson, yn wir, roedd ef allan ar ganol yr heol yn ceisio cael tacsi i rai o’u cwsmeriaid! 

Mae Il Pastificio wir yn berl o le a gyda thîm mor angerddol a brwdfrydig wrth y llyw, dw i’n sicr bydd pennod nesaf Il Pastificio yn un llwyddiannus a llewyrchus.

Sunday, 10 May 2015

Carluccio's, Bae Caerdydd

Mae'r bae llawn bwytai cadwyni a pharhau mae'r tuedd yma. Yn ddiweddar mae bwyty Bill's wedi agor lle oedd Woods ac nawr mae bwyty poblogaidd Carluccio's lle oedd bwyty Cafe Rouge gynt.

Yr wythnos diwethaf cafwyd lansiad bwyty diweddaraf Carluccio's a ges i'r cyfle i gwrdd a'r dyn ei hun.


Nid yw Antonio'n gweithio gyda'r bwyty bellach ond mae dal i fod yn llysgennad i'r cwmni. Pleser oedd cael cwrdd gydag ef a chlywed y rhesymau tu nôl iddyn nhw agor bwyty arall yn y brifddinas. Dyma'r hyn oedd gyda'r dyn ei hun i ddweud:


Carluccio's
Bae Caerdydd
CF10 5BZ
02920460201

Sunday, 1 September 2013

Bwyty a Pizzeria Stefano’s


Dyma fwyty Eidalaidd gorau de Cymru yn ôl gwobrau bwyd a diod South Wales Echo, 2013. Wedi i mi fwyta yno yn ddiweddar, dwi’n cytuno gyda hyn. Mae yna ‘ond’ mawr ac mi wnaf ddelio gyda hynny nes ymlaen.


Mae’r fwydlen ei hun yn eang ac yn hynod o ddiddorol. Ces i anhawster gyda dewis pob un cwrs. Mae yna bymtheg dewis ar gael fel cwrs cyntaf (heb gynnwys y prydiau pasta sydd ar gael fel cwrs cyntaf hefyd). Mae yna rhai prydau diddorol iawn fel Agnello (£9.95) (bron cig oen gyda phiwri pys a mint) a Polpo (£9.25) (carpaccio octopws gyda dail berwr a mayonnaise mwstard). Ces i’r Capesante (£10.95) (sgolop wedi’i serio ar wely o ffa cannellini wedi’i falu, ham Parma gyda mymryn o besto dail berwr).

Capesante
Mi oedd hwn yn wych. Er nad yw’r llun yn dangos hyn yn rhy dda ond mi oedd yr ham Parma hallt, tenau a chrimp yn gweddu’n berffaith gyda’r sgolop melys. Mi oedd y sgolop ei hun wedi’i goginio gyda llwyth o bupur du a does rhaid i mi ddweud pa mor llwyddiannus yw’r cyfuniad o sgolop melys a chig hallt. Mi oedd y ffa cannellini yn rhoi sylwedd i’r pryd ond dyma fân-wendid y pryd. Mi oedd cynnwys y ffa yn beth da ond mi oedd e mwy fel piwri nac fel yn ôl y fwydlen, 'wedi’i falu'. Roedd y piwri yn cynnwys ychydig o groen gwydn y ffa ac mi oedd hyn yn tarfu ar ambell i lond pen. Ar y cyfan mi oedd e’n hynod o flasus,  gyda’r plated gorau o fwyd dwi wedi’i fwyta yng Nghaerdydd eleni.

Tagliatelle Salsicca
Ces i’r Tagliatelle Salsicca (£13.95) (Selsig sbeislyd Eidalaidd mewn saws planhigyn wy a thomato) i ddilyn. Unwaith eto mae yna lwyth o ddewis ar gael. Y cam cyntaf yw dewis y pasta cyn dewis y saws sy’n amrywio o Salmone (£14.95) (darnau o eog ffres mewn saws ffenigl ysgafn ac hufenog, a saws tomato bychan) i’r Pollo (£13.95) (cyw iâr wedi’i ffrio’n ysgafn gyda saws hufenog gorgonzola a seleri).

Mi oedd ansawdd y pasta pen ac ysgwydd yn well na’r hyn sydd yn cael ei weini mewn nifer o fwytai a thafarndai. Mi oedd y gwres o’r selsig fel ton ac yn cynnig crescendo o flas pob llond pen.

Pizza ham Parma, pupur gwyrdd a winwns
Rhannais i pizza gyda fy nghariad ac unwaith eto roedd yna lwyth o ddewis. Mae pizza deng modfedd gyda chaws yn costio £9.50 ac mae’r gost o ychwanegu gwahanol cynhwysion yn amrywio. Ces i pizza gyda ham Parma, pupur gwyrdd a winwns (£15.50). Mae’r dull o adeiladu’r pizza eich hun yn ffordd ddrud iawn ac nid yw’r gost yn un rhesymol. Mi oedd y pizza ei hun yn dda gyda’r cynhwysion yn flasus ond gallai’r toes fod wedi cael bach mwy o dân. Efallai dwi’n rhy feirniadol yn dweud hynny ond am £15.50, dwi’n disgwyl perffeithrwydd.

Mae yna ddewis o brif gwrs (prisiau’n amrywio o £16.50 i £26.95) ond mi oeddwn i’n llawn dop erbyn hyn! Mi oedd sawl pryd yn serennu a’r tro nesaf dwi’n gobeithio rhoi cynnig ar Filletto rossini neu’r Cervo al vino rosso.

Tartufo lemwn
Mi oeddwn i’n llawn ond ar ôl saib fach, archebais i’r hufen iâ lemwn gyda chraidd liqueur meddal, gyda chrwst o meringue lemwn (£4.95). Y lemwn yn adfywiol neis wedi bwyta cymaint ond mi oedd y meringue wedi meddalu’n sylweddol ac mi oeddwn i’n disgwyl darnau mwy crimp fel gwrthgyferbyniad i’r hufen iâ meddal.

Mi oedd safon y bwyd a’r gwasanaeth wir yn dda ond dim ond tri bwrdd arall oedd yno trwy’r nos. Gyda’r cwsmeriaid oedd yno (28/8/13) yn cael carden sydd yn cynnig 20% i ffwrdd o’r bil y tro nesaf, a’r talebau oedd ar gael ar wefan Groupon, dwi ond gallu meddwl mai’r pris sydd yn troi pobl i ffwrdd.

Dwi’n credu byddai’n werth chweil i Stefano’s gynnig bwydlen nos gyda phris gosodedig – £35 neu £37.50 am bedwar cwrs. Heb os, mae angen iddyn nhw edrych ar strwythur prisio pizza – pwy fyddai’n credu bod pizza deng modfedd gyda chyw iâr, ham Parma a merllys yn costio crocbris o £20?

Bwyty a Pizzeria Stefano’s
14 Cilgant Romilly
Pontcanna
Caerdydd
CF11 9NR

029 2037 2768

http://www.stefanos.co.uk/
info@stefanos.co.uk
@stefanoscardiff

Friday, 23 August 2013

Café Città: Bwyd syml ar ei orau…

Yn anaml iawn bydda i’n cytuno gyda Trip Advisor. Mae yna eithriadau serch hynny, ac mae bwyty Café Città ar Heol yr Eglwys yng Nghaerdydd yn un. Dydw i ddim o reidrwydd yn cytuno mai dyma Y bwyty gorau yng Nghaerdydd, ond mae e yn un o’r llefydd, os nad y lle gorau, am Pizza.

Mae’r bwyty ei hun yn un cul gyda chegin fach yn y cefn. Dim ond lle i ryw 25 person sydd.


Syml iawn yw’r fwydlen ac mae popeth i'w weld yn ddigon safonol am fwyty Eidalaidd. I ddechrau, ces i’r Melanzane alla Parmagiana (£5.00). Dwi wedi cael rhywbeth tebyg mewn bwyty arall yng Nghaerdydd a ces i fy siomi pan daeth powlen o blanhigyn wy amrwd a chwerw, saws tomato priddlyd, a phopeth yn morio mewn olew. Does dim modd torri corneli gyda phryd mor syml. Mi oedd Melanzane Café Città yn wych. Fel mae’r llun yn dangos, does dim cyflwyniad ffansi. Y cynhwysion o safon uchel sydd yn cael y sylw, ac yn yr achos yma, yn serenni.

Melanzane alla Parmagiana
Ar gyfer prif gwrs, rhannais i Pizza Città (£8.90): ham Parma salad berwr a chaws parmesan a Linguine Città (£8.50) (tomato heulgras, caws ricotta, hufen, cnau pîn wedi’u rhostio, dail berwr a tsili) gyda fy nghariad.


Ham Parma, salad berwr a chaws parmesan
Mae pleser y prif gwrs yn dechrau cyn i’r bwyd gyrraedd fy mwrdd. Gyda bwyty mor fach â chegin agored mae’n bosib gweld y cogydd yn paratoi’r bwyd. Roedd paratoi’r pizza yn dod â bach o theatr i’r noson gyda’r cogydd yn troi a throsi toes y pizza yn yr awyr.


Mae’r pizza yn syml ond yn wych. Mae’r ffwrn tân pren yn creu tymheredd uchel er mwyn coginio’r toes tenau yn sydyn grimp, heb or-goginio’r cynhwysion ar ben y pizza.

Ffwrn tân pren

Mi oedd y Linguine Città yn dda iawn ond dim cystal â’r pizza. Unwaith eto, syml iawn yw’r cyflwyniad (ychydig yn flêr os unrhyw beth) ond anodd iawn yw pigo gwendid o ran ei flas. Wedi dweud hynny, dwi’n falch mai rhannu’r plât nes i oherwydd dwi’n amau y byddai llond plât o linguine, hufen a chaws ricotta yn ormod. Mi oedd angen llai o fraster, neu rywbeth i dorri trwyddo. Mi oedd y tomato heulgras yn flasus, y cnau pîn yn ategu gwead crenshlyd a’r caws parmesan yn hallt braf.

Linguine, tomato heulgras, caws ricotta, hufen, cnau pîn wedi’u rhostio, dail berwr a tsili

Doedd dim chwant unrhyw beth melys arnaf ar ôl y pasta cyfoethog a daeth y bil i £120 am bedwar (gan gynnwys potel o Prosecco, tri chwrw a childwrn).

Y peth sydd yn fy nharo i yn bennaf yw bod perchnogion Città ddim yn gwneud yn fawr o’r lle sydd gyda nhw. Dim gwefan, dim presenoldeb ar gyfryngau cymdeithasol na unrhyw farchnata hyd y gwela i. Wedi dweud hynny, does dim rhaid iddyn nhw wneud unrhywbeth. Coginio bwyd Eidalaidd syml, a gwneud hynny yn ddiffwdan a diymdrech. Mae’r agwedd hamddenol at hyrwyddo’u hunain yn amlwg a dydy e ddim yn fy synnu i glywed eu bod nhw wedi gwrthod (mwy nag unwaith) gwahoddiad y cogydd Marco Pierre White i ymddangos ar ei raglen 'Kitchen Wars' ar Sianel 5 y llynedd. Er gwaethaf hyn oll, mae’r bwyty yn ffynnu ac yn aml dan ei sang.

Os ydy bwyd syml Eidalaidd yn apelio, dwi'n hyderus iawn y byddwch chi wrth eich boddau yn bwyta yma.

4 Heol yr Eglwys, Caerdydd, CF10 1BG
029 2022 4040

Sunday, 7 July 2013

Ddim cweit wedi fy hudolu gan Casanova

Yn ôl llawer, Casanova yw bwyty Eidaleg orau’r brifddinas. Yn ôl ei gwefan, amcan perchnogion y bwyty (Antonio Cersosimo, Luca Montuori ac Angelo Montuori) yw dod â gwir flas Eidalaidd i Gaerdydd. Er mwyn cyflawni’r amcan yma, maen nhw’n ymfalchïo yn y ffaith eu bod nhw’n: 1) adnabod pob un o’u cyflenwyr; 2) ond yn cynnig bwydlen gryno; 3) ond yn defnyddio cynnyrch tymhorol a lleol.

Roedd yr rhain i gyd yn rhesymau mwy na digon da i mi archebu bwrdd yno ar y 4ydd o Fehefin 2013.

Yr unig beth am leoliad Casanova yw ei hygyrchedd. Yn anffodus, mae’r olygfa wrth edrych allan o’r bwyty yn hyll, yn bennaf oherwydd maes parcio salw NCP, a hefyd oherwydd ysmygwyr o dafarn drws nesaf - City Arms, sydd yn ymgynnull yno.

Does dim angen llawer o amser i ddarllen y fwydlen oherwydd cyn lleied o opsiynau sydd ar gael. Dwi’n gwybod bod hwn yn destun beirniadaeth gan rhai o bobl sydd wedi bwyta yn Casanova ond mi oedd y fwydlen yn ddigon cytbwys fy marn i. Yn ogystal, dwi’n meddwl bod cael bwydlen fwy cyfyng yn aberth gwerth chweil os ydy hyn yn sicrhau pryd da o fwyd. 

Yr unig wendid weles i oedd y ffaith bo’r prisiau’n osodedig: £15 am un cwrs; £22 am ddau gwrs; a £26 am dri chwrs. Dwi’n dweud posib oherwydd dwi’n ystyried £15 am Agnello (rac o gig oen wedi’i rhostio gydag ysgwydd wedi’i frwysio, pastai tatws a llysiau gwyrdd wedi’u goginio gyda garlleg a thomato) yn rhesymol tu hwnt, ond yn hynod o ddrud am Risotto (reis Carnaroli traddodiadol gydag asbaragws a chaws parmesan wedi’i aeddfedu am 36 mis).

I ddechrau ces i’r Terrina (terîn cyw iâr, asparagws a ham, salad dail cymysg gyda dresin mwstard).


Blasus iawn. Blas y cyw iâr yn amlwg iawn ac yn gweithio’n dda gyda’r ham hallt. Roedd yr asbaragws al dente ynghyd â’r crostini yn cynnig gwead gwrthgyferbyniol a phleserus. Yr unig wendid oedd cael dau ddarn bach o crostini - gyda darn hael o terrina - roedd angen mwy.

Ces i’r Maiale fel prif gwrs: bola mochyn wedi’i rostio’n araf gyda phicl twym; selsigen gartref gyda ffa wedi’u barbeciwio; a phwdin gwaed gyda phiwrî afal.


Wedi i mi gwpla’r pryd, rhwystredigaeth oedd y teimlad pennaf. Rhwystredigaeth oherwydd iddo fe bron iawn a bod yn bryd arbennig. Mi oedd bola’r mochyn wedi cael ychydig gormod o dân, ac haenen dop y braster ddim digon crimp. Mi oedd gweddill y pryd yn flasus iawn, y finegr o’r picl twym yn torri trwy fraster y bola yn wych, pwdin gwaed hallt yn gweddu’n berffaith gyda melystra piwrî’r afal; ac mi oedd y selsigen gyda’r orau dwi erioed wedi blasu.

Roedd gwin safonol y bwyty i fod yn sych. Doedd e ddim, ac am bum ceiniog yn brin o chwe phunt am wydr, ‘roeddwn i’n disgwyl gwell.

Pwdin. Gyda Pannacotta, Dolce di Riso a Torta al Cioccolato ar yr un fwydlen, mi oedd y dewis yn un anodd. Ar ôl ychydig o feddwl es i am y clasur, Tiramisû.


Fel mae’r llun yn dangos, mae maint y pwdin yn hael iawn. Fy argraff gyntaf oedd ei fod e’n rhy hael – yn enwedig ar ôl y dau gwrs blaenorol. Ond gyda’r bisgedi Savoiardi yn llaith o’r coffi a’r Marsala, a’r caws mascarpone yn ysgafn, llwyddais i fwyta’r tiramisu heb ormod o drafferth! Un sypreis neis oedd y darnau siocled tywyll yn cuddio rhwng y bisgedi a’r caws. Mi oedd e’n wrthgyferbyniad da ac yn gwbl wahanol i’r arfer.

Gyda gwydred o win melys Passito Sagrantino ac espresso cyn i mi adael, daeth y bil i £77 ar gyfer dau – rhesymol iawn am bryd nos yn y brifddinas.

Gydag ambell i fân-newid fan hyn a fan draw, dwi’n sicr y bydd Casanova yn fwyty o safon uchel iawn.

Casanova
13 Quay St
Caerdydd
CF10 1EA
029 2034 4044
@CasanovaCardiff