Dyma fwyty Eidalaidd gorau de Cymru yn ôl gwobrau bwyd a diod South Wales Echo, 2013. Wedi i mi fwyta yno yn ddiweddar, dwi’n cytuno gyda hyn. Mae yna ‘ond’ mawr ac mi wnaf ddelio gyda hynny nes ymlaen.
Mae’r fwydlen ei hun yn eang ac yn hynod o ddiddorol. Ces i anhawster gyda dewis pob un cwrs. Mae yna bymtheg dewis ar gael fel cwrs cyntaf (heb gynnwys y prydiau pasta sydd ar gael fel cwrs cyntaf hefyd). Mae yna rhai prydau diddorol iawn fel
Agnello (£9.95) (bron cig oen gyda phiwri pys a mint) a
Polpo (£9.25) (
carpaccio octopws gyda dail berwr a
mayonnaise mwstard). Ces i’r
Capesante (£10.95) (sgolop wedi’i serio ar wely o ffa
cannellini wedi’i falu, ham Parma gyda mymryn o besto dail berwr).
|
Capesante |
Mi oedd hwn yn wych. Er nad yw’r llun yn dangos hyn yn rhy dda ond mi oedd yr ham Parma hallt, tenau a chrimp yn gweddu’n berffaith gyda’r sgolop melys. Mi oedd y sgolop ei hun wedi’i goginio gyda llwyth o bupur du a does rhaid i mi ddweud pa mor llwyddiannus yw’r cyfuniad o sgolop melys a chig hallt. Mi oedd y ffa
cannellini yn rhoi sylwedd i’r pryd ond dyma fân-wendid y pryd. Mi oedd cynnwys y ffa yn beth da ond mi oedd e mwy fel piwri nac fel yn ôl y fwydlen, 'wedi’i falu'. Roedd y piwri yn cynnwys ychydig o groen gwydn y ffa ac mi oedd hyn yn tarfu ar ambell i lond pen. Ar y cyfan mi oedd e’n hynod o flasus, gyda’r plated gorau o fwyd dwi wedi’i fwyta yng Nghaerdydd eleni.
|
Tagliatelle Salsicca |
Ces i’r
Tagliatelle Salsicca (£13.95) (Selsig sbeislyd Eidalaidd mewn saws planhigyn wy a thomato) i ddilyn. Unwaith eto mae yna lwyth o ddewis ar gael. Y cam cyntaf yw dewis y pasta cyn dewis y saws sy’n amrywio o
Salmone (£14.95) (darnau o eog ffres mewn saws ffenigl ysgafn ac hufenog, a saws tomato bychan) i’r
Pollo (£13.95) (cyw iâr wedi’i ffrio’n ysgafn gyda saws hufenog
gorgonzola a seleri).
Mi oedd ansawdd y pasta pen ac ysgwydd yn well na’r hyn sydd yn cael ei weini mewn nifer o fwytai a thafarndai. Mi oedd y gwres o’r selsig fel ton ac yn cynnig
crescendo o flas pob llond pen.
|
Pizza ham Parma, pupur gwyrdd a winwns |
Rhannais i
pizza gyda fy nghariad ac unwaith eto roedd yna lwyth o ddewis. Mae
pizza deng modfedd gyda chaws yn costio £9.50 ac mae’r gost o ychwanegu gwahanol cynhwysion yn amrywio. Ces i
pizza gyda ham Parma, pupur gwyrdd a winwns (£15.50). Mae’r dull o adeiladu’r pizza eich hun yn ffordd ddrud iawn ac nid yw’r gost yn un rhesymol. Mi oedd y
pizza ei hun yn dda gyda’r cynhwysion yn flasus ond gallai’r toes fod wedi cael bach mwy o dân. Efallai dwi’n rhy feirniadol yn dweud hynny ond am £15.50, dwi’n disgwyl perffeithrwydd.
Mae yna ddewis o brif gwrs (prisiau’n amrywio o £16.50 i £26.95) ond mi oeddwn i’n llawn dop erbyn hyn! Mi oedd sawl pryd yn serennu a’r tro nesaf dwi’n gobeithio rhoi cynnig ar
Filletto rossini neu’r
Cervo al vino rosso.
|
Tartufo lemwn |
Mi oeddwn i’n llawn ond ar ôl saib fach, archebais i’r hufen iâ lemwn gyda chraidd liqueur meddal, gyda chrwst o meringue lemwn (£4.95). Y lemwn yn adfywiol neis wedi bwyta cymaint ond mi oedd y meringue wedi meddalu’n sylweddol ac mi oeddwn i’n disgwyl darnau mwy crimp fel gwrthgyferbyniad i’r hufen iâ meddal.
Mi oedd safon y bwyd a’r gwasanaeth wir yn dda ond dim ond tri bwrdd arall oedd yno trwy’r nos. Gyda’r cwsmeriaid oedd yno (28/8/13) yn cael carden sydd yn cynnig 20% i ffwrdd o’r bil y tro nesaf, a’r talebau oedd ar gael ar wefan
Groupon, dwi ond gallu meddwl mai’r pris sydd yn troi pobl i ffwrdd.
Dwi’n credu byddai’n werth chweil i Stefano’s gynnig bwydlen nos gyda phris gosodedig – £35 neu £37.50 am bedwar cwrs. Heb os, mae angen iddyn nhw edrych ar strwythur prisio
pizza – pwy fyddai’n credu bod
pizza deng modfedd gyda chyw iâr, ham Parma a merllys yn costio crocbris o £20?
Bwyty a Pizzeria Stefano’s
14 Cilgant Romilly
Pontcanna
Caerdydd
CF11 9NR
029 2037 2768
http://www.stefanos.co.uk/
info@stefanos.co.uk
@stefanoscardiff
No comments:
Post a Comment