Tuesday 17 September 2013

Urban Diner

Ar y 10fed o fis Medi ail-agorodd Urban Diner (UD) ym Mhontcanna - partneriaeth rhwng Marc Palladino (Pizzeria Villaggio, Eglwys Newydd) a Padraig Jones (yn gynt o Le Gallois, King's Arms, Pentyrch a Fish @ 85).

Mae Padraig wedi cael tipyn o lwyddiant yn y brifddinas gyda phob un o'r tri bwyty yn cael sylw yn y Good Food Guide tra oedd ef yn y gegin.

Ddeuddydd ar ôl i'r lle ail-agor, es i gyda fy mrawd am fwyd yno. Mae Mark a Paj wedi etifeddu llawer o'r stoc o'r perchnogion blaenorol a mi fydd e'n cymeryd ychydig mwy o amser iddyn nhw roi eu stamp ar y lle e.e. mi fydd UD yn cynnig saws coch sydd wedi ei greu gan Paj ar ôl iddyn nhw ddefnyddio stoc saws coch Heinz.

Mae Paj wedi rhoi ei stamp ar y cwrs cyntaf serch hynny. Dwi wedi bwyta yn Fish @ 85 sawl gwaith ac mi oedd y cwrs cyntaf yn UD yr union yr un peth: Corgimwch mawr gyda garlleg a tsili (£8.50) a sgwid halen a tsili gyda saws nam prik (£7.50).



Mi oedd y ddau bryd yn arbennig o dda ond y prif reswm am fy ymweliad oedd cael profi y bwrger. Dwi wedi profi sawl un yn ddiweddar ac roedd safon bwrger UD yn wych.



Mi wnaeth y brioche wedi ei dostio'n ysgafn gyfrannu at lwyddiant y pryd. Mae’n gas gen i fara ysgafn sydd yn troi'n llipa wrth iddo amsugno'r sudd, neu rholyn gyda chrwst caled sydd yn claddu ei hun i dop eich ceg gyda phob cnoiad.

Mi oedd y bwrger ei hun yn binc ac yn flasus tu hwnt. Ces i'r Urban Smokey cig moch brith, caws Monterey jack, winwns wedi’u carameleiddio a saws wedi’i fygu (£11) a dewis o dri slider: Urban classic, Urban cheese, bwrger gyda chaws Hafod ac Urban S’hrooms & truffle (madarch gwyllt gyda truffle (£12).



Anamal iawn y bydda i yn archebu 'sliders' oherwydd y tuedd sydd i'r bwrger bach sychu allan. Fel mae'r llun yn dangos, doedd hwn ddim yn broblem yn yr achos yma.


Braf iawn oedd cael amrywiaeth ac mi oedd y bwrgwr gyda madarch a truffle yn wych. Y bwrger gorau dwi wedi blasu yng Nghaerdydd.

Mi oedd gwendidau.

Y cylchoedd winwns!
Duw a wyr beth ddigwyddodd fan hyn, y cytew yn glynu at ei gilydd am wn i. Gwell gen i flas cryf winwnsyn gwyn na'r winwnsyn coch hefyd. Does dim rhaid dweud bod angen gwella fan hyn.

Gyda'r sglodion a'r cylchoedd winwns mi oedd y saim yn casglu tua diwedd y bowlen. Mi oedd angen bach o bapur i arbed y sglodion ar waelod y bowlen o'r saim. Mae'r gwasanaeth yn dda a gyda dewis o bethau fel cimwch a stecen llygad yr asen ar y fwydlen, mae UD bach yn fwy na 'burger joint' cyffredin.

175 Kings Road
Pontcanna
Caerdydd

@Urbandinerwales
02920 341 013
info@urbandinercardiff.com 

No comments:

Post a Comment