Wedi tipyn o oedi, mae cwmni The Rollin’ Hot Dog wedi dechrau gwerthu cŵn poeth ar Stryd Womanby. Mae e’n dipyn o newid i’r perchennog. Bythefnos yn ôl mi oedd hi yn gweithio mewn swyddfa, a nawr mae hi wedi gwireddu breuddwyd o gael cwmni ei hun. Mae’r cysyniad yn syml, gwerthu cŵn poeth am bris rhesymol ar gefn beic.
Mae’r fwydlen yn un byr sydd yn galanogol o weld maint y gegin/beic!
Ces i’r Seattle Dog am y pris rhesymol tu hwnt o £3.20. Gyda phob un ci poeth mae yna ddewis o rolyn bara gyda hadau neu un plaen. Mae’r selsig ei hun wedi’i fygi ac yn eithaf meddal. Roedd cael hadau ar fy mara yn beth da er mwyn cael rhywfaint o wrthgyferbyniad neu mi fydd popeth wedi bod rhy feddal a llipa.
Roedd asidedd y sauerkraut yn torri trwy fraster y caws meddal Philadelphia yn wych. Mae e wir yn bartneriaeth arbennig o dda.
Yr unig fan-wendid hyd y welaf i yw’r gymhareb rhwng y bara a’r selsigen. Bach gormod o fara i fy nant i, yn sicr byddwn ni ddim am rolyn mwy.
Os ydych chi yn y brifddinas ac am rywbeth cyflym, rhad a blasus i fwyta, mae Rollin’ Hot Dog yn taro’r nod yn berffaith.
Mae’n werth nodi y bydd Rollin’ Hot Dog yn gwerthu’u cŵn poeth o dafarn Urban Tap House ar ddydd Gwener 22 Tachwedd.
Rollin Hot Dog Co.
No comments:
Post a Comment