Saturday 19 March 2016

Hangfire Southern Kitchen

I’r sawl sydd ddim yn gyfarwydd â stori Hangfire, mae’n un llawn llwyddiant. Sam a Shauna sydd tu ôl i Hangfire ac mae’r ddwy ohonyn nhw wedi ymchwilio’n helaeth i mewn i’r cwestiwn beth yn union yw barbeciw Americanaidd? Treuliodd Sam a Shauna chwe mis yn teithio ar draws America yn mynychu dosbarthiadau meistr a chystadlu mewn gwahanol gystadlaethau.
Gyda’r wybodaeth newydd yma, cynhaliwyd cyfres o ‘pop ups’ llwyddiannus yn nhafarndai The Canadian, The Lansdowne a The Pilot. Roedd adwaith Caerdydd i’w bwyd yn anhygoel. Ar ôl llu o adolygiadau ffafriol, gwobr 'Best Street Food' yng nghystadleuaeth Radio 4 y BBC daeth dêl llyfr. Bydd y llyfr yn adrodd hanes eu taith ar draws America, gan gynnwys gwybodaeth fanwl am grilio a mygu yn ogystal â chynnig cyngor ar sut i adeiladu mygwr eich hun!

Rywsut, mae Sam a Shauna wedi cael yr amser i agor bwyty hefyd. Agorwyd y bwyty fel rhan o brosiect boneddigeiddio tŷ pwmpio Y Bari, ac mae’r lle yn wych.
Nawr bod bwyty ei hun gyda Hangfire, maen nhw nawr gallu cynnig bwydlen ehangach. Gydag amser dwi’n gobeithio profi popeth, ond y tro cyntaf es i, ces i’r asennau: y 'babyback' (£15) a’r 'St Louis' (£15). Roedd yr asennau’n dyner a llawn blas oherwydd y dull coginio o ddefnyddio gwres anuniongyrchol.  Yr enghraifft orau o’r math yma o fwyd yng Nghymru, heb os.
Mae’r bwyty yn boblogaidd iawn felly mae’n werth bachu bwrdd ar lein. Wedi dweud hynny, mae bar gyda Hangfire fel rhan o’r bwyty felly mae modd yfed wrth y bar wrth aros am fwrdd. Ewch a mwynhewch!

Hangfire Southern Kitchen
Hood Road
Y Bari
CF62 5QN
@hangfirebbq

Sunday 6 March 2016

Felin Fach, Griffin

Yn ôl arolygwyr Michelin, ond un lle yng Nghymru sy’n darparu bwyd da am bris rhesymol (tri chwrs am lai na £28). Mae canllaw diweddaraf Michelin yn enwi tafarn Felin Fach Griffin, Aberhonddu fel yr unig le yng Nghymru sy’n haeddu Bib Gourmand. Yn fy marn i, mae rhyw ddwsin o fwytai Cymru yn haeddu ennill “bib”, ond nid diffyg arolygwyr Michelin yw testun y blog yma ond y pryd hyfryd ces i yn y Felin Fach.

Mae’r awyrgylch yn un anffurfiol iawn gyda chwsmeriaid yn yfed wrth y bar neu’n eistedd ar soffas lledr cyfforddus o flaen tân mawr. Mae’n dafarn cartrefol a byddwn i wrth fy modd yn treulio penwythnos yno. Mae dwy fwydlen ar gael amser cinio. Un yn cynnig pris gosodedig o ddau gwrs am £18 neu tri chwrs am £22 – ond dau ddewis o bob cwrs sydd serch hynny. Mae’r fwydlen arall yn ddrytach (oddeutu £8 am gwrs cyntaf a £15 am brif gwrs) ond mae llawer mwy o ddewis.

Mae’n ffasiynol i bod bwyty ddweud eu bod nhw’n cynnig cynnyrch tymhorol ond tra bo llwyth o fwytai yn ‘dweud’ mae’r Felin Fach yn ‘gwneud’. Y sewin er enghraifft yn dyner a’r merllys cynnar y tymor yn felys neis. Coginio cywir heb unrhyw ffws sydd ar gael yma.

Roedd yr octopws hefyd yn llwyddiant ac roedd techneg o olosgi heb effeithio ar wead y pysgodyn. Blasus ond braidd yn ddyfrllyd oedd y colslo Asiaidd serch hynny.

Seren y pryd oedd y pengernyn (gurnard). Pysgodyn hyll wedi’i drawsnewid i greu plât o fwyd mwyaf blasus i mi brofi eleni. Cyflwyniad ‘chefy’ y dresin sgwid yn groes i gyflwyniad di ffwdan pob pryd arall ond roedd pwrpas iddo – gyda halen y dresin yn uchafu blas y pengernyn. Prif gryfder y pryd yma oedd cynnal cydbwysedd o flasau tyner y cynhwysion – pryd perffaith ar gyfer y gwanwyn.

Yn gwbl groes i’r pengernyn oedd bola’r mochyn. Darn mawr o gic gyfoethog, llawn blas, yn frau ac wedi’i goginio’n berffaith. Roedd dylanwad Asiaidd yn amlwg gyda blasau cryf y basil a’r coriander yn gweithio’n dda gyda’r porc.

I bwdin ces i bwdin reis siocled gwyn. Roedd y reis yn al dente a gweinwyd y melysfwyd yn oer. Byddai'n well gen i gael y pwdin reis yn gynnes, yn enwedig yn y tywydd oer yma. Byddai pwdin reis twym yn wrthgyferbyniad da i’r hufen ia banana hefyd. Roedd cynnwys y cnau cyll yn arbennig o dda ac yn sicrhau nad oedd y pwdin reis yn undonog.

Mae’n anodd i mi gyfleu pa mor neis oedd y mousse siocled tywyll, coffi a hufen marscapone yma. Dydy cyfuno siocled gyda choffi ddim yn unrhwybeth newydd ond roedd cydbwysedd y blasau yn anhygoel. Mi oedd e mor dda, archebais i un arall i fwyta gyda fy nghoffi.

Gyda’r tywydd i fod gwella dros yr wythnosau nesa gallai argymell i bawb fynd am dro mawr yn y Bannau yn y bore cyn llenwi’ch bol gyda bwyd blasus Y Felin Fach.