Wednesday 24 January 2018

Seafood Shack - Pum Niwrnod o Wallgofrwydd!

Sut ma’ dechrau’r blog yma? Mae hi wedi bod yn dridiau diddorol tu hwnt i mi ers cyhoeddi blog ar Seafood Shack (mae'n werth i chi ddarllen hwn yn gyntaf).
Diddymu Cwmni Seafood Shack
Mae sawl unigolyn a chwmni wedi ymateb i mi yn bersonol gyda’u cwynion a’u rhwystredigaethau. Mae sawl unigolyn wedi cyhoeddi barn ar gyfryngau cymdeithasol yn cyhuddo Darryl Kavanagh, Cyfarwyddwr Seafood Shack, o weithio mewn ffordd anfoesol…a rhai yn ei gyhuddo o wneud pethau gwaeth fyth.

Hoffaf wneud pwynt, yn blwmp ac yn blaen, o’r man cychwyn: dydw i ddim yn cyd-fynd gyda’r honiadau hyn - yn wir, o fy nehongliad i o’r ffeithiau, mae Darryl wedi gweithredu o fewn dehongliad “du a gwyn” y gyfraith.

Dyma arsylwadau diduedd felly ar ffurf llinyn amser o weithgareddau ers i mi gyhoeddi’r blog:

21ain o Ionawr

Fi’n cyhoeddi’r blog – llwyth o ymateb cyhoeddus a phreifat. Un neges breifat yn dweud wrthyf ddilyn unigolyn a dweud cyfrinair arbennig.

Dyma fi’n dilyn y cyfarwyddiadau hyn ac wedyn yn fy nghyflwyno i grŵp preifat yn cynnwys cyn weithwyr a chyflenwyr. Nifer o honiadau yn cael eu rhannu am y Cyfarwyddwr. Profiad bizarre tu hwnt.

22ain o Ionawr

Fi’n ymchwilio a darganfod taw McAlister & Co Insolvency Practitioners sy’n edrych ar ôl achos Seafood Shack.

Yn derbyn cadarnhad o’r cwmni eu bod nhw’n cwrdd am 2yp a’r tebygolrwydd mawr y bydd cadarnhad bod y cwmni yn ansolfent.
"The writing's on the wall...sorry, window!"
Ar yr un diwrnod – Seafood Shack yn trydar ei fod nhw’n ail-agor. Boom! – negeseuon di-ri ar gyfryngau cymdeithasol gyda rhai yn gweld yr ail agor yn sarhad mawr.

Fi’n gofyn cwestiwn pwrpasol naïf ar Twitter - cwestiwn naïf oherwydd roeddwn i wedi darganfod eisoes bod ffrind i’r Cyfarwyddwr - Diana Ellis - wedi cofrestru cwmni “Muldoon’s Bar & Restaurant” gyda Thŷ'r Cwmniau ar 10fed o Ionawr (mi oedd Darryl yn berchen ar far o’r un enw yn yr Iwerddon). Dydw i dal heb dderbyn ateb i fy nhrydariad.
23ain Ionawr
Deuddydd cyn i’r bwyty ail-agor

Yn deall bod Cyngor Dinas Caerdydd wedi derbyn cais i drosglwyddo trwydded alcohol i gwmni “Muldoon’s Bar & Restaurant.”

WalesOnline yn cyhoeddi taw Diana yw’r Gyfarwyddwraig newydd. Muldoon’s yw enw’r cwmni a does gan Darryl ddim byd i wneud â’r cwmni bellach. Staff Seafood Shack cynt sydd yn aros am eu cyflogau yn “beside themselves with anger.”

24ain Ionawr
Diwrnod cyn yr ail-agor

Panda-blydi-moniwm gyda landlord safle Seafood Shack yn cymryd meddiant o’r safle yn honni bod yna ddyledion i’w talu.
Er i’r heddlu cael eu galw, y mater yn un sifil rhwng y landlord a Seafood Shack

25ain Ionawr
Diwrnod ail agor?

Seafood Shack (arwydd uwchben y drws) / Muldoon’s Bar & Restaurant (enw masnachu) yn ail agor?

Methu ymhelaethu mwy ond ni fydd pawb yn estyn croeso cynnes!

Mi fydda' i yno am gyfnod – a na, nid am fwyd rhmantus gyda’r wraig!

O ie, bron i mi anghofio… beth nesaf i’r cyn-gyfarwyddwr, Darryl Kavanagh? Wel, does gen i ddim byd mwy i'w ddweud. Ar sail ei lun proffil ar Facebook, dydw i ddim yn rhagweld ei fod e’n colli eiliad o gwsg am yr holl beth:

Sunday 21 January 2018

Seafood Shack

Dydw i erioed wedi tywyllu bwyty Seafood Shack yng nghanol y brifddinas - serch hynny dyma flog / cyfres o arsylwadau am y bwyty ar ôl digwyddiadau diweddar. Mae drysau’r bwyty ar gau erbyn hyn (ar ôl ond chwe mis) gyda phenawdau yn y wasg o “closed due to cyber attack” a straeon sydd wedi codi ael neu ddwy.
Roedd y broblem yna o’r man cychwyn yn fy marn i - dyma yw, neu oedd, gweledigaeth y cwmni:

“The challenge to this is creating an opulent yet traditional and accessible atmosphere that does not alienate the customer and it must be designed in a way that is not perceived as elitist or that the customer feels they must be VIP,"

"Balanced against that however, every customer must have a VIP experience, in essence, every single customer that comes through the door is a VIP from their meet and greet at arrival to then ordering a drink or being shown to their table for food. They will remember that they received the ultimate customer experience.” (Wales Online)

Cymharwch hyn gyda datganiad cwmni arall fel Hangfire Southern Kitchen er enghraifft:

"Good, Honest, Southern Cooking"

...neu Starbucks hyd yn oed:

"To inspire and nurture the human spirit – one person, one cup and one neighborhood at a time."

Chi’n deall fy mhwynt. Doedd dim gweledigaeth gan Seafood Shack o’r dechrau ac roedd yn llanast o wrthgyferbyniadau dan un to: siop sglodion mewn un cornel a bar “unigryw” wystrys mewn cornel arall.

Un pwynt arall oedd yn cael ei wneud dro ar ôl tro gan y perchnogion oedd y ffaith bod Seafood Shack yn gadwyn. Ond un bwyty oedd yn bodoli serch hynny - doedd e ddim yn gadwyn felly pam cyfeirio at 'gadwyn'?!

Roedd y Cyfarwyddwyr hefyd yn son am ei fwriad i ddefnyddio’r bwyty yma fel patrymlun ac efelychu hyn ym mhob un ddinas yn y DU a'i bod nhw’n “actively looking for premises” yn barod! Ar ba sail gall unrhywun ddweud hyn heb brofi cangen Caerdydd - hunanfoddhad, rhithdyb neu dwpdra efallai?

Unwaith eto, cymharwch hyn gyda llwyddiant Bar 44 – bu’r cwmni yn perffeithio’i grefft dros ddegawd yn y Bontfaen cyn ehangu.

Mae’r pwynt yma’n fwy perthnasol wrth ystyried yr anhawster cafodd Seafood Shack cyn agor. Mae’n risg uchel ac anochel i unrhyw fwyty bod llif arian yn broblem ac mae pwysau mawr i agor cyn gynted â phosib er mwyn derbyn incwm. Yn ôl cyn-aelod o staff, doedd Seafood Shack ddim yn eithriad, yn wir “Senior staff taken on for the opening said they were fired within weeks after being told there wasn’t enough money to pay their wages.” (Wales Online, Ionawr 2018)

Agorwyd y bwyty i ffanfer mawr (gwrthodais i’r gwahoddiad i’r lansiad) ond ces i glywed wedyn gan flogwyr eraill am y diffyg trefn a’r trueni mawr oedd ganddyn nhw dros y staff oedd yn trio’u gorau glas.

Syndod braidd, oherwydd Ebrill 2017 oedd dyddiad agor gwreiddiol y bwyty cyn iddo agor, o’r diwedd, ym mis Mehefin - cyfle i droi’r oedi o 3 mis i rywbeth positif a hyfforddi’r staff a mireinio’r gweithdrefnau bwyty? Na, nid yn yr achos yma.

Parhau wnaeth yr adolygiadau gwael. Dyma bytiau bach o flog Kacie Morgan, awdures the https://www.therarewelshbit.com - adolygiad sydd wedi taro tant gyda thrigolion y brifddinas:

"...waited over half an hour for our starters…waited a further 30 minutes for our starters... mussels themselves were fairly gritty... it was frustrating... our main courses still hadn’t arrived… after another word with our waitress, our mains were with us in the next ten minutes... chips were a little starchy... ordered the salsa verde but she was given the caper brown butter sauce... we had waited so long for our food and we were all starving... I really didn’t want to eat it... the guy opposite ended up sending his battered cod and chips back to the kitchen and leaving without eating... they (y staff) haven’t received a great deal of training... we felt sorry for the waiting team..."

Sut gallai grisialu ei phrofiad hi? Potsh llwyr? Siop Siafins? Omnishambles? Yn sicr nid yw’n batrymlun sydd i'w efelychu ym mhob un ddinas yn y DU.

Yn dilyn y blog gwahoddwyd Kacie nôl er mwyn rhoi cynnig ar y bwyty am yr ail-dro a dyma beth ddywedodd hi nôl ym mis Hydref 2017: “I haven’t been back yet, but I actually spoke to someone today who told me a few more horror stories. I’d be surprised if they’re still going by Xmas.” Dydw i na Kacie wedi ein synnu bod y lle wedi cau felly.

Ond pam cau? Am y tro cyntaf, drwy wybod i mi, mae bwyty wedi cau oherwydd "cyber attack" lle dilëir cofnod o'r 'bookings' i gyd - fel mae’r cyfarwyddwr yn honni. Mae’r honiad yma nawr gyda heddlu de Cymru i'w werthuso.

Tra bod hyn yn ben tost enfawr - oes rhaid cau’r bwyty yn gyfan gwbl? Os bosib ma' modd cadw’r drysau ar agor ac esbonio i gwsmeriaid y sefyllfa ac ymddiheuro am yr anghyfleustra posib? Yn sicr mae’n ffordd o gadw’r drysau ar agor dros gyfnod prysur yr Ŵyl.

Y brîf ateb, am wn i yw’r ffaith nad oedd y bwyty’n cydymffurfio â rheoliadau trwydded alcohol. Yn ôl y rheoliadau yma, mae’n rhaid cael goruchwyliwr dynodedig mangre neu’r designated premises supervisor (DPS). Tua'r misoedd olaf doedd dim un gan Seafood Shack,

Pwy ar y ddaear felly sydd yn gyfrifol am yr omnishambles yma te? Pedwar Cyfarwyddwr sydd yn ôl gwefan Tŷ’r Cwmnïau a Darryl Kavanagh yw’r rhanddeiliad mwyafrifol.

Mae ymchwilio i mewn i hanes Darryl wedi bod yn ddiddorol tu hwnt. Dyma ei hanes yn y blynyddoedd diwethaf:
  • 2014 - yn ôl The Irish Times, mae’n cerdded i ffwrdd o ddyledion dros $23M (US)
  • 2015 - Agor Catherdral bar and restaurant Mehefin 2015 a buddsoddi €2M o’i arian ef a’u buddsoddwyr. Adolygiadau gwael Trip Advisor yn cynnwys “raw chicken served - avoid” a “terrible experience” a “...and then biting in to my burger to reveal the raw poultry I was shocked, disgusted” a “there was a picket line outside over non payment of staff”. Ni wnaeth y lle para’n hir.
  • Darryl yn cael ei wahardd o fod yn gyfarwyddwr cwmni yn Iwerddon am bum mlynedd
  • 2017 - Agor Seafood Shack a chau 6 mis yn ddiweddaraf.

Beth sydd nesaf felly?

Mi fydd rhaid gweithio trwy'r holl ddyledion a gweld os oes modd talu'r rhain - yn ôl y BBC mae ganddyn nhw ddyled o £24,000 i gwmni Celtic Coast Fish. Mae cyfarfod gyda chredydwyr wedi'i drefnu. Mae'r erthygl yn gwneud pwynt difrifol iawn bydd rhaid ymchwilio mewn i'r posibilrwydd roedd Seafood Shack yn parhau i weithredu tra'n ansolfedd - yn gwbl groes i Ddeddf Ansolfedd 1986.

Bydd heddlu de Cymru yn parhau i ymchwilio i mewn i honiad Darryl bod cwmni Seafood Shack wedi dioddef o "cyber attack" hefyd.

Un peth hoffwn i weld yn digwydd yn enwedig gan fod "I [Darryl] am here [the restaurant] every day” yw ei fod e'n cymryd lawr yr arwydd yma o sydd dal yn hongian yn ffenest y bwyty, mae'n sarhad i'r cyflenwyr a staff sydd heb dderbyn tâl o ganlyniad i ddiffygion Seafood Shack.
Mi fyddai'n cadw llygaid barcud ar y saga yma dros y misoedd nesaf wrth i ni ddechrau deall beth aeth o le.

Saturday 6 January 2018

Da Mara

Ydych chi’n cofio Anatoni’s yn Lakeside? Wel, mae wedi newid enw a lleoliad erbyn hyn - Da Mara yw’r enw a Phenylan yw’r lleoliad. Dwi’n hapus iawn gweld Da Mara yn sefydlu yn uned 2 heol Penylan oherwydd roedd gen i deimlad byddai’r siop yn wag am sbel. Cyn hyn ar yr un safle roedd bar gwin The Penylan (methiant llwyr) a thrueni mawr oedd gweld ymerodraeth Il Pastificio yn dymchwel cyn i fwyty Ponderosa ceisio ac yna methu.
Dwi’n gobeithio bydd Da Mara yn profi i fod yn fwy llwyddiannus. Wedi dweud hyn mae yna bethau sydd angen iddyn nhw ei newid:
  • Y décor a’r dodrefn: ac eithrio ambell i lun ar y waliau a cherddoriaeth Eidalaidd - does fawr wedi newid ac yr un yw’r naws.
  • Defnydd gwell o’r lle sydd yn islawr y bwyty: does dim ffenestri na naws da yno o gwbl - mae’n goridor i’r tai bach yn fwy nag unrhywbeth arall.
  • Ambell i gynhwysyn: roedd rhai o’r pethau yn gwbl ddi-flas neu yn enghreifftiau gwael e.e. tomato (o’r archfarchnad am wn i) yn siomedig a chaws mozzarella yn ddigonol, ond dim byd mwy.
  • Y Pasta: dechreuad o penne bolognese yn unig ges i ac er bod y saws bolognese yn ddigon dymunol doedd dim byd arbennig am y pasta a roedd yn wael o’i gymharu â safon pasta Il Pastificio cynt.

Caprese £6.50 - nid da lle gellir gwell!

Er gwaethaf hyn, gadewais y lle yn ddigon hapus ar ôl bwyta yna’n ddiweddar. Mae dau reswm am hyn - cyfeillgarwch y perchnogion a safon arbennig o dda y pizza. Serch hynny, mae Da Mara yn fwy na jyst pizzeria gydag amrywiaeth dda o fwyd (gweler bwydlen mis Ionawr isod):
Does dim syndod bod y pizzas o safon yn enwedig o ystyried y ffwrn arbennig o Naples - y forni Stefano Ferrara sydd yn dominyddu’r bwyty. Ces i’r pizza crudo & rucola sef ham o barma, dail salad roced, mozzarella a pecorino a thomatos ceirios. Pizza digon syml a blasus tu hwnt - nid o reidrwydd yr un safon a fy ffefrynnau Dusty Knuckle, Ffwrnes a Cafe Citta ond yn well na llefydd arall Caerdydd yn fy marn i. Yn wir, gwnaeth The Sunday Times arfarnu bod pizza Da Mara gyda’r 25 pizzeria gorau ym Mhrydain.
Pizza penigamp - £12.95
Dwi’n edrych ymlaen at brofi rhagor o fwydlen Da Mara dros y misoedd nesaf ac ar sail ei pizza yn unig, dwi’n wir obeithiol y bydd y bwyty yn profi llwyddiant.

facebook/damaracardiff
@damaracardiff
http://www.damaracardiff.co.uk
2 Pen-Y-Lan Road
Penylan,
Cardiff,
CF24 3PF
02920 482222

Tuesday 2 January 2018

Penylan Pantry

Mae dechrau blwyddyn newydd yn garreg filltir naturiol ac yn gyfle i feddwl am addunedau ar gyfer 2018. Dwi am gadw adduned go syml eleni - bwyta bwyd da. Mae hyn yn golygu, yn bennaf, bwyta bwyd tymhorol a bwyta cig sydd wedi’i godi mewn modd sy’n parchu’r anifail - dim o’r cig mass produced yma sy’n debycach i gig ffatri na chig ffarm.

Un lle fydd o gymorth i mi os ydw i am gadw’r adduned yma yw Penylan Pantri. Os nad ydych chi wedi bod eto, mae’n berl o le reit yng nghanol Penylan ar Kimberly Road. Mae yna bedair elfen i’r pantri:
Diolch i @gourmetgorro am y llun
Y Caffi

Dwi wedi treulio sawl prynhawn dymunol yma yn profi bwyd blasus a thymhorol y pantri. Gyda phopeth yn cael ei baratoi yn ffresh, does dim ‘fast food’ ond mae’r bwyd gwerth aros amdano. Dwi’n hoff iawn o’i saladau gyda salad o flodfresychen wedi’i rhostio gyda sumac, caper berry, winwnsyn coch, finegr seidr, hadau wedi’u tostio, a ffagbys lentis yn hen ffefryn. I gyd fynd gyda’r saladau yma mae’r rolau selsig neu’r wy selsig (‘scotch eggs’) yn wych.

Salami ffenigl a ham Trealy Farm
Olifau Gordal gyda phersli ac oren

Y Pantri

Mae’r pantri yn creu naws gartrefol gyda llwyth o gynnyrch lleol o gwmnïau de Cymru yn llenwi’r silffoedd. Mae’r pobydd Alex Gooch yn cyflenwi’r bara, Hangfire yn cyflenwi’r sawsiau a Penylan Preserves y siytni ac yn y blaen…
Mae Penylan Pantry yn arbenigo mewn cawsiau a dyma'r lle i fynd am gawsiau blasus. Mae’r cawsiau cystal fel ei bod yn cyflenwi bwyty michelin James Sommerin lawr ym Mhenarth.

Arlwyo

Mae’r pantri hefyd yn arlwyo ar gyfer partïon preifat a braint oedd cael Melissa o’r pantri yn coginio gwledd y noson cyn i mi briodi. Gyda thipyn o waith gyda mi i wneud cyn y briodas mi oedd Melissa’n wych. Paratowyd bwyd heb ei ail a doedd dim ffwdan gyda’r paratoi na’r tacluso wedi i ni orffen y bwyd. Gwerth nodi hefyd canmoliaeth unfarn y gwesteion taw'r wy selsig gan Great Eggspectations yw’r wyau gorau iddyn nhw flasu erioed.
Wyau 'selsig' Great Eggspectations

Cymuned

Fel dwi wedi sôn eisoes, mae Penylan Pantri yn cydweithio â chwmnïau lleol er mwyn gwerthu cynnyrch cwmnïau eraill o ansawdd. Mae’r partneriaethau yma yn creu teimlad o gymuned ymhlith cynhyrchwyr bwyd annibynnol. Mae’r naws gymunedol yma yn parhau gyda Penylan Pantri yn cynnig “Veg Boxes” - llysiau organig sy’n cael eu cludo ar feic i bobl Caerdydd.

A dyna fe - perl o le yw Penylan Pantri ac rydyn ni’n ffodus iawn i gael Melissa a’i thîm yma yng Nghaerdydd.

Penylan Pantry
@PenylanPantry
melissa@penylanpantry.com

Cheese Pantry
Marchnad Caerdydd
@cheesepantry
hello@cheesepantry.wales

Great Eggspectations
@ge_cardiff