Dydw i erioed wedi tywyllu bwyty Seafood Shack yng nghanol y brifddinas - serch hynny dyma flog / cyfres o arsylwadau am y bwyty ar ôl digwyddiadau diweddar. Mae drysau’r bwyty ar gau erbyn hyn (ar ôl ond chwe mis) gyda phenawdau yn y wasg o “closed due to cyber attack” a straeon sydd wedi codi ael neu ddwy.
Roedd y broblem yna o’r man cychwyn yn fy marn i - dyma yw, neu oedd, gweledigaeth y cwmni:
“The challenge to this is creating an opulent yet traditional and accessible atmosphere that does not alienate the customer and it must be designed in a way that is not perceived as elitist or that the customer feels they must be VIP,"
"Balanced against that however, every customer must have a VIP experience, in essence, every single customer that comes through the door is a VIP from their meet and greet at arrival to then ordering a drink or being shown to their table for food. They will remember that they received the ultimate customer experience.” (Wales Online)
Cymharwch hyn gyda datganiad cwmni arall fel Hangfire Southern Kitchen er enghraifft:
"Good, Honest, Southern Cooking"
...neu Starbucks hyd yn oed:
"To inspire and nurture the human spirit – one person, one cup and one neighborhood at a time."
Chi’n deall fy mhwynt. Doedd dim gweledigaeth gan Seafood Shack o’r dechrau ac roedd yn llanast o wrthgyferbyniadau dan un to: siop sglodion mewn un cornel a bar “unigryw” wystrys mewn cornel arall.
Un pwynt arall oedd yn cael ei wneud dro ar ôl tro gan y perchnogion oedd y ffaith bod Seafood Shack yn gadwyn. Ond un bwyty oedd yn bodoli serch hynny - doedd e ddim yn gadwyn felly pam cyfeirio at 'gadwyn'?!
Roedd y Cyfarwyddwyr hefyd yn son am ei fwriad i ddefnyddio’r bwyty yma fel patrymlun ac efelychu hyn ym mhob un ddinas yn y DU a'i bod nhw’n “actively looking for premises” yn barod! Ar ba sail gall unrhywun ddweud hyn heb brofi cangen Caerdydd - hunanfoddhad, rhithdyb neu dwpdra efallai?
Unwaith eto, cymharwch hyn gyda llwyddiant Bar 44 – bu’r cwmni yn perffeithio’i grefft dros ddegawd yn y Bontfaen cyn ehangu.
Mae’r pwynt yma’n fwy perthnasol wrth ystyried yr anhawster cafodd Seafood Shack cyn agor. Mae’n risg uchel ac anochel i unrhyw fwyty bod llif arian yn broblem ac mae pwysau mawr i agor cyn gynted â phosib er mwyn derbyn incwm. Yn ôl cyn-aelod o staff, doedd Seafood Shack ddim yn eithriad, yn wir “Senior staff taken on for the opening said they were fired within weeks after being told there wasn’t enough money to pay their wages.” (Wales Online, Ionawr 2018)
Agorwyd y bwyty i ffanfer mawr (gwrthodais i’r gwahoddiad i’r lansiad) ond ces i glywed wedyn gan flogwyr eraill am y diffyg trefn a’r trueni mawr oedd ganddyn nhw dros y staff oedd yn trio’u gorau glas.
Syndod braidd, oherwydd Ebrill 2017 oedd dyddiad agor gwreiddiol y bwyty cyn iddo agor, o’r diwedd, ym mis Mehefin - cyfle i droi’r oedi o 3 mis i rywbeth positif a hyfforddi’r staff a mireinio’r gweithdrefnau bwyty? Na, nid yn yr achos yma.
Parhau wnaeth yr adolygiadau gwael. Dyma bytiau bach o flog Kacie Morgan, awdures the https://www.therarewelshbit.com - adolygiad sydd wedi taro tant gyda thrigolion y brifddinas:
"...waited over half an hour for our starters…waited a further 30 minutes for our starters... mussels themselves were fairly gritty... it was frustrating... our main courses still hadn’t arrived… after another word with our waitress, our mains were with us in the next ten minutes... chips were a little starchy... ordered the salsa verde but she was given the caper brown butter sauce... we had waited so long for our food and we were all starving... I really didn’t want to eat it... the guy opposite ended up sending his battered cod and chips back to the kitchen and leaving without eating... they (y staff) haven’t received a great deal of training... we felt sorry for the waiting team..."
Sut gallai grisialu ei phrofiad hi? Potsh llwyr? Siop Siafins? Omnishambles? Yn sicr nid yw’n batrymlun sydd i'w efelychu ym mhob un ddinas yn y DU.
Yn dilyn y blog gwahoddwyd Kacie nôl er mwyn rhoi cynnig ar y bwyty am yr ail-dro a dyma beth ddywedodd hi nôl ym mis Hydref 2017: “I haven’t been back yet, but I actually spoke to someone today who told me a few more horror stories. I’d be surprised if they’re still going by Xmas.” Dydw i na Kacie wedi ein synnu bod y lle wedi cau felly.
Ond pam cau? Am y tro cyntaf, drwy wybod i mi, mae bwyty wedi cau oherwydd "cyber attack" lle dilëir cofnod o'r 'bookings' i gyd - fel mae’r cyfarwyddwr yn honni. Mae’r honiad yma nawr gyda heddlu de Cymru i'w werthuso.
Tra bod hyn yn ben tost enfawr - oes rhaid cau’r bwyty yn gyfan gwbl? Os bosib ma' modd cadw’r drysau ar agor ac esbonio i gwsmeriaid y sefyllfa ac ymddiheuro am yr anghyfleustra posib? Yn sicr mae’n ffordd o gadw’r drysau ar agor dros gyfnod prysur yr Ŵyl.
Y brîf ateb, am wn i yw’r ffaith nad oedd y bwyty’n cydymffurfio â rheoliadau trwydded alcohol. Yn ôl y rheoliadau yma, mae’n rhaid cael goruchwyliwr dynodedig mangre neu’r designated premises supervisor (DPS). Tua'r misoedd olaf doedd dim un gan Seafood Shack,
Pwy ar y ddaear felly sydd yn gyfrifol am yr omnishambles yma te? Pedwar Cyfarwyddwr sydd yn ôl gwefan Tŷ’r Cwmnïau a Darryl Kavanagh yw’r rhanddeiliad mwyafrifol.
Mae ymchwilio i mewn i hanes Darryl wedi bod yn ddiddorol tu hwnt. Dyma ei hanes yn y blynyddoedd diwethaf:
Mi fydd rhaid gweithio trwy'r holl ddyledion a gweld os oes modd talu'r rhain - yn ôl y BBC mae ganddyn nhw ddyled o £24,000 i gwmni Celtic Coast Fish. Mae cyfarfod gyda chredydwyr wedi'i drefnu. Mae'r erthygl yn gwneud pwynt difrifol iawn bydd rhaid ymchwilio mewn i'r posibilrwydd roedd Seafood Shack yn parhau i weithredu tra'n ansolfedd - yn gwbl groes i Ddeddf Ansolfedd 1986.
Bydd heddlu de Cymru yn parhau i ymchwilio i mewn i honiad Darryl bod cwmni Seafood Shack wedi dioddef o "cyber attack" hefyd.
Un peth hoffwn i weld yn digwydd yn enwedig gan fod "I [Darryl] am here [the restaurant] every day” yw ei fod e'n cymryd lawr yr arwydd yma o sydd dal yn hongian yn ffenest y bwyty, mae'n sarhad i'r cyflenwyr a staff sydd heb dderbyn tâl o ganlyniad i ddiffygion Seafood Shack.
Mi fyddai'n cadw llygaid barcud ar y saga yma dros y misoedd nesaf wrth i ni ddechrau deall beth aeth o le.

- 2014 - yn ôl The Irish Times, mae’n cerdded i ffwrdd o ddyledion dros $23M (US)
- 2015 - Agor Catherdral bar and restaurant Mehefin 2015 a buddsoddi €2M o’i arian ef a’u buddsoddwyr. Adolygiadau gwael Trip Advisor yn cynnwys “raw chicken served - avoid” a “terrible experience” a “...and then biting in to my burger to reveal the raw poultry I was shocked, disgusted” a “there was a picket line outside over non payment of staff”. Ni wnaeth y lle para’n hir.
- Darryl yn cael ei wahardd o fod yn gyfarwyddwr cwmni yn Iwerddon am bum mlynedd
- 2017 - Agor Seafood Shack a chau 6 mis yn ddiweddaraf.
Beth sydd nesaf felly?
Mi fydd rhaid gweithio trwy'r holl ddyledion a gweld os oes modd talu'r rhain - yn ôl y BBC mae ganddyn nhw ddyled o £24,000 i gwmni Celtic Coast Fish. Mae cyfarfod gyda chredydwyr wedi'i drefnu. Mae'r erthygl yn gwneud pwynt difrifol iawn bydd rhaid ymchwilio mewn i'r posibilrwydd roedd Seafood Shack yn parhau i weithredu tra'n ansolfedd - yn gwbl groes i Ddeddf Ansolfedd 1986.
Bydd heddlu de Cymru yn parhau i ymchwilio i mewn i honiad Darryl bod cwmni Seafood Shack wedi dioddef o "cyber attack" hefyd.
Un peth hoffwn i weld yn digwydd yn enwedig gan fod "I [Darryl] am here [the restaurant] every day” yw ei fod e'n cymryd lawr yr arwydd yma o sydd dal yn hongian yn ffenest y bwyty, mae'n sarhad i'r cyflenwyr a staff sydd heb dderbyn tâl o ganlyniad i ddiffygion Seafood Shack.
Mi fyddai'n cadw llygaid barcud ar y saga yma dros y misoedd nesaf wrth i ni ddechrau deall beth aeth o le.
Mae'n darllen fel ryw foi sydd yn gweld ei hyn fel 'mogul' tai bwyta, ond wedi anghofio am y pethau syml.
ReplyDelete