Saturday 6 January 2018

Da Mara

Ydych chi’n cofio Anatoni’s yn Lakeside? Wel, mae wedi newid enw a lleoliad erbyn hyn - Da Mara yw’r enw a Phenylan yw’r lleoliad. Dwi’n hapus iawn gweld Da Mara yn sefydlu yn uned 2 heol Penylan oherwydd roedd gen i deimlad byddai’r siop yn wag am sbel. Cyn hyn ar yr un safle roedd bar gwin The Penylan (methiant llwyr) a thrueni mawr oedd gweld ymerodraeth Il Pastificio yn dymchwel cyn i fwyty Ponderosa ceisio ac yna methu.
Dwi’n gobeithio bydd Da Mara yn profi i fod yn fwy llwyddiannus. Wedi dweud hyn mae yna bethau sydd angen iddyn nhw ei newid:
  • Y décor a’r dodrefn: ac eithrio ambell i lun ar y waliau a cherddoriaeth Eidalaidd - does fawr wedi newid ac yr un yw’r naws.
  • Defnydd gwell o’r lle sydd yn islawr y bwyty: does dim ffenestri na naws da yno o gwbl - mae’n goridor i’r tai bach yn fwy nag unrhywbeth arall.
  • Ambell i gynhwysyn: roedd rhai o’r pethau yn gwbl ddi-flas neu yn enghreifftiau gwael e.e. tomato (o’r archfarchnad am wn i) yn siomedig a chaws mozzarella yn ddigonol, ond dim byd mwy.
  • Y Pasta: dechreuad o penne bolognese yn unig ges i ac er bod y saws bolognese yn ddigon dymunol doedd dim byd arbennig am y pasta a roedd yn wael o’i gymharu â safon pasta Il Pastificio cynt.

Caprese £6.50 - nid da lle gellir gwell!

Er gwaethaf hyn, gadewais y lle yn ddigon hapus ar ôl bwyta yna’n ddiweddar. Mae dau reswm am hyn - cyfeillgarwch y perchnogion a safon arbennig o dda y pizza. Serch hynny, mae Da Mara yn fwy na jyst pizzeria gydag amrywiaeth dda o fwyd (gweler bwydlen mis Ionawr isod):
Does dim syndod bod y pizzas o safon yn enwedig o ystyried y ffwrn arbennig o Naples - y forni Stefano Ferrara sydd yn dominyddu’r bwyty. Ces i’r pizza crudo & rucola sef ham o barma, dail salad roced, mozzarella a pecorino a thomatos ceirios. Pizza digon syml a blasus tu hwnt - nid o reidrwydd yr un safon a fy ffefrynnau Dusty Knuckle, Ffwrnes a Cafe Citta ond yn well na llefydd arall Caerdydd yn fy marn i. Yn wir, gwnaeth The Sunday Times arfarnu bod pizza Da Mara gyda’r 25 pizzeria gorau ym Mhrydain.
Pizza penigamp - £12.95
Dwi’n edrych ymlaen at brofi rhagor o fwydlen Da Mara dros y misoedd nesaf ac ar sail ei pizza yn unig, dwi’n wir obeithiol y bydd y bwyty yn profi llwyddiant.

facebook/damaracardiff
@damaracardiff
http://www.damaracardiff.co.uk
2 Pen-Y-Lan Road
Penylan,
Cardiff,
CF24 3PF
02920 482222

No comments:

Post a Comment