Yn ôl
llawer, Casanova yw bwyty Eidaleg orau’r brifddinas. Yn ôl ei gwefan, amcan
perchnogion y bwyty (Antonio Cersosimo,
Luca Montuori ac Angelo Montuori) yw dod â gwir flas Eidalaidd i Gaerdydd. Er mwyn
cyflawni’r amcan yma, maen nhw’n ymfalchïo yn y ffaith eu bod nhw’n: 1) adnabod
pob un o’u cyflenwyr; 2) ond yn cynnig bwydlen gryno; 3) ond yn defnyddio
cynnyrch tymhorol a lleol.
Roedd yr
rhain i gyd yn rhesymau mwy na digon da i mi archebu bwrdd yno ar y 4ydd
o Fehefin 2013.
Yr unig
beth am leoliad Casanova yw ei hygyrchedd. Yn anffodus, mae’r olygfa wrth
edrych allan o’r bwyty yn hyll, yn bennaf oherwydd maes parcio salw NCP, a hefyd oherwydd ysmygwyr o dafarn
drws nesaf - City Arms, sydd yn
ymgynnull yno.
Does dim angen llawer o amser i ddarllen y fwydlen oherwydd cyn lleied o
opsiynau sydd ar gael. Dwi’n gwybod bod hwn yn destun beirniadaeth gan rhai o
bobl sydd wedi bwyta yn Casanova ond mi oedd y fwydlen yn ddigon cytbwys fy marn i. Yn ogystal, dwi’n meddwl bod cael bwydlen fwy cyfyng yn aberth
gwerth chweil os ydy hyn yn sicrhau pryd da o fwyd.
Yr unig
wendid weles i oedd y ffaith bo’r prisiau’n osodedig: £15 am un cwrs; £22 am
ddau gwrs; a £26 am dri chwrs. Dwi’n dweud posib
oherwydd dwi’n ystyried £15 am Agnello
(rac o gig oen wedi’i rhostio gydag ysgwydd wedi’i frwysio, pastai tatws a
llysiau gwyrdd wedi’u goginio gyda garlleg a thomato) yn rhesymol tu hwnt, ond
yn hynod o ddrud am Risotto (reis Carnaroli traddodiadol
gydag asbaragws a chaws parmesan wedi’i aeddfedu am 36 mis).
I ddechrau
ces i’r Terrina (terîn cyw iâr,
asparagws a ham, salad dail cymysg gyda dresin mwstard).
Blasus
iawn. Blas y cyw iâr yn amlwg iawn ac yn gweithio’n dda gyda’r ham hallt. Roedd
yr asbaragws al dente ynghyd â’r crostini yn cynnig gwead gwrthgyferbyniol
a phleserus. Yr unig wendid oedd cael dau ddarn bach o crostini - gyda darn hael
o terrina - roedd angen mwy.
Ces i’r Maiale fel prif gwrs: bola mochyn wedi’i
rostio’n araf gyda phicl twym; selsigen gartref gyda ffa wedi’u barbeciwio; a
phwdin gwaed gyda phiwrî afal.
Wedi i mi
gwpla’r pryd, rhwystredigaeth oedd y teimlad pennaf. Rhwystredigaeth oherwydd
iddo fe bron iawn a bod yn bryd
arbennig. Mi oedd bola’r mochyn wedi cael ychydig gormod o dân, ac haenen dop y
braster ddim digon crimp. Mi oedd gweddill y pryd yn flasus iawn, y finegr o’r
picl twym yn torri trwy fraster y bola yn wych, pwdin gwaed hallt yn gweddu’n
berffaith gyda melystra piwrî’r afal; ac mi oedd y selsigen gyda’r orau dwi
erioed wedi blasu.
Roedd gwin safonol y bwyty i fod yn sych. Doedd e ddim, ac am bum ceiniog yn brin o
chwe phunt am wydr, ‘roeddwn i’n disgwyl gwell.
Pwdin. Gyda
Pannacotta, Dolce di Riso a Torta al
Cioccolato ar yr un fwydlen, mi oedd y dewis yn un anodd. Ar ôl ychydig o
feddwl es i am y clasur, Tiramisû.
Fel mae’r
llun yn dangos, mae maint y pwdin yn hael iawn. Fy argraff gyntaf oedd ei fod
e’n rhy hael – yn enwedig ar ôl y dau gwrs blaenorol. Ond gyda’r bisgedi Savoiardi yn llaith o’r coffi a’r Marsala , a’r
caws mascarpone yn ysgafn, llwyddais i fwyta’r tiramisu heb ormod o drafferth!
Un sypreis neis oedd y darnau siocled tywyll yn cuddio rhwng y bisgedi a’r
caws. Mi oedd e’n wrthgyferbyniad da ac yn gwbl wahanol i’r arfer.
Gyda
gwydred o win melys Passito Sagrantino
ac espresso cyn i mi adael, daeth y bil i £77 ar gyfer dau – rhesymol iawn am
bryd nos yn y brifddinas.
Gydag
ambell i fân-newid fan hyn a fan draw, dwi’n sicr y bydd Casanova yn fwyty o
safon uchel iawn.
Casanova
Caerdydd
CF10 1EA
029 2034
4044
@CasanovaCardiff
No comments:
Post a Comment