Sunday 7 July 2013

Bwyty Bully’s: gyda’r gorau yng Nghaerdydd

Mae’r Good Food Guide yn crisialu fy marn ar Bully's mewn pum gair: “Long-running family-owned gem.” Mae wir yn “gem” o le.

Mae yna 2 beth sydd yn fy nharo i pan ddwi’n cyrraedd y bwyty: y décor eclectig a’r gwasanaeth arbennig o dda – heb os yr orau dwi wedi cael yng Nghaerdydd. Mab y perchennog, Russell Bullimore, sydd yn bennaf gyfrifol am hyn.

Mae Russell yn groesawgar, yn wybodus am fwyd ac yn trafod y fwydlen gydag angerdd sydd yn gwneud i mi feddwl: maen nhw’n gwybod ei stwff.


Does dim rhyfedd bod Russell mor frwdfrydig. Mae’n gweithio mewn bwyty da sydd yn ennill clod yn aml iawn, ac mae ef a’i wraig yn treulio eu gwyliau - pum wythnos y flwyddyn  - yn bwyta mewn bwytai o gwmpas Ewrop. Mae’r profiadau yma yn helpu mireinio’r fwydlen bwyd a gwin ac mae hefyd yn ffurfio rhan o’r décor - roedd bwydlen y Fat Duck ar y wal, wrth fy mwrdd a llyfr o bob un pryd elBulli (2003/4).


Mae sawl opsiwn ar gael o ran bwydlenni:

  • Yr opsiwn drytaf yw’r gourmet evenings sef saith cwrs a gwin am £75;
  • Dewis a la carte sydd hefyd yn ddrud o gymharu â bwytai eraill Caerdydd – ond yn werth e yn fy marn i;
  • O’r 8fed o Fehefin ymlaen, ma’ yna fwydlen osodedig ar gyfer pryd nos gynnar – bargen;
  • Bwydlen cinio – 5 cwrs am £21 a gwinoedd am £14; neu
  • Bwydlen cinio hynod o rad: un cwrs £9.95; dau gwrs a gwydred o win £14.00; tri chwrs a gwydred o win £17.50
I’r rhai sydd ddim am wario gormod o arian neu sydd bach yn ansicr o fwyd Ffrengig, mae dewis un o’r tri opsiwn diwethaf yn berffaith i gyflwyno’ch hun i fwyd Ffrengig o safon.

Gyda’r cogydd, Gareth, wedi gweithio gyda Raymond Blanc am bedair blynedd, – mae dylanwad Ffrengig clasurol i weld yn glir ar bob un fwydlen.

Es i am ginio 5ed o Fehefin. Gyda’r haul yn disgleirio’n braf, doedd dim chwant bwyd cyfoethog felly dewis o’r fwydlen cinio gwnes i a ces i’r cynffon cimwch yr afon gyda thian tomatos heulgras, salad ffrise gyda dresin balsamig i ddechrau. Pryd ysgafn a syml tu hwnt gyda phob un cynhwysyn yn cyflenwi ei rôl: cynffon cimwch yr afon yn gigog a thyner a blas melys y tomatos heulgras yn felys neis. Gyda phryd mor syml, mae’n rhaid i’r cynhwysion bod o safon oherwydd does dim lle iddyn nhw 'guddio' ar y plât. 


Mae’r cogydd yn parchu’r cynhwysion ac mae’r plât yn llwyfan iddyn nhw ddisgleirio. Roedd hyd yn oed y rholyn bara sesame a menyn yn wych: menyn o Lydaw gyda halen wedi’i fygu dros bren derw.


Fel prif gwrs, roeddwn i’n awyddus i gael rhywbeth ysgafn a llwyddodd y nage eog a sgolop gyda thatws newydd a bresychen i daro’r nod.

Yr eog wedi’i fygu’n dyner a’r sgolop wedi’i goginio’n berffaith ac yn eistedd yn hapus iawn yn y nage blasus. Y nage blasus wedi’i greu o win gwyn, stoc pysgod a deilen bae yn iro’r eog, sgolop, tatws a’r bresychen. Gan fod y nage mor flasus, byddwn i wedi hoffi cael bach o fara i lanhau’r plat!


Gyda’r pryd yn dod i ben a’r haul yn dal i ddisgleirio y tu allan, roedd y sorbed mafonen wedi dal fy llygaid yn syth, a’r clafoutis gellygen dwym wedi tynnu dŵr i’r dannedd. Roedd y clafoutis yn syml ac yn llwyfan da i’r ellygen dwym. Mi oedd e’n ddiweddglo da ac wedi coroni’r pryd a’r profiad i mi.



Ces i espresso cyn i mi fynd nôl i’r gwaith a daeth y bil i £43 ar gyfer dau. Bargen. Yn enwedig ar ôl lansiad bwydlen pryd nos (rhwng 18:30 - 19:30) dwi’n siŵr y bydda i nôl yn Bully’s cyn hir.

5 Cilgant Romilly
Caerdydd
CF11 9NP
029 2022 1905

No comments:

Post a Comment