Monday 4 April 2016

Hare & Hounds, Aberthin

Rwy’n hoff iawn o fwyd tafarn da. Bwyd syml fel lasagne a sglodion neu selsig a stwnsh am bris rhesymol mewn awyrgylch cymharol anffurfiol. Roeddwn i’n edrych ymlaen felly at ginio yn nhafarn Hare & Hounds yn Aberthin. Ar ôl ond ychydig o funudau roedd hi’n amlwg i mi nad tafarn gyffredin mo'r Hare & Hounds.
I ddechrau ces i foch mochyn crimp gyda saws mwstard. Roedd asidedd y saws yn torri trwy fraster a chyfoethogrwydd y porc.
Profais gwrs cyntaf fy nghariad, y madarch. Roedd e’n gyfuniad o ryw fath o carpaccio madarch amrwd ar ben rhywbeth yn debyg i tapenade madarch. Roedd e’n ddechreuad arbennig o dda - mi oedd e mor dda, archebais i un i fy hun.
Fel prif gwrs ces i’r cig carw - ysgwydd carw wedi’i goginio’n araf. Mae’r asgwrn glân yn dangos pa mor dda oedd y cig carw wedi’i goginio. Roedd y cig yn dyner a llawn blas. Roedd y crochan o gig carw i’w rannu rhwng dau ond roedd e’n ddigon i fwydo teulu o bedwar!
Dw i ddim wedi profi bwyd tafarn tebyg i hyn erioed, ac wrth sgwrsio gyda’r weinyddes, sylweddolais pam. Mae’r cogydd, Tom Watts-Jones, wedi treulio saith mlynedd yn coginio yn Anchor & Hope a’r bwyty Michelin, St John yn datblygu ei sgiliau. Mae’r cynnyrch yn arbennig o dda hefyd gyda mam y cogydd yn gweithio fel garddwr i’r bwyty. Mae’r cyfuniad o gynnyrch lleol a sgiliau’r cogydd yn profi i fod yn un llwyddiannus iawn i’r Hare & Hounds.

Wythnos yn ddiweddarach es i nôl ar gyfer cinio dydd Sadwrn a mwynheuais cymaint, dwi wedi archebu bwrdd ar gyfer y mis nesa.

Hare & Hounds,
Aberthin,
Y Bontfaen,
CF71 7LG
01446 774892
info@hareandhoundsaberthin.com
@Hare__Hounds

No comments:

Post a Comment