Bob Hydref mae'r diwydiant fwyd wrthi'n dathlu llwyddiannau gwestai, tafarndai a bwytai'r Deyrnas Unedig. Mae'r Good Food Guide wedi cyhoeddi gwobrau eisoes a neithiwr oedd tro yr AA, ac mi oedd hi'n noson lwyddiannus a hanesyddol i fwytai Cymru.
|
Tim Ynyshir yn dathlu'r achlysur hanesyddol |
Y prif bennawd yw bod bwyty
Ynyshir, ger Machynlleth, wedi cipio 5 rosette. Dyma'r tro cyntaf i unrhyw fwyty yng Nghymru i gipio 5 rosette. Mae hyn yn dipyn o lwyddiant i Gareth Ward a'i dim - y llynedd, ond 15 bwyty oedd wedi cipio 5 rosette.
|
Rhagor o lwyddiant i James a Louise Sommerin |
Roedd rhagor o newyddion da i fwytai
James Sommerin, Penarth, a
Sosban & The Old Butchers, Ynys Môn, gyda'r ddau fwyty yn ennill 4 rosette. Mae hyn yn cynrychioli cynnydd aruthrol i fwytai gymharol newydd. O ran cyd-destun, ond 42 bwyty oedd wedi hawlio 4 rosette y llynedd. Gan gynnwys
The Whitebroook, mae nawr gan Gymru 3 bwyty gyda 4 rosette.
|
Sosban & The Old Butcher's, Ynys Mon yn dathlu ennill 4 rosete |
Roeddwn i'n bersonol hapus gweld Hywel Griffith a'i fwyty
Beach House, Oxwich, yn ennill gwobr Bwyty'r Flwyddyn yng Nghymru. O weld yr ymateb ar gyfryngau cymdeithasol, roedd hyn yn benderfyniad poblogaidd iawn.
|
Hywel Griffith a'r tim yn dathlu Bwyty'r Flwyddyn (Cymru) 2017/18 |
Mi oedd rhagor o wobrau i Gymru hefyd yn cynnwys:
- Tafarn Y Flwyddyn (Cymru): Bryntyrch Inn, Conwy
- Gwesty'r Flwyddyn (Cymru): Twr Y Felin, Tŷ Ddewi
- Rhestr Win Orau (Cymru a'r DU): Ynyshir, Machynlleth
- 3 Rosette: Bwyty Palé Hall (bwyty o dan oruchwyliaeth Michael Caines MBE)
*Cymerwyd y lluniau o ffrwd swyddogol yr AA
No comments:
Post a Comment