Saturday 28 October 2017

Milkwood

Yn gynharach eleni agorodd bwyty Milkwood ar hen safle Cibo ym Mhontcanna. Ac eithrio enw’r bwyty, does dim unrhyw gyfeiriad at yr awdur Dylan Thomas, ond mae perchnogion y bwyty wedi creu stori ddiddorol ei hunain.

Nôl yn 2004 bu Gwyn Myring a Tom Furlong yn gweithio yng nghegin Cibo a breuddwydio am agor bwyty ei hunain. Dros ddegawd yn ddiweddarach ac ar ôl agor bwytai The Potted Pig, Porro a thafarndai The Lansdowne a The Grange, dyma Gwyn, Tom a’i wraig Cerys yn gwireddi breuddwyd ac agor Milkwood. Ar ôl mwynhau cinio yno'n ddiweddar, gallaf ddweud heb unrhyw amheuaeth bod yr aros wedi bod yn werth chweil.
Diolch i @SolicitingFlavours am y llun
Ynghyd ac Asador 44, dyma'r bwyty gorau sydd wedi agor yn y brifddinas yn 2017. Mae Milkwood wedi llwyddo i greu naws hyfryd ac mae’n glasur o ‘neighbourhood restaurant’ . Mae'r maître d', Andrew, yn helpu i greu naws hamddenol braf. Roedd gen i deimlad da am y lle ar ôl i mi flasu’r bara rhyg a stout tywyll gyda hadau a menyn halenog, amuse-bouche o fetys a marchruddygl (horseradish) – popeth wedi’i wneud yn y bwyty.

Prin iawn yw bwytai’r brifddinas sy’n cynnig razor clam ac roedd y rhain gyda ystifflog (squid) a saws syml o tsili, garlleg a lemwn (£8) yn berffaith.
Ar gyfer fy mhrif gwrs roedd ffiled o wddf porc wedi’i goginio’n araf, selsig gwyn (boudin blanc) a ffa haricot (£20) yn hyfryd. Y boudin blanc wedi’i greu gan y cogyddion.
Y cwrs caws oedd yr unig wendid. Ces i ddau ddarn mawr o gaws (Baron Bigod a Montogmery (£9)) ond basai'n well gen i gael mwy o ddewis na hyn.

Coronwyd y cyfan gan bwdin o afal, hufen iâ caramel halenog a Pedro Ximénez (£8).
Mae’n amlwg bod y triawd o Cerys, Tom a Gwyn wedi llwyr ymrwymo eu hunain i Milkwood – yn wir, mae’r tri wedi gwerthu The Potted Pig a Porro er mwyn canolbwyntio ar Milkwood - trigolion Pontcanna ar eu hennill!

Mae’n ddigon hawdd gwario ceiniog bert yma ond mae’n werth nodi’r fwydlen pris gosodedig sy’n fargen gyda thri chwrs am lai na £20!

Mae Milkwood wedi ennill tipyn o ganmoliaeth gan flogwyr lleol ond dyma ragfynegiad i chi. Mi fydd bwyty Milkwood yn ennill cydnabyddiaeth gan arolygwyr Michelin 2019, yn ennill sgôr o 2 neu’n uwch yng nghanllaw The Good Food Guide 2019 ac yn ennill 2 rosette AA, 2019.

http://milkwoodcardiff.com
029 2023 2226
info@milkwoodcardiff.com
Facebook/Milkwood-Pontcanna
@/Milkwoodcdf

No comments:

Post a Comment