Wednesday, 23 September 2015

Hangfire Smokehouse am gyhoeddi llyfr

Does dim diwedd ar dalent Sam a Shauna, y partneriaid tu nôl i Hangfire Smokehouse:
  • Mae’r bwyd yn anhygoel ac yn ddiweddar mae nhw wedi ennill gwbor 'Best Street Food' yn y Food and Farming Awards y BBC;
  • Maen nhw’n wneuthurwyr saws - 'saucy times';
  • Dros yr haf lansiwyd soda crefft gyntaf Cymru;
  • …a'r prosiect diweddaraf yw ysgrifennu llyfr
Bydd y llyfr, sydd heb deitl eto, yn adrodd hanes eu taith ar draws America, gan gynnwys gwybodaeth fanwl am grilio a mygu yn ogystal â chynnig cyngor ar sut i adeiladu mygwr eich hun! Bydd y llyfr, sydd yn cael ei gyhoeddi y gwanwyn nesaf, yn cynnwys dros 100 o ryseitiau.
Sam a Shauna, Hangfire Smokehouse
Meddai Shauna Guinn o Hangfire, "Cysylltodd cwmni cyhoeddi Quadrille â ni nol ym mis Mai yn dilyn ein buddugoliaeth yng ngwobrau bwyd y BBC, ac wedi bod yn gweithio ar y llyfr ers hynny. Rydym mor falch cael gallu rhannu ein newyddion - buom yn anodd cadw'r gyfrinach yma!

"Mae'r llyfr yn mynd i fod yn llawn popeth sydd angen i chi ei wybod am fygu yn y cartref. Ni allwn aros i rannu'r hyn yr ydym wedi'i ddysgu gyda phawb."

Gwnaed y cyhoeddiad dros y penwythnos yn ystod eu dosbarth meistr 'The Alchemy of Barbecue' yng Ngŵyl Fwyd y Fenni - y digwyddiad cyntaf i werthu allan eleni.

Ychwanegodd Samantha Evans: "Mae'r ŵyl fwyd yn ymddangos fel y lle perffaith i wneud y cyhoeddiad. Rydym yn cyflwyno ein dosbarth meistr i gynulleidfa sy’n cynnwys pobl oedd yn awyddus iawn i blymio i mewn i’r byd o fygu bwyd yn ‘low and slow’ a phobl sydd wedi ein cefnogi o'r cychwyn cyntaf."

Quadrille Publishing yw un o'r cyhoeddwyr mwyaf blaenllaw ym myd llyfrau coginio ac meant wedi bod yn noddwyr i gogyddion blaenllaw megis Michel Roux OBE, Antonio Carluccio, Nathan Outlaw, ac Anjum Anand.

Am y wybodaeth ddiweddaraf ewch i http://hangfiresmokehouse.com/ neu dilynwch Hangfire ar Twitter.

Wednesday, 16 September 2015

Michelin Guide 2016

Wel, am ddrama! Bob blwyddyn mae’r Michelin Guide yn gweithio’n galed i gadw cynnwys y canllaw yn gyfrinach. Eleni, gwnaeth siop lyfrau adael y gath allan o’r cwd a gorfodwyd y Michelin Guide i rannu’r newyddion ddiwrnod yn gynt na’r disgwyl.

Yng Nghymru, roedd seren Michelin gan bum bwyty, ac ar ôl y ddrama a’r cyffro heddiw, does dim newid i’r canllaw. Yr un rhai yw’r pump bwyty:

Llongyfarchiadau enfawr i’r pump.

Roedd tipyn o siarad y byddai Llangoed Hall yn ennill seren Michelin. Mae hi nawr yn bymtheg mlynedd ers iddyn nhw golli seren ond gyda rheolwr gyfarwyddwr uchelgeisiol, Calum Milne nawr wrth y llyw, mae’r bwyty wedi ennill lle yn y Good Food Guide 2016 fel un o 50 o fwytai gorau’r Deyrnas Unedig. Gyda Bruno Asselin, yn gynt o Le Manoir (2*), fel rheolwr y bwyty, mae’n bosib iawn y bydd Llangoed Hall yn ennill seren y flwyddyn nesaf.

Aflwyddiannus oedd bwyty James Sommerin hefyd. Llwyddodd James i gadw seren am saith mlynedd tra 'oedd e’n gweithio yn The Crown at Whitebrook felly dwi’n sicr bod James yn siomedig o golli allan ar seren.

Wednesday, 9 September 2015

Newyddion: Got Beef am gynnal cyfres o nosweithiau 'pop up' ym mwyty Elgano

Beth allech chi wneud ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd? Mae modd bachu tocyn am ddegau o filoedd ar rai gwefannau neu gallwch chi fwynhau’r twrnament ym Mhontcanna tra’n bwyta byrger gorau’r brifddinas.

Mae bwyty Got Beef yn croesi’r afon i fwyty Elgano ac am gynnal cyfres o nosweithiau ‘pop up’ yno. Gyda tair sgrin yn y bwyty mi fyddwch yn sicr o gael golygfa dda o’r gêm – a mwynhau byrger bendigedig ar yr un pryd.
Mi fydd y fwydlen yn cynnwys rhai o’r hen ffefrynnau a dwi’n deall bod y perchennog, Cai, a’i dîm yn gweithio ar fersiynau gwahanol yn arbennig ar gyfer y pop ups yma. Mi fydd y naws yn un hamddenol: ni fydd modd archebu bwrdd o flaen llaw; mae croeso cynnes i’r teulu cyfan ac mi fydd opsiwn ar gael ar gyfer llysieuwyr.

Mae’r dyddiadau i’w cadarnhau felly byddwch yn siŵr o ddilyn Got Beef trwy Twitter, Facebook a’u gwefan er mwyn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf.

Wednesday, 26 August 2015

Waitrose Good Food Guide 2016

Cyhoeddwyd The Good Food Guide am y tro cyntaf ym 1951 ac mae’n ganllaw ar fwytai o safon led led Prydain. Mae’r canllaw yn seiliedig ar arolygiadau cudd yn ogystal ag adborth gan gwsmeriaid. Mi fydd y canllaw yn cael ei gyhoeddi ar 7fed o Fedi ond heddiw (26ain Awst) cyhoeddwyd rhestri 50 bwyty gorau a 50 tafarn gorau ym Mhrydain.
Dim ond 3 bwyty o Gymru sydd wedi hawlio lle fel un o 50 bwyty gorau Prydain. Y newyddion mawr yw bod bwyty James Sommerin, sydd wedi dioddef ychydig o fethu denu gweinwyr da i’w fwyty, wedi dyrchafu chwe safle o 30 i 24. Er mwyn rhoi hyn yn ei gyd-destun, yn safle 25 mae bwyty Alain Ducasse at the Dorchester - 3 seren Michelin! Llwyddiant enfawr i James, Louise a’r tîm.

Yn safle 34 mae Ynyshir Hall - yr unig fwyty o Gymru gyda seren Michelin yn y canllaw. Dwi’n synnu braidd bod bwytai eraill Cymru sydd gyda seren Michelin heb eu henwi yn y rhestr: The Walnut Tree, The Whitebrook, The Checkers a Tyddyn Llan. Er nad oedd lle i Tyddyn llan, fe ennillon nhw wobr Rhestr Win y Flwyddyn.

Mae Llangoed Hall wedi ennill lle yn y canllaw am y tro cyntaf (36). Ar ôl buddsoddiad helaeth dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r gydnabyddiaeth yma yn glod i’r triawd allweddol tu cefn i Llangoed Hall: Calum Milne, rheolwr gyfarwydd; Nick Brodie y cogydd a rheolwr y bwyty Bruno Asselin.

Gyda chanllaw Michelin yn cael ei gyhoeddi mis nesaf, tybed os oes seren Michelin ar ei ffordd i fwytai James Sommerin a Llangoed Hall mis nesaf? Cawn weld…

Rhestr o fwytai o Gymru yn llawn:

Safle 24: Restaurant James Sommerin, Penarth
Safle 34: Ynyshir Hall, Ceredigion
Safle 36: Llangoed Hall, Powys

Rhestr Win y Flwyddyn: Tyddyn Llan, Llandrillo

Rhestr o dafarndau o Gymru yn llawn:

Safle 16: The Hardwick, Y Fenni
Safle 32: The Felin Fach Griffin, Powys
Safle 36: The Kinmel Arms, Conwy
Safle 47: Bunch of Grapes, Pontypridd

Saturday, 22 August 2015

Bwyty Got Beef a'r sîn fyrger yng Nghaerdydd

Y pryd mwyaf poblogaidd yng Nghaerdydd yw’r byrger. Yn ddiweddar mae bwytai cadwyn o’r Amerig wedi dod i Gaerdydd ac wedi cael tipyn o sylw.

Mae Burger & Lobster wedi ennill tipyn o glod - y byrger gorau yng Nghaerdydd yn ôl blogiwr blaengar @gourmetgorro. I mi, roedd e’n fethiant. Y gost ariannol (£20) a’r gost amgylcheddol (cig o Nebraska) yn ormod a’r bara yn ddirlawn a llipa ar ôl amsugno’r sudd.

Mae Five Guys wedi agor yn ddiweddar yn Caroline Street. Ni allaf yn fy myw, ddeall y clod mae’r lle yma wedi’i dderbyn. Mae blog The Critical Couple yn crisialu fy marn i’r dim. Mae’n llwyddiant marchnata yn sicr ond does dim byd arbennig am y byrger yma. Byrger a phrofiad tebyg i McDonalds neu Burger King gewch chi yn Five Guys.

Mae Shake Shack am agor yng Nghaerdydd hefyd. Ma’ well gen i Shake Shack na Five Guys ond unwaith eto, nid yw’n taro’r nod ac unwaith eto, mae’n werth darllen blog The Critical Couple am eu profiadau nhw. Gwerth nodi yn achos Five Guys a Shack Shack eu defnydd o fyrger tenau sy’n anoddach i’w goginio. Cymharwch hyn gyda Got Beef. Yn fy marn i, y byrger gorau yng Nghaerdydd.

Diolch i Got Beef am y llun
Fel dwi wedi ysgrifennu eisoes, ansawdd y cynnyrch yw’r gyfrinach y tu ôl i lwyddiant Got Beef. “Cig eidion du Cymreig ac mae wedi’i goginio’n berffaith heb iddo fod yn sych. Mae’r bara yn…felys fel brioche ond gwead bach mwy cadarn, yn debyg i bagel. Mae’r rholyn wedi’i dostio’n ysgafn sydd yn sicrhau nid yw’r bara’n troi’n llipa wrth iddo amsugno sudd y byrger.”

Diolch i Got Beef am y llun
Mae’r cwmni hefyd yn batrymlun perffaith ar gyfer unrhyw fwyty sydd am agor lle newydd, gan fod Got Beef wedi esblygu’n llwyddiannus dros y blynyddoedd. Man cychwyn y busnes oedd gwerthu allan o fan ac yna fel bwyty pop up yn nhafarn The Canadian. Bu hyn yn gyfle gwych i fireinio a pherffeithio’r fwydlen. Yn bwysicach na hynny, roedd e’n gyfle da i sicrhau bod e’n fusnes hyfyw.

Dydy e ddim yn syndod darllen am Cai Pritchard, perchennog Got Beef, yn Wales Online fel un o’r “highest flying young business professional men” a braf hefyd oedd cael clywed am ei fwriad o agor Got Beef arall.

02920617534

Wednesday, 8 July 2015

The Whitebrook

Nôl ym mis Mawrth newidiwyd enw bwyty The Crown at Whitebrook i….[drumroll please!]…The Whitebrook! Dw i’n cofio meddwl ar y pryd:
  1. beth oedd y pwynt? a
  2. gobeithio na thalon nhw ormod i ba bynnag cwmni cyfathrebu am yr ail frandio!
Wedi i mi fwyta yno’n ddiweddar serch hynny, mae’r ail-frandio yn gwneud synnwyr perffaith i mi. Mwy am hynny yn y man…

Os ydych am bryd o fwyd Michelin heb groesi’r bont, yna The Whitebrook yw’r bwyty agosaf i ni yng Nghaerdydd. Mae'n sicr yn werth y siwrne (awr mewn car) er mwyn cael blasu bwyd y cogydd talentog, Chris Harrod a chael profi awyrgylch heddychlon The Whitebrook.

Hyfforddwyd Harrod gan Raymond Blanc yn Le Manoir aux Quat'saisons felly does dim syndod bod The Whitebrook wedi ennill seren ar ôl agor am 11 mis yn unig.

Mae Chris Harrod yn llwyddo i wneud beth mae sawl bwyty yn ceisio/honni eu bod nhw’n gwneud: defnyddio bwyd tymhorol a lleol.

Ces i goctel Welsh Garden ar y teras cyn i mi gael fy nghinio*, y mintys yn cael ei dynnu o’r ardd, a canapés ysgafn yn cynnwys dwy crostini gyda danadl poethion (nettle) a sialot ar un, a chaws gafr a betys ar y llall.
Roedd yr amouse bouche yn syml. Y piwrî moron bach fel bwyd babi blasus ond roedd y creisionen cyw iâr yn cynnig rhywbeth mwy soffistigedig.
Roedd y dechreuad o mousse merllys, ham Sir Fynwy, perlysiau a medd (mead) Tyndyrn yn hyfryd ac yn gwneud i mi feddwl pam nad oes mwy o fwytai yn defnyddio ham Sir Fynwy.
Ces i’r cig oen Ryeland fel prif gwrs, dw i’n tybio sydd wedi dod o fferm Huntsham lawr y lôn, a hynny wedi’i goginio’n berffaith a'r llysiau haf yn ysgafnhau’r pryd.
I lanhau’r daflod cyn y pwdin ces i rywbeth seiliedig ar Parma violet. Roedd fy nghariad yn dwli ar hwn a minnau’n meddwl fy mod i’n bwyta bar o sebon.
Ces i mousse arall fel pwdin – mousse mafon y tro hwn gyda detholiad o fafon Swydd Henffordd sorbed perlysieuol a choco. Y pryd yn ysgafn, heb fod yn felys o gwbl ac yn ddiweddglo perffaith.
Roedd y gweinydd yn cyflwyno pob un o’r cyrsiau ac yn cyfeirio at wahanol gynhwysion ac yn dweud “picked from our garden” neu “x miles down the road”. A dyma fi nôl at yr ail frandio. Mae’r enw newydd yn gwneud synnwyr perffaith, mae’r bwyty yn cynnig Whitebrook ar blât, dyma yw The Whitebrook.

The Whitebrook
Abergwenffrwd
Sir Fynwy
NP25 4TX
01600860254

info@thewhitebrook.co.uk
Facebook/TheWhitebrook
@TheWhitebrook

*Bwydlen pris osodedig amser cinio: 2 gwrs am £25 a 3 chwrs am £29

Monday, 6 July 2015

Il Pastificio - perl Penylan

Mae’n gychwyn pennod newydd i fwyty Il Pastificio heddiw (8fed o Orffennaf). Mae bwyty Il Pastificio yn gadael Heol Wellfield ac yn agor eu drysau am y tro cyntaf ar Heol Penylan, cyferbyn â thafarn The Claude.

Gyda hi’n anodd iawn cael bwrdd, mae’n beth da bod Il Pastificio nawr mewn bwyty llawer mwy.


Dw i wedi cwympo mewn cariad gyda’r lle. Yn syml, mae’n wych. Mae personoliaeth ac egni yn perthyn i’r lle sydd ddim ar gael unrhywle arall yng Nghaerdydd. Mae’r cogydd yn llawn bywyd ac yn cyfarch a sgwrsio gyda’r cwsmeriaid. Mae’r gegin agored yn llwyfan iddo fe a’r tîm i berfformio a gyda’r cogyddion a gweinwyr yn siarad Eidaleg, mae’r naws yn hyfryd. Dw i’n gobeithio bydd y fangre newydd yn gallu ail greu’r awyrgylch yma. Yn sicr, dw i’n gobeithio bydd cegin agored yno er mwyn i’r cwsmeriaid cael gweld y cogyddion yn perfformio. 


Mae’r bwyd ei hun yn hynod o syml. I ddechrau gofynnais i am gorgimwch mawr, tomato a saws tomato sbeislyd a dyna’r union beth ges i. Doedd dim byd ‘cheffy’ am y pryd, dim ond bwyd syml wedi’i goginio’n dda.

Corgimwch mawr (£7.95)
Roedd yr un peth yn wir am y prif gwrs. Stecen llygad yr asen gyda sbigoglys a chaws gorgonzola. Syml a blasus. Roedd y risotto gydag ysbinbysg y môr yn arbennig. Ffiledwyd y pysgodyn mewn eiliadau ac fe ffriwyd yn ysgafn i greu pryd tyner iawn.

Stecen 'ribeye' gyda sbigoglys a chaws gorgonzola (£23.95)
Risotto gydag ysbinbysg y mor (£18.95)
Roedd y gwin yn llifo erbyn hyn ac er i mi deimlo’n llawn, roedd gweld pwdinau ar fyrddau pobl eraill yn ormod o demtasiwn i mi.

Fy newis i oedd y darten lemwn. Roedd y crwst yn denau ac yn frau ond gallu cynnal y llenwad.

Crostata al Limone £4.50
Ar ddiwedd noson llawn hwyl, daeth y cogydd allan eto a chynnig gwydred o limoncello am ddim i ni. Roedd y cogydd yr un mor egnïol ar ddiwedd y noson, yn wir, roedd ef allan ar ganol yr heol yn ceisio cael tacsi i rai o’u cwsmeriaid! 

Mae Il Pastificio wir yn berl o le a gyda thîm mor angerddol a brwdfrydig wrth y llyw, dw i’n sicr bydd pennod nesaf Il Pastificio yn un llwyddiannus a llewyrchus.