Y pryd mwyaf poblogaidd yng Nghaerdydd yw’r byrger. Yn ddiweddar mae bwytai cadwyn o’r Amerig wedi dod i Gaerdydd ac wedi cael tipyn o sylw.
Mae
Burger & Lobster wedi ennill tipyn o glod - y byrger gorau yng Nghaerdydd yn ôl blogiwr blaengar
@gourmetgorro. I mi, roedd e’n fethiant. Y gost ariannol (£20) a’r gost amgylcheddol (cig o
Nebraska) yn ormod a’r bara yn ddirlawn a llipa ar ôl amsugno’r sudd.
Mae
Five Guys wedi agor yn ddiweddar yn
Caroline Street. Ni allaf yn fy myw, ddeall y clod mae’r lle yma wedi’i dderbyn. Mae blog
The Critical Couple yn crisialu fy marn i’r dim. Mae’n llwyddiant marchnata yn sicr ond does dim byd arbennig am y byrger yma. Byrger a phrofiad tebyg i
McDonalds neu
Burger King gewch chi yn
Five Guys.
Mae
Shake Shack am agor yng Nghaerdydd hefyd. Ma’ well gen i
Shake Shack na
Five Guys ond unwaith eto, nid yw’n taro’r nod ac unwaith eto, mae’n werth darllen blog
The Critical Couple am eu profiadau nhw. Gwerth nodi yn achos
Five Guys a
Shack Shack eu defnydd o fyrger tenau sy’n anoddach i’w goginio. Cymharwch hyn gyda
Got Beef. Yn fy marn i, y byrger gorau yng Nghaerdydd.
 |
| Diolch i Got Beef am y llun |
Fel dwi wedi ysgrifennu eisoes, ansawdd y cynnyrch yw’r gyfrinach y tu ôl i lwyddiant
Got Beef.
“Cig eidion du Cymreig ac mae wedi’i goginio’n berffaith heb iddo fod yn sych. Mae’r bara yn…felys fel brioche ond gwead bach mwy cadarn, yn debyg i bagel. Mae’r rholyn wedi’i dostio’n ysgafn sydd yn sicrhau nid yw’r bara’n troi’n llipa wrth iddo amsugno sudd y byrger.”
 |
| Diolch i Got Beef am y llun |
Mae’r cwmni hefyd yn batrymlun perffaith ar gyfer unrhyw fwyty sydd am agor lle newydd, gan fod
Got Beef wedi esblygu’n llwyddiannus dros y blynyddoedd. Man cychwyn y busnes oedd gwerthu allan o fan ac yna fel bwyty pop up yn nhafarn
The Canadian. Bu hyn yn gyfle gwych i fireinio a pherffeithio’r fwydlen. Yn bwysicach na hynny, roedd e’n gyfle da i sicrhau bod e’n fusnes hyfyw.
Dydy e ddim yn syndod darllen am Cai Pritchard, perchennog
Got Beef, yn
Wales Online fel un o’r
“highest flying young business professional men” a braf hefyd oedd cael clywed am ei fwriad o agor
Got Beef arall.
02920617534