Tuesday, 31 March 2015

Fed

Ger Cineworld mae bwyty ‘all you can eat’, Fed. Mae’r bwyty yn cynnig dros gant o brydau gwahanol o bob cwr o’r byd. Nid dyma’r math o fwyty sy’n apelio ataf fel arfer ond maen hynod o boblogaidd gyda mwyafrif o giniawyr y brifddinas. Nos Iau diwethaf roedd y lle yn dan ei sang.

Mae’r ystod o fwyd ar gael yn helaeth. Gallaf feddwl am lefydd gwell i fwyta bwyd traddodiadol Eidalaidd, Meciscanaidd, Sushi, stêc ayyb ond allai ddim meddwl am le sy’n cynnig cystal amrywiaeth. Mae rhywbeth at ddant pawb ar gael yn Fed.

Fel bwytai eraill ‘bwytewch faint a fynnwch’ mae rhai o’r prydau yn eistedd mewn crochanau - dull o arlwyo sydd ddim yn apelio at bawb. Un o gryfderau Fed serch hynny yw’r cogyddion sydd wrth law i goginio’r bwyd yn ôl eich dewis. Roedd y corgimwch o’r adran gril er enghraifft wedi’i goginio’n syml ac yn dda.
A minnau’n ceisio cadw’n heini, roeddwn ni’n hapus gweld lot o fwyd iachus ar gael. Roedd y saladau wir yn neis. Y cynhwysion yn ffres ac roedd cyfuniad o oren suddog, betys a chaws feta yn flasus tu hwnt.
Roedd y sushi yn ddigon dymunol hefyd. Well gen i fwy o bysgod gyda fy nigiri ond am £13.99 roeddwn i’n cael dêl eitha’ da!
Roedd y dosa fresh o’r gegin Indiaidd yn arbennig o dda – y cytew yn denau ac yn ysgafn a’r sawsusau llawn blas sbeislyd.
Rhaid i mi i gyfaddef doedd gen i ddim awydd i fwyta llawer o’r bwyd oedd wedi’i baratoi’n barod. Roedd toes y pitsa er enghraifft angen mwy o dân ac roedd safon y caws yn wan. Ond gyda digon o ddewis o’r ceginau byw, doedd hyn ddim yn broblem.
Prif gryfder Fed yw’r gwasanaeth. Mewn bwyty anferth mae’r awyrgylch yn gallu bod yn amhersonol iawn. Roedd ein gweinwyr, Laura a Sanjeev, yn hynod o gyfeillgar ac yn awyddus iawn i sicrhau fy mod i a fy nghariad yn mwynhau’r noson.

Os oes criw mawr ohonoch yn meddwl mynd am bryd o fwyd ond methu â chytuno ar fwyty, yna mae'n werth rhoi cynnig ar Fed.

Ces i fy ngwahodd gan Fed i adolygu'r bwyty

Fed
Caerdydd
CF10 2EN
02920 341501
www.wearefed.co.uk
@fedcardiff #wearefed
Facebook/FeDCardiff

Friday, 20 March 2015

Wahaca

Oes unrhyw un wedi elwa cymaint yn dilyn rhaglen Masterchef na Thomasina Miers? Hi yw’r athrylith tu nôl i gadwyn lwyddiannus Wahaca. 



Mae 20 menter yn rhan o grŵp Wahaca erbyn heddiw. Dwi wedi bwyta yno sawl gwaith erbyn hyn a dwi’n dwli ar y lle. Dydw i ddim mor hoff â hynny o fwyd Mecsicanaidd. Braidd yn undonog yw bwyta burrito neu fajita mawr ond ma’ Wahaca yn cynnig opsiwn arall: ‘street food’. Mae’n fersiwn o dapas Mecsicanaidd sydd yn golygu bod modd blasu sawl peth mewn un ymweliad!

Mae’r margaritas (oddeutu £7) yn wych ac yn ddiod berffaith i’w hyfed gyda phowlen o guacamole a tortilla wrth benderfynu beth i ddewis. Mae pob un plât yn costio tua £4, ac mae pob un gwerth eu blasu ond dyma rhai o fy ffefrynnau:

- taco stecen, salsa a chaws. Mae’r caws yn wefreiddiol. Fel waffl caws sy’n gyfuniad o gaws mozzarella a chaws monteray jack. Y mozzarella yn rhoi gwead a’r monteray jack yn ychwanegu’r blas.


- taquito taten felys a chaws feta. Mae’n debyg i ffriter taten (ond un iachus) gyda’r caws feta yn hallt neis.



- tostada cyw iâr a chaws parmesan. Yn syml iawn , Caesar salad da ar greisionyn yw hwn. Maen wrthgyferbyniad i’r prydau eraill gan ei fod e’n ysgafn ac yn ffres.


Dwi’n hoff o’r fwydlen 'street food' yma oherwydd y gymhareb rhwng y carbohydrad a’r cynhwysion blasus. Gyda’r taco, tostada a’r taquitos, bach iawn o garbohydrad sydd. Y llenwad sydd yn serennu.

Mae'r bwyd ar y cyfan yn syml ond yn hynod o flasus. Ewch a mwynhewch!

Wahaca
51 – 53 Yr Aes
Canolfan Dewi Sant
Caerdydd
CF10 1GA
029 2167 0414
@wahaca

Friday, 13 March 2015

Canteen on Clifton Street

Gyda llwyth o fwytai newydd wedi agor neu ar fin agor yn y misoedd diwethaf yn unig, mae’r sîn fwyd yng Nghaerdydd yn ffynnu. Wedi dweud hynny, bwytai cadwyn yw llwyth o rhain. A sawl lle byrger sydd angen ar Gaerdydd?!

Mae’n beth da felly bod bwytai tebyg i Canteen on Clifton Street yn bodoli. Bwyty gyda bwydlen llysieog yn bennaf yw Canteen ond mae yna ddewis o un pryd sy’n cynnwys cig hefyd. Mae’r cogydd, Wayne, yn tynnu ar ddylanwadau o bob cwr o’r byd er mwyn creu prydau bwyd blasus, ffres a diddorol.  Dwi’n dweud diddorol oherwydd dwi’n aml yn dysgu am ryw gynhwysyn newydd pan dwi’n bwyta yno.

Mae’r fwydlen yn newid yn fisol er mwyn sicrhau bod y cynhwysion yn dymhorol ac mae’n ffordd da o ddenu cwsmeriaid nôl. Mae’r cogydd yn cydnabod bod yna elfen arbrofol i’r hyn maen ei goginio, mae ambell i bryd aflwyddianus ond mae’r rhan helaeth yn wych - dyma’r rhan o’r apel i mi. Tra bod llwyth o lefydd yn gaeth i batrymlun o fwydlen sy’n cynnig bwrger neu pulled pork mae Wayne wrthi yn gweithio ar bryd arall arloesol. Yn wir, mae Canteen yn fwy o labordy na bwyty. Ond £18.50 yw’r pris am dri chwrs ac mae modd dod â gwin eich hun hefyd. Bargen.

Mae’n drueni mawr felly clywed bod y bwyty mewn sefyllfa go fregus – yn ôl ei gylchlythyr diwethaf, “there is a possibility that we will have to close the doors at some point” ac mi oedd y nifer o gwsmeriaid y penwythnos diwethaf yn “woeful”. Nawr* yw’r amser felly i bobl Caerdydd roi cynnig ar Canteen on Clifton Street cyn i ryw siop fel Greggs neu Subway cymeryd ei le.

40 Clifton Street
Caerdydd
CF24 1LR
02920454999

*Mae Canteen ar agor ar ddydd Iau, Gwener a Sadwrn yn unig.

Dyma enghraifft o beth ces i ym mis Ionawr:

Fersiwn llysieuol o roliau hwyaden gyda chiwcymbr, sibols a saws plwm

Sgiwer o gaws paneer wedi’i farineiddio gyda salad nwdl

Rendang cig eidion, reis persawrus a thro-ffrio



Sunday, 8 March 2015

Burger & Lobster

Fel mae’r enw yn awgrymu – bwyty sydd yn cynnig bwrger a chimwch yw Burger & Lobster. Yn fwy penodol, maen nhw’n cynnig:

  1. cimwch wedi’u grilio neu stemio gyda saws menynlemwn a garlleg neu saws menyn plaen
  2. rôl cimwch – ciwmch wedi’u stemio mewn rholyn brioche
  3. bwrger, gyda’r opsiwn o facwn a chaws.



£20 yw’r gost ond gyda’r cimwch sy'n dod o Nova Scotia a’r cig eidion o Nebraska, mae’r gost amgylcheddol yn un llawer mwy.

Blasus iawn yw’r cimwch serch hynny, cigog a melys. Mae’r saws menyn lemwn a garlleg yn ardderchog ac yn gweithio’n dda gyda’r cimwch. Roedd y saws mor neis nes i ofyn am ragor i fynd gyda’r sglodion.


Mae’r bwrger yn ddrud. Rhy ddrud. Mi oedd fy nisgwyliadau yn uchel iawn ond fe fethodd y bwrger â tharo’r nod. Yn ôl ei gwefan, mae’r bwrger yn “…[the]…tastiest and juiciest burger around.” Maen wir, mae’r bwrger yn llawn sudd, yn enwedig pan ei fod wedi’i goginio’n binc. Yn anffodus, nid yw’r bara wedi’u dostio felly mae’n amsugno’r sudd ac yn ei droi’n llipa. Roedd y cyfuniad o fara llipa a’r bwrger llac yn golygu bod pob llond pen yn eitha’ diflas. Roedd y bara bron â bod yn ddirlawn erbyn y llond pen olaf.


Mae’r cwmni wedi llwyddo i greu amwyrgylch dda iawn. Mae’n ‘cool’ heb fod yn ymhongar fel rhai o lefydd Shoreditch. Mae’r gwasanaeth yn arbennig o dda, cyfeillgar ac effeithlon. Byddai’n siŵr o fynychu eto ar gyfer cimwch a choctel ond nid dyma’r lle ar gyfer bwrger da.

Burger & Lobster
9 – 11 Yr Aes
Caerdydd
CF10 1AH
02920224044
cardiff@burgerandlobster.com
@burger_lobster

Saturday, 11 October 2014

Tafarn The Discovery

Mae menter diweddaraf Knife and Fork wedi trawsnewid tafarn enfawr Y Discovery yng Nghyncoed. Mae tafarn Y Conway yn dod o'r un stabal ond ychydig bach yn anghyson yw’r Conway yn fy marn i. I raddau helaeth mae hyn hefyd yn wir am y Discovery.

Yn debyg i lefydd eraill Knife and Fork mae’r fwydlen ar fwrdd du sy’n cynnwys ffefrynnau fel pysgod a sglodion a phrydau sy’n fwy mentrus fel “plât o fochyn”. Mae’r awyrgylch braidd yn rhyfedd, yn debyg i ffreutur ysgol pan fo'r lle yn llawn ac yn ogof llawn adlais pan fo'r lle’n wag.

Y prydau llwyddianus.

Ceir pysgod a sglodion ar bob un o fwydlenni Knife and Fork, ac mae rheswm dros hyn. Mae’n bryd swmpus ac mae wastad yn plesio. Mae’r pysgodyn yn dyner heb fod yn wlyb, y cytew yn ysgafn a’r sgoldion wedi’u coginio deirgwaith yn berffaith. Mae’r saws cartref tartar yn ychwanegu blâs siarp a’r mintys yn y pys yn ysgafnhau’r pryd.

Ffriter cimwch a chennin. Mae’n edrych yn brydferth iawn ac mae’r perlysiau meicro yn ychwanegu blas tyner o arlleg a betys. Braf oedd cael gweld cymaint o orgimwch fel rhan o’r pryd hefyd. Yn aml mae prydau tebyg yn dogni’r brif gynhwysyn ond allai ddim cyhuddo’r Discovery o hyn.



Ysbinbysg y môr. Pryd hynod, hynod o syml sy’n dathlu’r prif gynhwysyn. Y pysgodyn yn cwympo yn ddidrafferth o’r asgwrn. Blas y saws yn syml a’r ôl-flas o gnau o’r menyn yn gweithio’n berffaith gyda’r pysgodyn.


Tarten Snickers. Ma’ hwn yn wych ac mae’i dehongliad yn well na’r gwreiddiol hyd yn oed. Mae’r crwst yn denau neis ac yn cynnal y siocled a charamel melfedaidd. Mae’r gneuen ddaear a’r brittle yn wrthgyferbyniad braf. Mae hwn wir yn bwdin arbennig o dda.


Y prydau aflwyddiannus.

Y bwrger porc a chig eidion. Yn gyntaf, ma’ gas gen i fwrger sydd yn golygu bod rhaid datgymalu’ch gên er mwyn ei fwyta. Mae’n ffasiynol creu bwrger fel rhyw dŵr mawr ond y peth cynta’ dwi’n neud yw ei ddadwneud. Doedd y cyfuniad o borc a chig eidion ddim at fy nant i chwaith. Doedd y ddau gig ddim wedi'u cyfuno’n llwyddianus. Roedd ambell i lond pen o borc hallt ac ambell i lond pen o gig eidion cymharol ddi-flas. Roedd yna dipyn o olew hefyd yn cael ei amsugno i mewn i rolyn brioche llawn menyn. Roedd y blasusau'n llawer rhy gyfoethog. Roedd y modrwyon winwns yn boddi mewn cytew. Roedd y sglodion yn ychwanegu at bryd oedd heb unrhyw gydbwysedd o gwbl.

Roedd angen llai o fenyn yn y bara, llai o fraster yn y bwrger a byddai picl neu gyrcin wedi bod yn gaffaeliad da.



Plât o fochyn. Dyma’r pryd cyntaf i mi ei gael yn Y Discovery. Roedd pob un rhan yn sych a doedd dim saws er mwyn adfer y sefyllfa. Roedd piwrî afal ar y plât ond roedd gormod o flas clof arno. Gadewais y lle yn argyhoeddiedig mai ansawdd yw nodwedd bwysicaf unrhyw bryd o fwyd. Gwaetha'r modd, nid dyma flaenoriaeth Y Discovery bob amser.


Mae’r ffaith bod y fwydlen yn cael ei diweddaru’n rheolaidd i’w ganmol ond efallai bod hyn yn cyflwyno elfen o risg. Nid yw pob un pryd yn taro'r nod, ond o fy mhrofiad i, y prydau syml sydd yn llwyddo. Wedi dweud hyn, gyda chyn lleied o gystadleuaeth yn yr ardal dwi’n siŵr y bydd Y Discovery yn ffynnu,

02920755015
discovery@knifeandforkfood.co.uk
@KnifeForkFood
@TheDiscoveryPub

Sunday, 14 September 2014

Chez Francis

Yn aml mae pobl yn gofyn fy marn ar y sîn fwyd yng Nghaerdydd. Fy ateb? Mae’n dda ac yn gwella ar gyfradd cyflym tu hwnt a does dim enghraifft gwell o’r gwelliant yma na Chez Francis. Brasserie newydd wedi’i hagor yn Nhreganna.



Oddi tan bwyty arbennig Purple Poppadom mi oedd  Sizzle and Grill – bwyty oedd yn brolio ei fod hi’n un o lefydd Man v Food. Ar y fwydlen: bwrger babi, oherwydd roedd y bwrger yn pwyso 6 phwys; a stecen 96 owns. Roedd y rwtsh yma yn cael ei weini mewn bwyty gyda sgôr hylendid o 0 ac roedd enghreifftiau o gig yn troi’n wyrdd a choesau brogaod drewllyd yn y gegin. Erbyn heddiw, hen hanes yw hyn. Diolch byth.

Mae’r lle wedi’i drawsnewid ac yn syth bin mae gweledigaeth glir y perchennog Francis Dupuy (Pier 64Trade Street Café ac yn gynt o Le Gallois) yn dod i’r amlwg. Mae enw’r lle yn crisialu’r weledigaeth yma’n berffaith. Mae’r dodrefn, y naws a’r fwydlen yn hamddenol a chartrefol iawn. Yn sicr, does dim teimlad eich bod chi mewn bwyty ffurfiol.

Mae’r fwydlen yn gymysgedd o fwyd syml a chlasurol Ffrengig. I ddechrau ces i gawl winwns Ffrengig gyda croûtons gruyère (£4.95). Does dim ffanffer na ffws gyda’r cawl yma. Mae’n syml ac yn flasus, Yn allweddol, dim on melystra naturiol y winws dw in flasu ac mae’r croûtons gruyère yn ychwanegu cic hallt pleserus.


Nesa ces i glasur arall: Coq au Vin (£14.95) ac mi oedd hwn yn ddehongliad perffaith. Does dim byd ‘chefy’ am y cylfwyniad, mae’r pwyslais ar fwyd blasus a dim arall. Mi oedd y cyw iâr wedi’i goginio’n berffaith ac yn cwympo o’r asgwrn heb unrhyw drafferth.


I orffen ces i’r clafoutis gyda cheirios Moreno (£4.95). Pryd syml, brodorol wedi’i goginio’n dda gyda’r ceirios sawr yn torri trwy’r clafoutis cyfoethog. Doedd y pwdin yma byth yn mynd i wefru’r synhwyr ond mi oedd e braidd yn undonog. Byddai ychydig o hufen iâ fanila wedi cynnig dimensiwn ychwanegol i’r pryd a dwi ddim yn meddwl bod e’n ormod i ofyn am £4.95!


Unwaith eto mae Francis wedi llwyddo i wella’r sîn fwyd yng Nghaerdydd. Mae’r bwyd yn draddodiadol Ffrengig ac yn gyfoethog a gyda’r tywydd yn oeri a’r dyddiau’n byrhau, gallaf feddwl am lefydd gwaeth i dreulio noson yng Nghaerdydd!

Mae ond yn deg i mi nodi i mi gael gwahoddiad gan gwmni Tinopolis i adolygu’r bwyty a nid y fi dalodd y bil! Dyma'r adolygiad ar Heno (8 munud 25 eiliad).

02920224959

Saturday, 31 May 2014

James Sommerin





Hir yw pob aros. Nôl ym mis Mawrth 2013 cyhoeddodd Chef Hermes ar ei flog y posibilrwydd y byddai James Sommerin yn dod i Benarth. Roedd sôn byddai'r bwyty yn agor ym mis Hydref, yna Tachwedd, yna mis Ionawr…Mawrth…Ebrill...

Tra bo pawb yn aros, cyhoeddodd Mark Adams gyfweliad gyda James Sommerin ei hun nôl ym mis Ionawr. Diddorol oedd clywed athroniaeth y cogydd a chlywed ffeithiau sydd yn codi ael neu ddwy - £70,000 am y ffwrn er enghraifft! O’r diwedd, agorwyd y bwyty ym mis Mai a gyda fy nghariad yn dathlu ei phen-blwydd, roedd hwn yn esgus perffaith i mi brofi’r lle.

Mae sawl person wedi sôn nad ydy’r bwyty wedi gwneud yn fawr o botensial yr olygfa. Pwynt teg, ond yr hyn wnaeth ddal fy llygaid i, oedd y ffenestr oedd yn cynnig golygfa o’r cogyddion yn y gegin.

Does dim bwydlen a la carte, ond ceir dewis o fwydlenni gosodedig pump, saith neu 10 cwrs, a bwydlen penodol ar gyfer amser cinio.

Penderfynais i fynd am saith cwrs (£70). I ddiddanu'r daflod roedd panna cotta corn melys, hadog a bacwn, gougère ysgafn ac arancino tryffl.



Doedd dim fawr o ddewis o ran bara. Gwyn neu frown. Doedd dim byd anhygoel am rhain ac roedd rhan ohonof yn meddwl y bydddai’n well peidio â chynnig bara o gwbl. Mae bwyta saith cwrs blasus yn fwy na digon heb lenwi ar fara.

Cyn ddechrau ar y fwydlen go iawn roedd caws pôb Cymreig. Daeth y gweinydd i arllwys consommé winwns perffaith a chlir wrth y bwrdd i gwblhau’r pryd.



Nesaf daeth hoff bryd fy nghariad - pys, parmesan, saets ac ham Serrano. Roedd e'n wych er roedd prinder yr ham Serrano yn amlwg. Roedd angen cic yr ham hallt ar y pryd. Esgeulus ac anffodus. O ystyried pa mor syml oedd prif gynhwysyn y pryd - pys - roedd e’n blatiad hynod o flasus.



I ddilyn roedd tryffl, madarch gwyllt, merllys a chaws Pearl Wen (sic.). Hynod o flasus - a blas y madarch yn ogoneddus. Dwi'n gwybod bod rhai yn blino ar ddefnyddio 'foam' mewn pryd ond i mi mae'n iawn o'i goginio'n gywrain, fel yn yr achos yma. Roedd blas tryffl yn amlwg heb ddominyddu. Caws oedd y prif flâs ond dydw i ddim yn sicr a oedd cydbwysedd y fwydlen yn gywir, yn enwedig ar ôl caws pôb Cymreig y cwrs blaenorol.



Cynffon ychen, barlys, persli ac winwns ddaeth nesaf. Roedd y creisionen panasen yn siomedig, heb gael digon o dân - doedd cnoi trwy llysieuyn llawn cellwlos ddim yn bleserus. Roedd popeth arall yn wych. Y saws yn gyfoethog a llawn blas a chynffon yr ychen yn feddal. Roedd y barlys yn cynnig bach o swmp i'r pryd, y persli yn cynnig nodyn ffresh a'r winwnsyn yn berffaith o felys.


Pysgodyn nesa. Yn benodol penfras wedi'i fygu, ffacbys, melynwy a blodfresychen. Pryd gwana'r saith cwrs yn ôl fy nghariad, ond mwynhais i'r cyfuniad o'r wy a physgodyn.



Y cwrs nesaf oedd seren y noson. Tri gwahanol rhan o borc wedi’u coginio’n berffaith: lwyn, pen a bola. Y pryd yn fy atgoffa o, ac yn welliant ar, ei bryd 'nose to tail' tra oedd James Sommerin yn y Crown at Whitebrook. Gwych, gwych, gwych!



Roedd y cwrs nesa yn enghraifft arbennig o bontio rhwng cyrsiau sawrus a'r melysfwyd. Y gyfrinach oedd cydbwysedd perffaith o gaws brie, afal ac hufen fanila. Y caws hallt hufennog yn tymheru melystra'r afal a'r fanila.


Wedyn cafwyd pwdin diddorol oedd yn cyfuno sbeis ras el hanout gyda ffenigl a phîn afal. Doeddwn i erioed wedi bwyta ras el hanout mewn pwdin o'r blaen ond roedd e'n berffaith gyda'r hufen iâ.



Erbyn hyn roedd y gwin (Villa Wolf Pinot Blanc 2012, Pfalz, Yr Almaen (£25); Tamar Ridge Devil’s Corner Pinot Noir 2012, Tasmania (£38); a gwydraid o Perdido Late Harvest Chardonnay, Patagonia (£4.95)) yn dechrau cael effaith a does dim fawr o gof gen i o'r amrywiaeth o bwdinau ychwanegol cawsom ni fel anrheg pen-blwydd. Roedd fy nghariad wedi cofio'r pwdin siocled a ffa tonca fel ei phwdin gorau y noson.



Braf oedd cael siarad gyda James Sommerin ar ddiwedd y noson a chael dysgu mwy am ei weledigaeth; bwyd ardderchog am bris rhesymol mewn awyrgylch hamddenol. Does dim rhaid i'r gwesteion wisgo'n ffurfiol. Mae'r gweinyddion yn gymwynasgar ac effeithiol heb fod yn or-ffurfiol.

Breuddwyd James yw ennill 2 seren Michelin. Mae tipyn o waith i'w wneud os ydy e am wireddu'r freuddwyd hon, ond dwi'n ffyddiog y daw seren i'r brifddinas yn sgil holl ymroddiad a dyfeisgarwch James Sommerin.

Bwyty James Sommerin
Penarth
CF64 3AU
0772221672

@RestaurantJS
@JSommerin
@LSommerin
@MattyWaldo
@scottgreve
@danylancaster