Showing posts with label Mecsico. Show all posts
Showing posts with label Mecsico. Show all posts

Thursday, 25 June 2015

Barburrito

Dyma’r bwyty cadwyn diweddara’ i ddewis Caerdydd fel y ddinas ddelfrydol i agor cangen newydd. Gydag enwau mawr fel Wahaca, Burger & Lobster a Carluccio's wedi agor yn ddiweddar, mae gan y cwmnïau mawr hyder yn sîn fwyd y brifddinas.


Agorwyd cangen gyntaf Barburrito ddegawd yn ôl ac ar ôl ennill gwobr BBC Best Newcomer yng ngŵyl fwyd Manceinion mae’r cwmni wedi tyfu’n gyflym gyda’r gangen yng Nghaerdydd yn nodi agoriad y deuddegfed mewn cyfnod gymharol fyr.

Dwi wedi profi bwyd Barburrito eisoes (cangen gorsaf drên Llundain Paddington) ond mi oedd hwn yn brofiad gwahanol. Mae’r fwydlen yn newydd ac mae gwedd y bwyty yn wahanol.

Mae’r fwydlen newydd yn cynnig detholiad o burritos, tacos, quesadillas a tortillas ac mae’r prisiau’n amrywio o £4.50 i £7.95. Rhesymol tu hwnt.

Fel rhan o lansiad y bwyty ces i wahoddiad i baratoi burrito fy hun:





Ar ôl dysgu sut i berffeithio'r grefft o blygu lapio, es i du ôl i'r llinell a dewisodd fy nghyfuniad hun o flasau i wneud fy burrito. Roedd amrywiaeth dda o opsiynau, o borc wedi’u tynnu, cig eidion wedi'u torri'n fân a stêc wedi’u golosgi i reis, ffa, pupur a winwns, colslo creisionllyd a sawl opsiwn o saws. Es i am y cig eidion, winwns melys, salad a hufen sur. Syml ond hynod o flasus a gyda’r burrito wedi’i lapio’n dyn, gwnaeth y wrap aros mewn darn hyd nes y llond pen olaf. Arwydd o burrito da!


Er mae bwyty cadwyn ydyw, mae rhaid canmol ei ymrwymiad i’r amgylchedd a braf yw cael darllen am y camau ymarferol maen nhw’n eu cymryd.

Am fwyd Mecsicanaidd cyflym a chymharol rad, mae Barburrito yn taro’r nod.



http://www.barburrito.co.uk/
https://www.facebook.com/BarburritoUK
@barburtweeto

Friday, 20 March 2015

Wahaca

Oes unrhyw un wedi elwa cymaint yn dilyn rhaglen Masterchef na Thomasina Miers? Hi yw’r athrylith tu nôl i gadwyn lwyddiannus Wahaca. 



Mae 20 menter yn rhan o grŵp Wahaca erbyn heddiw. Dwi wedi bwyta yno sawl gwaith erbyn hyn a dwi’n dwli ar y lle. Dydw i ddim mor hoff â hynny o fwyd Mecsicanaidd. Braidd yn undonog yw bwyta burrito neu fajita mawr ond ma’ Wahaca yn cynnig opsiwn arall: ‘street food’. Mae’n fersiwn o dapas Mecsicanaidd sydd yn golygu bod modd blasu sawl peth mewn un ymweliad!

Mae’r margaritas (oddeutu £7) yn wych ac yn ddiod berffaith i’w hyfed gyda phowlen o guacamole a tortilla wrth benderfynu beth i ddewis. Mae pob un plât yn costio tua £4, ac mae pob un gwerth eu blasu ond dyma rhai o fy ffefrynnau:

- taco stecen, salsa a chaws. Mae’r caws yn wefreiddiol. Fel waffl caws sy’n gyfuniad o gaws mozzarella a chaws monteray jack. Y mozzarella yn rhoi gwead a’r monteray jack yn ychwanegu’r blas.


- taquito taten felys a chaws feta. Mae’n debyg i ffriter taten (ond un iachus) gyda’r caws feta yn hallt neis.



- tostada cyw iâr a chaws parmesan. Yn syml iawn , Caesar salad da ar greisionyn yw hwn. Maen wrthgyferbyniad i’r prydau eraill gan ei fod e’n ysgafn ac yn ffres.


Dwi’n hoff o’r fwydlen 'street food' yma oherwydd y gymhareb rhwng y carbohydrad a’r cynhwysion blasus. Gyda’r taco, tostada a’r taquitos, bach iawn o garbohydrad sydd. Y llenwad sydd yn serennu.

Mae'r bwyd ar y cyfan yn syml ond yn hynod o flasus. Ewch a mwynhewch!

Wahaca
51 – 53 Yr Aes
Canolfan Dewi Sant
Caerdydd
CF10 1GA
029 2167 0414
@wahaca