Gyda llwyth o fwytai newydd wedi agor neu ar fin agor yn y misoedd diwethaf yn unig, mae’r sîn fwyd yng Nghaerdydd yn ffynnu. Wedi dweud hynny, bwytai cadwyn yw llwyth o rhain. A sawl lle byrger sydd angen ar Gaerdydd?!
Mae’n beth da felly bod bwytai tebyg i Canteen on Clifton Street yn bodoli. Bwyty gyda bwydlen llysieog yn bennaf yw Canteen ond mae yna ddewis o un pryd sy’n cynnwys cig hefyd. Mae’r cogydd, Wayne, yn tynnu ar ddylanwadau o bob cwr o’r byd er mwyn creu prydau bwyd blasus, ffres a diddorol. Dwi’n dweud diddorol oherwydd dwi’n aml yn dysgu am ryw gynhwysyn newydd pan dwi’n bwyta yno.
Mae’r fwydlen yn newid yn fisol er mwyn sicrhau bod y cynhwysion yn dymhorol ac mae’n ffordd da o ddenu cwsmeriaid nôl. Mae’r cogydd yn cydnabod bod yna elfen arbrofol i’r hyn maen ei goginio, mae ambell i bryd aflwyddianus ond mae’r rhan helaeth yn wych - dyma’r rhan o’r apel i mi. Tra bod llwyth o lefydd yn gaeth i batrymlun o fwydlen sy’n cynnig bwrger neu pulled pork mae Wayne wrthi yn gweithio ar bryd arall arloesol. Yn wir, mae Canteen yn fwy o labordy na bwyty. Ond £18.50 yw’r pris am dri chwrs ac mae modd dod â gwin eich hun hefyd. Bargen.
Mae’n drueni mawr felly clywed bod y bwyty mewn sefyllfa go fregus – yn ôl ei gylchlythyr diwethaf, “there is a possibility that we will have to close the doors at some point” ac mi oedd y nifer o gwsmeriaid y penwythnos diwethaf yn “woeful”. Nawr* yw’r amser felly i bobl Caerdydd roi cynnig ar Canteen on Clifton Street cyn i ryw siop fel Greggs neu Subway cymeryd ei le.
40 Clifton Street
Caerdydd
CF24 1LR
02920454999
*Mae Canteen ar agor ar ddydd Iau, Gwener a Sadwrn yn unig.
Dyma enghraifft o beth ces i ym mis Ionawr:

Fersiwn llysieuol o roliau hwyaden gyda chiwcymbr, sibols a saws plwm |
Sgiwer o gaws paneer wedi’i farineiddio gyda salad nwdl |
Rendang cig eidion, reis persawrus a thro-ffrio |
No comments:
Post a Comment