Saturday 13 April 2019

2* i fwyty James Sommerin?

Does dim un bwyty yng Nghaerdydd gyda seren Michelin. Yr unig brifddinas yn y Deyrnas Unedig heb seren. Mae’r gymhariaeth gyda phrif ddinasoedd eraill y DU yn un diflas:

Llundain 71; Caeredin 4; Belfast 2; a Chaerdydd...0.

Er bod rhai yn edrych ar ganllaw Michelin fel un sydd yn llai perthnasol, mae’n parhau i fod yn ganllaw dylanwladol tu hwnt. Mae’n newyddion da felly bod yr athrylith James Sommerin wedi agor ei fwyty Restaurant James Sommerin llai na 10 milltir tu allan i’r brifddinas.

Llwyddodd y bwyty i ennill seren nôl yn 2016 ac mae wedi ail adrodd y gamp bob blwyddyn ers hynny. Dim ond 6 bwyty sydd gyda seren Michelin trwy Gymru gyfan. Dwi wedi profi bwyd James Sommerin sawl tro erbyn hyn ond mi oedd fy ymweliad diweddar yn un arbennig iawn. Y tro hwn ces i brofi bwydlen arbennig 14 cwrs ar y ‘chef’s table.’

Yn wahanol i fwytai eraill, mae’r ‘chef’s table’ yn rhywbeth mae’r bwyty wedi'i gynllunio fel rhan o’r gegin a nid, fel bwytai eraill, bwrdd isel wedi’i osod mewn cornel y gegin. Dyma oedd fy ngolygfa i o'r wledd.
Dros 4 platiad bach i ‘ddiddanu’r daflod’ ces i gyflwyniad i’r cogyddion a gwahanol adrannau y gegin. Y lasagne, unwaith eto, yn sefyll allan fel yr amouse bouche gorau (llun isod).

Un peth oedd wedi fy nharo i oedd pa mor dawel oedd y gegin. Mi oedd y bwyty’n llawn ac ar unrhyw un adeg roedd y gegin yn paratoi hyd at 30 pryd gwahanol. Yn groes i fy nisgwyliadau, doedd dim gweiddi, rhegfeydd na thensiwn rhwng y cogyddion. Ag eithrio cadarnhau amseru coginio prydau ar gyfer gwahanol byrddau, roedd pawb wedi ffocysu ar baratoi perffeithrwydd ar blat ac hynny dro ar ôl tro.

Roedd y ddeinameg rhwng James a’i ferch, Georgia, yn un arbennig hefyd. Gyda’r diwydiant yn brin o gogyddion o safon, mae James a’i wraig Louise, yn llythrennol, wedi datblygu staff eu hunain. Ond 20 mlwydd oed yw Georgia ac mae wedi ennill dyrchafiad i fod yn sous chef i’w thad, James. Ai James a Georgia yw ein fersiwn ni o Juan ac Elena Arzak? Amser a ddengys.

Mae'r fwydlen yn amrywio bob un tro ac mae'n gyfle i'r cogyddion i ddangos eu doniau a pheidio bod yn gaeth i'r fwydlen a la carte. Efallai bod bwyta 14 cwrs yn swnio'n ormod i rhai ond mi roedd y maint o fwyd a thempo y cyrsiau yn gweddu'n berffaith i brynhawn o loddesta. Cyfle i eistedd nôl a phrofi bwyd heb ei ail wrth iddo ymddangos fel belt cludo o berffeithrwydd cogino. Am £150 y pen, mae'r fath brofiad yn cwympo i gategori 'amheuthun achlysurol' ond mae'n amheuthun sydd yn werth ei brofi.

Mae'r coginio yn sicr yn cyfrannu at godi statws a newid canfyddiad pobl at safon bwytai Cymru. Ydy'r coginio'n ddigon i ennill ail seren Michelin? Bydd rhaid i ni aros tan fis Hydref ond ar sail fy mhrofiadau i ym mwytai eraill gyda 2 seren - mae'n hen bryd.

Restaurant James Sommerin
https://www.jamessommerinrestaurant.co.uk/
The Esplanade
Penarth
CF64 3AU
02920706559

No comments:

Post a Comment