Tuesday 12 May 2015

Bwyty James Sommerin yn flwydd oed

Roedd fy mlog diwethaf yn sôn am ddiffyg bwytai sêr Michelin yng Nghaerdydd. Yn wir, mae’r bwyty agosaf ym Mryste. Wedi dweud hynny, dwi’n siŵr bydd canllaw Michelin 2016 yn cynnwys newyddion da i fwyty James Sommerin.

Ers i’r bwyty agor mae e wedi denu sylw adolygwyr papurau Prydeinig fel yr Independent a’r Telegraph. Yn gyffredinol, geiriau positif sydd gyda’r adolygwyr o ran y bwyd ond mae’r un hen bwynt yn codi dro ar ôl tro parthed y diffyg gwneud yn fawr o'r lleoliad unigryw.

Dwi wedi bwyta ym mwyty James Sommerin sawl gwaith erbyn hyn ac mae’r lle yn gwella dro ar ôl tro. Dydy’r bwyty ddim wedi newid rhyw lawer ond mae mân newidiadau fel chwarae cerddoriaeth yn meddalu’r awyrgylch, mae’r tîm gweini llawer fwy hamddenol a llai hunan-ymwybodol hefyd. Wedi dweud hynny, dyma brif wendid y lle – anghyson yw’r gwasanaeth. Dwi wedi bod yn ffodus ac wedi profi gwasanaeth heb ei ail ond dwi wedi clywed am sawl enghraifft o wasanaeth slac. Yn wir, mae’r bwyty yn ymwybodol o hyn ac mae James a Louise wedi synnu braidd gyda’r diffyg sydd o weinwyr da.

Mae’r awyrgych yn well ers i fwyty James Sommerin cynnig te prynhawn. Tua diwedd gwasanaeth cinio er enghraifft, mi oedd y bwyty yn tawelu ond mae cwsmeriaid sy’n dod am de prynhawn yn golygu bod yr awygylch da yn cael ei gynnal drwy gydol y prynhawn.


Y bwyd. Dyma’r peth gorau heb os. Darperir bwydlenni gosodedig o 2, 3 chwrs (amser cinio), 5, 7, 10 neu 14 ar gyfer yr hwyrnos. Roeddwn i’n becso ychydig o feddwl na fyddai'r bwydlenni yma yn newid yn rhy aml. Ond yn wir, mae’r bwydlenni yn esblygu gyda’r tymhorau ac fel bod tim James Sommerin yn creu a datblygu prydau newydd.

Mae yna un eithriad, sef y canapés. Dwi wedi bwyta yno rhyw 7 gwaith erbyn hyn a’r un yw’r canapés bob tro: panna cotta corn melys, hadog a bacwn a thryffl arancino. Tra bod rhain yn wych – mae’n hen bryd cynnig danteithion newydd ar ôl blwyddyn gyfan!


Dyma enghreifftiau o rai o brydau cofiadwy James Sommerin dros y flwyddyn diwethaf.

Pen-blwydd hapus a phob lwc ar gyfer y dyfodol!

Restaurant James Sommerin
The Esplenade
Penarth
CF64 3AU
029 20706559
@RestaurantJS

...







...







No comments:

Post a Comment