Rwy’n teimlo trueni dros lysieuwyr. Dydw i ddim am swnio’n nawddoglyd a
dwi’n parchu rhesymau pam bod llysieuwyr yn dewis peidio â bwyta cig. Dwi’n
teimlo trueni oherwydd y dewis gwael sydd ar gael mewn sawl bwyty. Mae yna sawl
enghraifft o brydau llysieuol sydd yn swnio’n flasus iawn wrth gwrs, ond mae'r
bwytai yn codi crocbris: £11 am ffriter chickpea moron a chwmin neu £13
am lysiau wedi eu marineiddio ac wedi eu golosgi gyda, fregola grosso (pasta
â llysiau mewn geiriau eraill)!
Nos Sul 23ain o Fehefin es i am bryd nos ym Milgi, ar City Road .
Ers 2010 mae Milgi ond yn cynnig bwydlen lysieuol. Wel, mae Milgi yn llawer mwy
na bwyty ond bwyd yn unig yw testun y blog yma…
Athroniaeth y lle yw defnyddio cynhwysion lleol mewn ryseitiau sydd yn adlewyrchu dylanwadau byd eang. Mae’r fwydlen yn adlewyrchu hyn ac mae’n amlwg bod
yr athroniaeth yma wedi profi’n llwyddiannus iawn gyda Milgi yn ennill gwobrau
am y Best Cheap Eats a Best Ethical yng Nghymru, tair mlynedd yn
olynol.
Mae’r fwydlen yn gryno iawn gyda tri neu bedwar dewis i bob cwrs, gyda’r
prisiau’n amrywio o £5-6 am gwrs cyntaf, £8-9 am brif gwrs a £5 am bwdin.
Ches i ddim
cwrs cyntaf a nes i ddewis halloumi
wedi’i grilio gyda phupur saffrwm; pys pinto,
cassoulet tomato; a thatws wedi’i ffrio’n ysgafn gyda chwmin fel prif gwrs
(£8.95). Roedd e’n ddewis hawdd i mi oherwydd dwi’n dwli ar halloumi: y canol
wedi’i feddalu ychydig; a’r darnau allanol yn dechrau troi’n grimp wedi bod yn y
badell grilio. Mae’n gaws llawn blas oherwydd yr holl halen hefyd.
Roedd y cassoulet tomato a ffa
pinto yn ddigon dymunol o ran blas -
ei rôl bennaf oedd cydbwyso’r pryd trwy gyfrannu saws. Roedd y salad hyd yn oed
yn flasus! Dwi’n dweud hynny gydag ychydig o syndod oherwydd dwi’n colli cyfrif
o’r achlysuron pryd dwi’n cael salad sydd yn cynnwys hanner dwrn o ddail salad llipa
a rheini yn morio mewn olew rhad.
Prif gryfder y salad oedd yr hadau pwmpen a winwnsyn oherwydd iddyn nhw
gynnig gwead gwahanol a gwrthgyferbyniad da i bopeth arall oedd ar y plât.
Oherwydd safon y bwyd, doedd dim rhaid i mi feddwl dwywaith os oeddwn i
am bwdin ai peidio. Doughnuts afal gyda hufen iâ riwbob a bisged frau a
pum sbeis. Yr unig wendid yma oedd yr hufen iâ fel carreg o galed, nid hufennog, fel y dylsai fod. Roedd y doughnuts serch hynny yn berffaith: yr haenen allanol yn
grimp a’r canol yn ysgafn gydag afal poeth. Roedd y pum sbeis yn gweithio’n
berffaith gyda’r afal ac er gwaethaf fy mhryderon, doedd llond llwy o doughnut,
afal, bisged frau a hufen iâ ddim rhy felys. I’r rhai ohonoch chi sy’n meddwl
beth yw’r powdr piws ar yr hufen iâ a’r plât, powdr betysen yw e. Doeddwn i
ddim yn gweld diben cynnwys y powdr yma oherwydd roedd ei flas ar goll a methu
cystadlu gyda’r pum sbeis.
Mae Milgi
yn sicr iawn o’i hun ac yn gwybod ei le yn y farchnad. Mae naws y lle yn
hamddenol tu hwnt, mae’r bwyd yn ffres, lleol ac mae’r pris yn rhesymol dros
ben.