Saturday, 23 March 2019

Bwyta yn y Brifddinas, Mawrth 2019

Mae hi wedi bod yn ddechreuad prysur iawn i 2019: Bwytai yn cau, ymgyrchoedd codi arian torfol ar gyfer bwytai a chaffis newydd, bwytai yn partneru i greu ‘pop ups’ a llawer, llawer mwy. Dyma flog felly sy’n ceisio crisialu’r holl ddigwyddiadau misoedd cyntaf 2019.

Ember: dyma fenter newydd John Cook. John wrth gwrs yn gynt o fwyty Arbennig  - y bwyty gyda’r sgôr uchaf yng Nghaerdydd yn ôl canllaw Good Food - Dirt a Hoof. Y ddêl gyda Ember yw bwydlen pedwar cwrs ar nos Wener a nos Sadwrn yn Llaeth a Siwgr yn Yr Hen Lyfrgell. Bachwch docyn yma: a dilynwch @EMBERjohnCook.
Dusty Knuckle: mae Phill wedi cyhoeddi prosiect cyffrous iawn. Y cynllun yw i drawsnewid Tŷ’r Warden ym mharc Bute i fod yn un o fwytai mwyaf cynaliadwy'r brifddinas. Mae nhw’n edrych am ein cymorth ni er mwyn gwireddu’r cynllun. Yn benodol mae nhw’n gofyn am £40,000 trwy ymgyrch kickstarter. Dwi eisoes wedi cyfrannu, fel dros 200 unigolyn arall. Braf bydd gweld hwn yn cyrraedd y targed - mae gannoch chi tan ganol mis nesa’ i gyfrannu a @dusty_knuckle.

Lufkin: Mae caffi Lufkin am agor 2 gaffi newydd ac wedi lansio ymgyrch arian torfol er mwyn codi £18,000. Y bwriad yw agor caffi yn Nhreganna a Grangetown. Dim ond wythnos sydd i fynd gyda’r ymgyrch hon a gallwn gyfrannu yma a @lufkincoffee.
Bloc Coffee: Mae Grady Atkins yn enw cyfarwydd iawn i drigolion y brifddinas. Cogydd hen ei ail a chogydd sydd oedd yn haeddu seren Michelin, yn ôl Tomos Pari. Y newyddion da i ni yw bod Grady wedi partneru gyda Bloc Coffee ac mae’n coginio yno bob nos Wener. Ebostiwch info@bloccoffee.co.uk er mwyn cadw bwrdd. Mae’r adolygiadau wedi bod yn ffafriol iawn hyd yma – dyma beth oedd gan Gourmet Gorro i ddweud am y lle.
Gŵyl Fwyd Y Fenni: Sôn am Gourmet Gorro - mi fydd e a Hungry City Hippy yn cynnal sesiwn yng Ngŵyl Fwyd Y Fenni mis nesaf. Fel rhan o’r sesiwn mi fydd y ddau yn trafod moeseg a thryloywder wrth flogio. Testun dwi’n credu’n gryf ynddo a thestun dwi wedi trafod yn fy mlog: the blogger and the blagger - parhau mae’r cachi tarw yn y maes yma yn anffodus ac mae’r sesiwn yn sicr o fod yn un ddifyr. Gallwch archebu lle yma.
Tafwyl: Mae Tafwyl wedi cyhoeddi'r darparwyr bwyd ar gyfer 2019 braf gweld nifer o gwmnïau lleol ar y rhestr.