Mae’r diwydiant bwyd yn un cystadleuol tu hwnt ac mae miloedd o bobl busnes yn colli miloedd wrth fuddsoddi mewn bwyty gyda’r gobaith o ennill arian mawr, ond methu mae 90% o fwytai cyn iddyn nhw ddathlu blwyddyn o fodolaeth. Angerdd a pharch tuag at y cynhwysion sy’n talu’r ffordd yn y pen draw. A dyma sy’n crisialu athroniaeth Beppe a Christine Villa sydd wedi bod yn gweithio yn y byd bwyd am dros bum deg o flynyddoedd.
Ar ôl rhedeg bwytai ym Madrid, Brighton, Llundain, Cernyw a Chymru, mae bron i flwyddyn ers iddyn nhw agor Mr Villa’s – bwyty sglodion a physgod yn Y Bari. Ces i wahoddiad i brofi’r bwyd a chael cyfle i sgwrio gyda'r perchennog, Christine.
Yn fyr, mae’r bwyd yn syml a hynod o flasus. I ddechrau ces i fara lawr a chig moch wedi’i fygu. Gyda Christine yn gwybod yn union pa fath o wymon sydd ei angen - a hithau'n casglu’r gwymon lled dryloyw o draeth Southerndown ei hun - doedd e’n fawr o syndod i mi i'r pryd fod yn un arbennig o dda.
Parhau gwnaeth y thema o fwyd tymhorol wedi’i goginio’n syml gyda phrif gwrs o sewin, cregyn gleision a saws menyn. Gyda chynnyrch cystal â sewin lleol, roedd y saws o fenyn, gwin, sialot, garlleg ac ychydig mwy o fenyn yn fwy na digon i bartneru’r pysgodyn.
Roedd y sglodion hefyd o safon. Nid y sglodion posh sydd wedi’u coginio dair gwaith sydd i'w gweld bob man y dyddiau yma – ond sglodion go iawn!
O ran dewis pwdin, ches i ddim dewis - mynnodd Christine i mi flasu pob opsiwn! Er bod yr ystod o ddewisiadau yn cynnwys pwdin reis, mousse siocled ac oren, doedd yr un o'r dewisiadau yma yn or-felys. Roedd cydbwysedd arbennig o dda o felystra ac asidedd yn perthyn i’r darten lemwn, mousse siocled oren a’r meringue cneuen gyll. Fy ffefryn, serch hynny, oedd y pwdin reis. Powlen o reis al dente hufennog yn gysurlon iawn ac yn fy atgoffa o fy mhlentyndod.
Roedd hi'n bleser cael rhannu bwrdd gyda Christine a chlywed am ei phrofiadau helaeth o redeg bwytai. Mae sawl peth wedi newid yn ystod y 50 mlynedd diwethaf – yn wir roedd Christine yn edrych arna i a’r blogiwr bwyd @cleanplateblog fel pobl estron; cyfryngau cymdeithasol fel rhywbeth heb bwrpas a marchnata drud yn ddi-angen. Er yr holl newid yma, yr un yw ei athroniaeth dros y degawdau: coginio cynnyrch da yn dda a bydd y cwsmeriaid am ddychwelyd dro ar ôl tro, degawd ar ôl degawd. A phwy ydw i i anghytuno?!
Ar ôl rhedeg bwytai ym Madrid, Brighton, Llundain, Cernyw a Chymru, mae bron i flwyddyn ers iddyn nhw agor Mr Villa’s – bwyty sglodion a physgod yn Y Bari. Ces i wahoddiad i brofi’r bwyd a chael cyfle i sgwrio gyda'r perchennog, Christine.
Yn fyr, mae’r bwyd yn syml a hynod o flasus. I ddechrau ces i fara lawr a chig moch wedi’i fygu. Gyda Christine yn gwybod yn union pa fath o wymon sydd ei angen - a hithau'n casglu’r gwymon lled dryloyw o draeth Southerndown ei hun - doedd e’n fawr o syndod i mi i'r pryd fod yn un arbennig o dda.
Bara lawr gyda chig moch £4.95 |
Sewin £15.95 |
O ran dewis pwdin, ches i ddim dewis - mynnodd Christine i mi flasu pob opsiwn! Er bod yr ystod o ddewisiadau yn cynnwys pwdin reis, mousse siocled ac oren, doedd yr un o'r dewisiadau yma yn or-felys. Roedd cydbwysedd arbennig o dda o felystra ac asidedd yn perthyn i’r darten lemwn, mousse siocled oren a’r meringue cneuen gyll. Fy ffefryn, serch hynny, oedd y pwdin reis. Powlen o reis al dente hufennog yn gysurlon iawn ac yn fy atgoffa o fy mhlentyndod.
Pwdin reis £4.95 |
4 Bron-Y-Mor
Y Bari
CF62 6SW
01446 730662
No comments:
Post a Comment