Mae cymaint o lefydd bwyta da ar hyd City Road, anodd yw penderfynu pa un i ddewis. Diolch felly i flogwyr @cleanplateblog a @gourmetgorro am dynnu fy sylw at Kumar’s.
Mae’r bwyty yn un bach ac wedi’i addurno’n syml iawn heb unrhyw foethusrwydd…a bwced yn dal diferion wrth i’r to gollwng dŵr! Mae’r gwasanaeth yn ôl nifer o bobl yn araf ond ces i wasanaeth effeithlon tu hwnt er iddi fod yn gymharol brysur ar nos Iau.
Y peth cyntaf i fy nharo oedd pa mor rhad oedd y bwyd. Mae Kumar’s yn cynnig DÂPh/BYOB hefyd felly mae’n bosib cael pryd nos ar gyfer 2 berson am ychydig dros £20.
Mae’r bwyd yn bell o fod yn berffaith ond dwi’n hapus goddef y gwendidau yma oherwydd y prisiau rhad.
I ddechrau ces i’r Gobi 65 sef blodfresychen gydag amryw o sbeis wedi’i ffrio’n ddwfn. Y gwead yn un dymunol iawn gyda’r ffrio yn creu crwst tenau crenshlyd a gwres y sbeis yn berffaith. Doedd dim diben i’r winwnsyn coch amrwd serch hynny. Mi fyddai wedi bod llawer gwell cynnig saws syml o iogwrt gyda mintys er mwyn bod yn wrthgyferbyniad i’r sbeis. Mân wendidau o ystyried y pris o £3.50
Archebais i’r Masala Paneer hefyd. Roedd hwn fel tro ffrio go gyffredin gyda chaws paneer wedi’i ffrio gyda winwns, pupur a saws melys a sur. Roedd y cydbwysedd rhwng y blas sur a melys yn dda iawn. Gwerth nodi’r pris hefyd o £3.95
Fel prif gwrs ces i gyri tikka masala cyw iâr. Roedd e’n bryd blasus ac yn wahanol iawn i gyri tikka masala eraill dwi wedi profi. Roedd dwyster a dyfnder i flas y cyw iâr sy’n neud i mi feddwl bod y cyri wedi’i goginio gyda’r winwns a phupur fel cebab a’r cynhwysion yn cael eu golosgi cyn cael eu hychwanegu at y saws hufennog. Y gwead a’r blas yn wahanol i’r arfer ond yn llwyddiant er hyn.
Ces i flasu dosai winwns masala hefyd – dosai enfawr tenau gyda 3 gwanhaol saws yn cynnig amrywiaeth. Yr amrywiaeth o saws coconyt dwys, daal a masala yn beth da oherwydd byddai cael ond un saws yn gwneud i'r dosai fod yn undonog a diflas. Roedd y winwns, fel y cwrs cyntaf, heb fawr o werth. Byddai well gen i weld y winwns wedi’u coginio’n hirach - fyddai wedi sicrhau blas mwy melys. Mater o farn bersonol yw hynny wrth gwrs.
Cyfanswm y bil? £21. Er y gwendidau, byddai’n siŵr o ddychwelyd
129 City Road
Caerdydd
CF24 3BP
029 2021 4569
Mae’r bwyty yn un bach ac wedi’i addurno’n syml iawn heb unrhyw foethusrwydd…a bwced yn dal diferion wrth i’r to gollwng dŵr! Mae’r gwasanaeth yn ôl nifer o bobl yn araf ond ces i wasanaeth effeithlon tu hwnt er iddi fod yn gymharol brysur ar nos Iau.
Y peth cyntaf i fy nharo oedd pa mor rhad oedd y bwyd. Mae Kumar’s yn cynnig DÂPh/BYOB hefyd felly mae’n bosib cael pryd nos ar gyfer 2 berson am ychydig dros £20.
Mae’r bwyd yn bell o fod yn berffaith ond dwi’n hapus goddef y gwendidau yma oherwydd y prisiau rhad.
Gobi 65 £3.50 |
Masala Paneer £3.95 |
Tikka Masala £7.95 |
Dosai winwns £4.50 |
Cyfanswm y bil? £21. Er y gwendidau, byddai’n siŵr o ddychwelyd
129 City Road
Caerdydd
CF24 3BP
029 2021 4569