Thursday 24 December 2015

Little Bao Peep

Hangfire. Got Beef. JOL’s. Mae’r tri wedi dechrau bywyd fel bwyty pop-up cyn esblygu i fod yn fwytai go iawn. Mae’n ffordd arbennig o dda o grefftio busnes a lleihau’r risg sylweddol sy’n gysylltiedig ag agor bwyty. Tybed beth yw cynlluniau hir dymor Little Bao Peep, felly?  Does gen i ddim clem, ond yn sicr mi fydd Caerdydd ar ei hennill pe bae nhw, gydag amser, yn sefydlu bwyty parhaol. Dwi’n dweud hyn ar sail noson pop-up lwyddianus gynharach yn yr wythnos.


Mae Little Bao Peep yn cynnig bwyd Asiaidd ac yn arbenigo mewn bao, sef rholyn ysgafn wedi’u stemio. Garyn, brawd Cai Pritchard (perchennog Got Beef) sy’n berchen ar Little Boa Peep a pharatowyd tri chwrs arbennig o dda ym mwyty ei frawd.



Ffa edamame gyda Halen Môn. Dechrau syml i’r pryd ac yn arwyddocaol o ran ymroddiad Little Boa Peep i ddefnyddio cynnyrch o Gymru.

Twmplenni cig oen a moron, moron wedi’u piclo a sesame du. Y twmplenni’n ysgafn a thenau a phicl y moron yn torri trwy gyfoeth y cig oen. Roedd y cydbwysedd yn berffaith.


Mae Little Bao Peep wedi dod o hyd i fformwla sy’n gweithio’n berffaith ar gyfer y bao:
- rholyn bao ysgafn ond digon cadarn i gadw’r llenwad
- llenwad blasus wedi’i goginio’n dyner
- rhywbeth sy’n cynnig gwerthgyferbyniad gwaeadol


Gwendid nifer o rholau bao yw diffyg rhywbeth sy’n cynnig y gwrthgyferbyniad gwaeadol yma a ma’ peryg i bob llond pen fod yn llipa. Nid felly gyda Little Bao Peep. Roedd blas y ddau rholyn yn dra gwahanol, ond y ddau yn dilyn yr un fformwla llwyddianus yma.

Un yn cynnwys bola porc, ciwcymbyr wedi’u biclo, sibolsyn, hoisin a phowdr cnau daear a’r llall gyda chyw iâr wedi’u rhwygo gyda jeli cwrw a darnau o gig moch melys.

I bwdin ces ffriter Oreo gyda hufen iâ siocled dwbl “Gwynne’s”. Roedd y cyfuniad yma yn uwcholeuo gwahaniaeth safon siocled y ddau gynhwysyn. Roedd blas siocled y bisged Oreo ar goll oherwydd dwysder blas ac ansawdd gymharol well yr hufen iâ. Mi fyddai’n well gen i weld Little Boa Peep yn paratoi bisgedi ei hun a sicrhau bod dwyster siocled y bisgedi gystal â’r hufen iâ. Mi oedd y pwdin yn ffiaidd ac yn ffein serch hynny!


Ces i goffi iâ (Lufkin) cyn talu’r bil - £17 y pen am y cyfan. Bargen.

Byddaf yn sicr o gadw llygad barcud ar ei ffrwd Twitter er mwyn cael dysgu ble fydd ei pop-up nesaf. Ar sail y noson pop-up yma, dwi’n rhagweld 2016 llewyrchus iawn i Little Bao Peep.


@baopeep
Facebook/littlebaopeep

No comments:

Post a Comment