Nôl ym mis Mawrth newidiwyd enw bwyty The Crown at Whitebrook i….[drumroll please!]…The Whitebrook! Dw i’n cofio meddwl ar y pryd:
Os ydych am bryd o fwyd Michelin heb groesi’r bont, yna The Whitebrook yw’r bwyty agosaf i ni yng Nghaerdydd. Mae'n sicr yn werth y siwrne (awr mewn car) er mwyn cael blasu bwyd y cogydd talentog, Chris Harrod a chael profi awyrgylch heddychlon The Whitebrook.
Hyfforddwyd Harrod gan Raymond Blanc yn Le Manoir aux Quat'saisons felly does dim syndod bod The Whitebrook wedi ennill seren ar ôl agor am 11 mis yn unig.
Mae Chris Harrod yn llwyddo i wneud beth mae sawl bwyty yn ceisio/honni eu bod nhw’n gwneud: defnyddio bwyd tymhorol a lleol.
Ces i goctel Welsh Garden ar y teras cyn i mi gael fy nghinio*, y mintys yn cael ei dynnu o’r ardd, a canapés ysgafn yn cynnwys dwy crostini gyda danadl poethion (nettle) a sialot ar un, a chaws gafr a betys ar y llall.
Roedd yr amouse bouche yn syml. Y piwrî moron bach fel bwyd babi blasus ond roedd y creisionen cyw iâr yn cynnig rhywbeth mwy soffistigedig.
Roedd y dechreuad o mousse merllys, ham Sir Fynwy, perlysiau a medd (mead) Tyndyrn yn hyfryd ac yn gwneud i mi feddwl pam nad oes mwy o fwytai yn defnyddio ham Sir Fynwy.
Ces i’r cig oen Ryeland fel prif gwrs, dw i’n tybio sydd wedi dod o fferm Huntsham lawr y lôn, a hynny wedi’i goginio’n berffaith a'r llysiau haf yn ysgafnhau’r pryd.
I lanhau’r daflod cyn y pwdin ces i rywbeth seiliedig ar Parma violet. Roedd fy nghariad yn dwli ar hwn a minnau’n meddwl fy mod i’n bwyta bar o sebon.
Ces i mousse arall fel pwdin – mousse mafon y tro hwn gyda detholiad o fafon Swydd Henffordd sorbed perlysieuol a choco. Y pryd yn ysgafn, heb fod yn felys o gwbl ac yn ddiweddglo perffaith.
Roedd y gweinydd yn cyflwyno pob un o’r cyrsiau ac yn cyfeirio at wahanol gynhwysion ac yn dweud “picked from our garden” neu “x miles down the road”. A dyma fi nôl at yr ail frandio. Mae’r enw newydd yn gwneud synnwyr perffaith, mae’r bwyty yn cynnig Whitebrook ar blât, dyma yw The Whitebrook.
The Whitebrook
Abergwenffrwd
Sir Fynwy
NP25 4TX
01600860254
info@thewhitebrook.co.uk
Facebook/TheWhitebrook
@TheWhitebrook
*Bwydlen pris osodedig amser cinio: 2 gwrs am £25 a 3 chwrs am £29
- beth oedd y pwynt? a
- gobeithio na thalon nhw ormod i ba bynnag cwmni cyfathrebu am yr ail frandio!