Saturday, 31 May 2014

James Sommerin





Hir yw pob aros. Nôl ym mis Mawrth 2013 cyhoeddodd Chef Hermes ar ei flog y posibilrwydd y byddai James Sommerin yn dod i Benarth. Roedd sôn byddai'r bwyty yn agor ym mis Hydref, yna Tachwedd, yna mis Ionawr…Mawrth…Ebrill...

Tra bo pawb yn aros, cyhoeddodd Mark Adams gyfweliad gyda James Sommerin ei hun nôl ym mis Ionawr. Diddorol oedd clywed athroniaeth y cogydd a chlywed ffeithiau sydd yn codi ael neu ddwy - £70,000 am y ffwrn er enghraifft! O’r diwedd, agorwyd y bwyty ym mis Mai a gyda fy nghariad yn dathlu ei phen-blwydd, roedd hwn yn esgus perffaith i mi brofi’r lle.

Mae sawl person wedi sôn nad ydy’r bwyty wedi gwneud yn fawr o botensial yr olygfa. Pwynt teg, ond yr hyn wnaeth ddal fy llygaid i, oedd y ffenestr oedd yn cynnig golygfa o’r cogyddion yn y gegin.

Does dim bwydlen a la carte, ond ceir dewis o fwydlenni gosodedig pump, saith neu 10 cwrs, a bwydlen penodol ar gyfer amser cinio.

Penderfynais i fynd am saith cwrs (£70). I ddiddanu'r daflod roedd panna cotta corn melys, hadog a bacwn, gougère ysgafn ac arancino tryffl.



Doedd dim fawr o ddewis o ran bara. Gwyn neu frown. Doedd dim byd anhygoel am rhain ac roedd rhan ohonof yn meddwl y bydddai’n well peidio â chynnig bara o gwbl. Mae bwyta saith cwrs blasus yn fwy na digon heb lenwi ar fara.

Cyn ddechrau ar y fwydlen go iawn roedd caws pôb Cymreig. Daeth y gweinydd i arllwys consommé winwns perffaith a chlir wrth y bwrdd i gwblhau’r pryd.



Nesaf daeth hoff bryd fy nghariad - pys, parmesan, saets ac ham Serrano. Roedd e'n wych er roedd prinder yr ham Serrano yn amlwg. Roedd angen cic yr ham hallt ar y pryd. Esgeulus ac anffodus. O ystyried pa mor syml oedd prif gynhwysyn y pryd - pys - roedd e’n blatiad hynod o flasus.



I ddilyn roedd tryffl, madarch gwyllt, merllys a chaws Pearl Wen (sic.). Hynod o flasus - a blas y madarch yn ogoneddus. Dwi'n gwybod bod rhai yn blino ar ddefnyddio 'foam' mewn pryd ond i mi mae'n iawn o'i goginio'n gywrain, fel yn yr achos yma. Roedd blas tryffl yn amlwg heb ddominyddu. Caws oedd y prif flâs ond dydw i ddim yn sicr a oedd cydbwysedd y fwydlen yn gywir, yn enwedig ar ôl caws pôb Cymreig y cwrs blaenorol.



Cynffon ychen, barlys, persli ac winwns ddaeth nesaf. Roedd y creisionen panasen yn siomedig, heb gael digon o dân - doedd cnoi trwy llysieuyn llawn cellwlos ddim yn bleserus. Roedd popeth arall yn wych. Y saws yn gyfoethog a llawn blas a chynffon yr ychen yn feddal. Roedd y barlys yn cynnig bach o swmp i'r pryd, y persli yn cynnig nodyn ffresh a'r winwnsyn yn berffaith o felys.


Pysgodyn nesa. Yn benodol penfras wedi'i fygu, ffacbys, melynwy a blodfresychen. Pryd gwana'r saith cwrs yn ôl fy nghariad, ond mwynhais i'r cyfuniad o'r wy a physgodyn.



Y cwrs nesaf oedd seren y noson. Tri gwahanol rhan o borc wedi’u coginio’n berffaith: lwyn, pen a bola. Y pryd yn fy atgoffa o, ac yn welliant ar, ei bryd 'nose to tail' tra oedd James Sommerin yn y Crown at Whitebrook. Gwych, gwych, gwych!



Roedd y cwrs nesa yn enghraifft arbennig o bontio rhwng cyrsiau sawrus a'r melysfwyd. Y gyfrinach oedd cydbwysedd perffaith o gaws brie, afal ac hufen fanila. Y caws hallt hufennog yn tymheru melystra'r afal a'r fanila.


Wedyn cafwyd pwdin diddorol oedd yn cyfuno sbeis ras el hanout gyda ffenigl a phîn afal. Doeddwn i erioed wedi bwyta ras el hanout mewn pwdin o'r blaen ond roedd e'n berffaith gyda'r hufen iâ.



Erbyn hyn roedd y gwin (Villa Wolf Pinot Blanc 2012, Pfalz, Yr Almaen (£25); Tamar Ridge Devil’s Corner Pinot Noir 2012, Tasmania (£38); a gwydraid o Perdido Late Harvest Chardonnay, Patagonia (£4.95)) yn dechrau cael effaith a does dim fawr o gof gen i o'r amrywiaeth o bwdinau ychwanegol cawsom ni fel anrheg pen-blwydd. Roedd fy nghariad wedi cofio'r pwdin siocled a ffa tonca fel ei phwdin gorau y noson.



Braf oedd cael siarad gyda James Sommerin ar ddiwedd y noson a chael dysgu mwy am ei weledigaeth; bwyd ardderchog am bris rhesymol mewn awyrgylch hamddenol. Does dim rhaid i'r gwesteion wisgo'n ffurfiol. Mae'r gweinyddion yn gymwynasgar ac effeithiol heb fod yn or-ffurfiol.

Breuddwyd James yw ennill 2 seren Michelin. Mae tipyn o waith i'w wneud os ydy e am wireddu'r freuddwyd hon, ond dwi'n ffyddiog y daw seren i'r brifddinas yn sgil holl ymroddiad a dyfeisgarwch James Sommerin.

Bwyty James Sommerin
Penarth
CF64 3AU
0772221672

@RestaurantJS
@JSommerin
@LSommerin
@MattyWaldo
@scottgreve
@danylancaster