Saturday 8 March 2014

Tafarn Y Conway

Y cwmni sydd tu ôl i dafarn The Discovery (sydd newydd agor Mawrth 7fed), Old Swann Inn, The Pilot a’r Conway yw Knife & Fork Food Cyf. O dan weledigaeth ac arweinyddiaeth profiadol Sean Murphy, Serge Kuceau a Stefan Nilson mae’r cwmni wedi llwyddo i greu sawl tafarn sydd â naws gartrefol ac awyrgylch hamddenol. 


Mae’r gwasanaeth anffurfiol a bwydlen ar fyrddau du yn creu naws arbennig. Mae’r fwydlen yn amrywio o lond dwrn o fwyd tafarn clasurol megis slodion a physgod, stecen a sglodion, sosej a stwnsh a phrydau bach mwy mentrus.


I ddechreu ces i’r halloumi (£5). 


Mae'n bryd syml a blasus tu hwnt ond hoffwn gael trydydd darn o halloumi er mwyn cael y cydbwysedd cywir rhwng y caws a’r tzaziki. Mi oedd y tzaziki ei hun yn hyfryd gyda blas garlleg cryf a’r mintys yn ysgafnhau’r pryd. Yr unig wendid oedd croen gwydn y tomato.

Fel prif gwrs rhannais i frest hwyaden sbeislyd wedi’i rhostio, riwbob wedi’u goginio ddwy ffordd a quinoa (£16) a Bol mochyn, tatws newydd wedi’u ffrio’n ysgafn, ŵy sofliar scotch a saws seidr (£13)

Cafodd yr hwyaden ormod o dân ac felly doedd y frest ddim yn dyner iawn. Y riwbob yn ychwanegu meslystra at y pryd ond roedd blas y cardamom yn llawer rhy gryf ac yn lladd popeth arall ar y plat. Roedd croen allanol y winwnsyn yn wydn hefyd. Diolch byth doedd y quinoa heb ei effeithio gan y cardamon ac mi oedd e wedi amsugno saws a blas y cig ac yn rhoi amcan i mi o ba mor flasus gallai’r pryd yma fod.


Mi oedd y bola mochyn yn llawer gwell. Y bola wedi’u coginio’n berffaith gyda’r braster yn grimp a’r cig yn ildio’n ddidrafferth i’r fforc. Mi oedd yr ŵy sofliar scotch yn addawol gyda chrwst tenau yn grimp neis a’r melyn wy yn llith ac yn iro’r cig. Roedd y dewis o gael tatws newydd wedi’u ffrio’n ysgafn yn ddoeth, buasai dauphinoise neu dato wed’u pwno yn rhy gyfoethog gyda’r bola mochyn. 


I bwdin ces i fy atynnu at bei banoffi Y Conway (£5). 


Yn syml, dehongliad Y Conway yw pei banoffi wedi’u dadadeiladu ac mi oedd e’n hyfryd. Mae dadadeiladu pryd yn dangos hyder ar ran y cogydd oherwydd mae pob un cynhwysyn o dan sylw:  mousse banana ysgafn, hufen ia caramel yn felys, saws caramel yn hallt a’r bisged wedi’i brysioni yn wrthgyferbyniad i’r cynhwysion eraill. Uchafbwynt y noson, heb os.

Dwi wedi bwyta sawl gwaith yn Y Conway ac wedi mwynhau nifer dda o brydau bwyd yno. Er gwaetha’r profiadau positif yma ces i fy synnu i glywed bod Y Conway wedi ennill lle yn y Michelin Eating Out in Pubs Guide am y bedwaredd flwydyn yn olynol. Does dim meini prawf clir gyda’r llawlyfr yma (ac eithrio ansawdd y bwyd a phwyslais ar gynhwysion lleol) ond os bosib bod cysondeb yn un faen prawf arall – a dyma brif wendid y lle. 

Er tegwch i’r tim, efallai bod eu sylw ar lanshiad aelod diweddaraf teulu Knife & Fork Food: Tafarn  Y Discovery.

58 Heol Conwy
Pontcanna
Caerdydd
CF11 9NW

@ThenewConway

No comments:

Post a Comment