Gyda James Sommerin yn agor ei fwyty ym Mhenarth ym mis Ebrill, mater o amser yw hi cyn i Gaerdydd ennill seren Michelin.
Dwi’n meddwl bod bwyty sydd yn deilwng o seren Michelin yng Nghaerdydd eisoes. Bwyty unnos (pop-up) yw e yn nhafarn Lansdowne yn Nhreganna: Hangfire Smokehouse.
Mae arolygwyr Michelin yn dilyn y meini prawf yma:
• Ansawdd y cynhwysion
• Meistroli’r blasau
• Meistroli’r coginio
• Personoliaeth y cuisine
• Gwerth am arian
• Cysondeb o’r hyn mae’r bwyty yn ei gynnig i’w gwsmeriaid a thrwy gydol y flwyddyn
Mae dulliau arolygu Michelin wedi newid yn ddiweddar a gwelwyd llai o bwyslais ar ffurfioldeb. Nid rhaid wrth liain gwyn ar y byrddau a cheir perthynas llai oeraidd rhwng y rhai sy’n gweini a’r cwsmeriaid. Mae bwyty Tim Ho Wan yn Hong Kong yn enghraifft berffaith o hyn. Mae Hangfire yn cwrdd â’r meini prawf uchod ac yn llawn haeddu seren yn fy marn i.
Sam a Shauna sydd tu ôl i Hangfire ac mae’r ddwy ohonyn nhw wedi ymchwilio’n helaeth i mewn i’r cwestiwn beth yn union yw barbaciw Americanaidd? Er mwyn ateb y cwestiwn treuliodd Sam a Shauna chwe mis yn teithio ar draws America yn mynychu dosbarthiadauau meistr a chystadlu mewn gwahanol gystadlaethau. Penderfynais roi cynnig ar Hangfire BBQ yn ddiweddar. Wrth i mi aros am fy mwyd, mi oedd cyflwyniad PowerPoint yn rhannu’r daith yma ar y wal yn y dafarn. Fel rhyw fath o lamp lafa o luniau yn fy hudolu cyn i mi gael profi America ar blât.
Mae’r wybodaeth a’r grefft a’r sgiliau yma wedi’u cyfuno gyda chynnyrch lleol er mwyn creu bwyd arbennig o dda. Yr enghraifft orau o’r math yma o fwyd yng Nghaerdydd, heb os.

Mae’r fwydlen yn syml: gwahanol mathau o gig wedi’u fygu’n ara deg. Prisiau rhesymol iawn |
Gwres anuniongyrchol yn gyfrifol am y cig tyner a suddog. Does dim cig wedi’u foddi mewn saws barbaciw artiffisial/melys yma. Brest cig eidion, sglodion gyda phaprica, adenydd cyw iâr, pulled pork |
Ffa barbaciw a cholslo ysgafn a ffres |
Sawsiau cartref |
Pei key lime gyda chydbwysedd perffaith rhwng yr hufen cyfoethog ac asidedd y leim (gan @innercitypickle ) |
Mae @hangfirebbq yn nhafarn @Thelansdownepub bob nos Iau a nos Wener rhwng 5:30 a 9yp - ewch yno mewn da bryd!