Sunday 26 January 2014

Got Beef

Mae menter Got Beef wedi esblygu dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’r fan wedi’i gwerthu a bwyty unnos (pop-up) yw ffocws y cwmni bellach. Un peth sydd wedi aros yn gyson yw’r angerdd a’r talent i goginio bwrger heb ei ail.

Ar ôl cyfnod byr ym mwytai La Vitta a Chanolfan Chwaraeon Makintosh symudodd Got Beef i mewn i dafarn Y Canadian, Splott.

Cyn y Nadolig mi oedd tafarn Y Canadian yn gartref i’r ardderchog Hangfire BBQ (sydd ar fin symud i dafarn y Lansdowne) ac mi oedd tipyn o gynnwrf ar Twitter ar ôl i Got Beef gyhoeddi Y Canadian fel ei chartref newydd.

Llun gan @gourmetgorro - Diolch!
Mae’r fwydlen yn syml ac yn cynnig bwrger, modrwyon winwns, sglodion a macaroni a chaws. Mae’r pris yn amrywio o £6 - £8.


Mae Got Beef yn llwyddo i wneud y pethau syml yn dda a gogoniant y lle yw creadigrwydd a dychymyg Cai, y cogydd. Mae’r bwrger er enghraifft wedi’i grefftio yn benodol ar gyfer y fenter ddiweddar ac yn cynnwys caws Monterey Jack, saws coch masarn a chig moch brith wedi’u fygu.

Ces i’r bwrger Bombay, £7. Blasus tu hwnt ac yn hawdd deall pam ei fod e’n ffefryn ymhlith y staff. Mae’r bwrger ei hun yn defnyddio eidion du Cymreig ac mae wedi’i goginio’n berffaith heb iddo fod yn sych.

Mae’r bara yn ddiddorol ac yn felys fel brioche ond gwead bach mwy cadarn, yn debyg i bagel. Mae’r rholyn wedi’i dostio’n ysgafn iawn sydd yn sicrhau nad yw’r bara’n troi’n llipa wrth iddo amsugno sudd y bwrgwr.


Mae’r bwrgwr yn cynnwys tatws crimp fel ‘gwellt’, cig moch brith gyda blas cyri, mayonnaise coriander a leim. Dwi’n hoff iawn o fwyta dau wahanol fath o garbohydradau gyda gwead gwahanol. Hash brown mewn brechdan brecwast er enghraifft neu arancini gyda risoto. Nid yw’n ffordd iach o fwyta pryd ond mae’n hynod o flasus. Gyda’r tatws yn rhan o’r bwrger, mae’r Bombay yn cwympo mewn i’r un categori. Ffiaidd ond ffein.

Erbyn i mi archebu doedd dim sglodion ar ôl a thoc cyn naw o’r gloch y nos roedd popeth wedi gwerthu allan. Mi fydd Got Beef yn coginio yn nhafarn Y Canadian bob nos Wener a nos Sadwrn.

@GotBeefCo
@TheCanadian3
Stryd Pearl
Caerdydd
CF24 1PN

No comments:

Post a Comment