Ymhlith yr holl fwytai cadwyn sydd yng Nghanolfan Dewi Sant, mae bwyty annibynnol The Grazing Shed wedi agor yn ddiweddar ar Lôn Barrack.
Mae yna duedd cynyddol o fwytai yn cynnig bwrger yng Nghaerdydd. Mae’r Grazing Shed yn neud yn fawr o’r tuedd yma gyda’i dehongliad nhw o bwrger gourmet sydd yn cael ei weini’n gyflym. Mae naws y lle yn gweddu’n berffaith i’r hyn y mae Grazing Shed am gyflawni. Meinciau hir i bobl eistedd, gorsaf hunanarlwyo ar gyfer diodydd ac mae’r gwasanaeth yn hynod, hynod o gyflym. Mae’r fwydlen wedi’i rannu i dri phrif ran: bwrger cig eidion, bwrger cyw iâr a ma’ ddewis da ar gyfer llysieuwyr hefyd.
Y tro cyntaf i mi fynd ces i’r clasur Super Tidy Cheese (£9.45), cheddar fondue, confit winwns coch, letysen a saws tomato. Sglodion a diod meddal.
Mae’r rholyn hadau sesame a phabi yn ysgafn ac yn hysbyseb da i’r pobydd sydd ym Mhenarth. Mae’r rholyn wedi’i dostio’n ysgafn iawn sydd yn sicrhau nad yw’r bara’n troi’n llipa wrth iddo amsugno’r saws a sudd y bwrger.
Roedd dwyster y blas wedi fy nharo o’r llond pen cyntaf. Dyma sut mae gwneud bwrger â chaws. Y cig yn dyner a’r sudd llawn blas. Mae wir gyda’r bwrger orau dwi wedi blasu. Mae’r sglodion yn grimp ar y tu allan ac yn ysgafn a meddal tu fewn. Gallai ddim pigo bai.
Wrth i mi archebu, gwnaeth un o berchnogion y lle cynnig i mi drio bach o gaws pob Cymreig gyda fy sglodion. Mi oedd y caws yn felfedaidd ac yn saws gwahanol i’r arfer.
Yr ail dro es i Grazing Shed ces i’r Super Tidy Boyo (£10.95) caws pob Cymreig a salad berwr – ches i ddim yr un pleser yn anffodus. Mi oedd y dail berwr wedi troi’n llipa ac yn ddiflas gyda gwres y bwrger a’r caws. Bydd letysen iceburg, little gem neu cos mwy at fy nant i. Mi oedd y caws pob wedi iro’r bwrger hefyd, i’r pwynt lle oedd y bwrger yn ceisio dianc o’r frechdan gyda phob cnoiad.
Ar sail fy mhrofiadau mae’r Grazing Shed yn neud y pethau syml yn dda ac am fwyd blasus cyflym (mae’r pryd drosodd mewn ugain munud) mae’r Grazing Shed yn taro’r nod.