Mae ffyniant wedi bod yn y nifer o lefydd sy'n cynnig pizza da yn y brifddinas. Mae hyn, yn rhannol, oherwydd y pop-ups niferus sydd yn llwyfan i gwmnïau fel Dusty Knuckle a Ffwrnes.
Dwi wedi sôn am Dusty Knuckle ar y blog eisoes ac mae'r cwmni'n mynd o nerth i nerth ond Ffwrnes yw testun y blog yma.
Mae egwyddorion Ffwrnes yn glir ac yn syml: creu pizza yn dilyn rheolau Associazione Verace Pizza Napoletana gyda'r blawd yn dod o'r Eidal, y toes yn cael ei baratoi â llaw, tomatos San Marzano a hyd yn oed y pren sy'n cael ei losgi yn dod o'r Eidal.
Ma' ymrwymiad Ffwrnes i'r egwyddor yma yn absoliwt a dyma sail ei llwyddiant.
Ma' creu pizza da yn dipyn o her. Gwnaeth Heston Blumenthal egluro'r her rai blynyddoedd yn ôl ar ei raglen, "in search of perfection". Yn syml, mae'r broses o goginio yn lladd blas tyner perlysiau megis basil felly mae angen coginio'r toes cyn gynted â phosib. Nid yw ffwrn draddodiadol yn gallu ymdopi â'r her yma. Mae gan Ffwrnes ddwy ffwrn arbenigol serch hynny sy'n golygu bod y pizza yn y ffwrn am gwpwl o funudau yn unig gyda'r gwres yn ddigon i goginio a phothelli'r toes heb amharu ar flas y pizza. Mae'r canlyniad yn wych.
Beth sy'n gwneud Ffwrnes yn unigryw yw ei phersonoliaeth. Sam Fan Tân neu Smokey Pete sy'n tywys y perchnogion o gwmpas y wlad a ma'r chwarae ar eiriau i'w weld ar y fwydlen hefyd gyda pizza fel "pobi savage"!
Roedd hyn oll yn ddigon i mi ofyn i Ffwrnes arlwyo ar gyfer parti diwrnod ar ôl i mi briodi. O'r cychwyn cynta' roedd y gwasanaeth yn wych a hwythau'n awyddus i greu bwydlen oedd yn taro'r nod. Ar ddiwrnod y parti creodd Ffwrnes fwydlen yn ôl y gofyn ond bwydlen wedi'i gynllunio mewn ffordd oedd yn gweddu i'r briodas y diwrnod cynt. Rhywbeth oedd fy ngwraig yn hynod o hapus gyda!
Ni allaf eu canmol yn ddigonol!
Am wybodaeth ar ble fydd Ffwrnes yn coginio pizza nesa, cliciwch yma.
http://www.ffwrnes.co.uk/