Thursday, 27 April 2017

Yo! Sushi

Mae'r enw a'r cysyniad wedi blino erbyn hyn. Pwy sy'n dweud "Yo!" bellach a phwy sydd am weld robots yn paratoi cynnyrch o safon cymharol isel gyda'r rhan helaeth o'r bwyd yn cael ei wastraffu?

Er bod yr adolygiad yma yn cyfeirio'n benodol at gangen yn Llundain, mae'r feirniadaeth yn berthnasol i'r cwmni cyfan.
Er mwyn cadw cysondeb ar draws y 100 cangen, mae 'na reol a phatrwm tu ôl i bopeth. O'r gwasanaeth i sut ma'r bwyd yn cael ei roi ar blât does dim personoliaeth na sbarc yn perthyn i'r lle.

Mae'r ffanfer achlysurol trwy'r speakers sy'n canu crescendo o "Yo! Sushi...Yo! Sushi...Yo! Sushi" yn ceisio ychwanegu bach o gynnwrf ond mae'n swnio fel orgasm ffug, blinedig.

Ma' gwydraid o ddŵr yn costio £1.30 ac ma'r bwyd yn ddrud. Dwi'n hapus i wario ceiniog bert ar bryd da o fwyd ond ebi roll am £4.60? Dim diolch. Yn enwedig pan mai reis a chytew tempura yw 99% o'r pryd gydag ychydig bach o gig pinc y corgimwch yn blasu o ddim.

Y cig eidion wedi'i serio gyda choriander: er i'r saws flasu o coriander, roedd y cig eidion yn ddi-flas ac yn frasterog a gwydn. Roedd e fel bwyta gwm cnoi.

Roedd cyfnod pan oeddem ni'n meddwl bod y conveyer belt yn arloesol ond nawr dwi'n gweld y tomeni bach, niferus o fwyd fel lemmings sy'n mynd i farw. Duw a ŵyr faint o fwyd ma'r cwmni yn ei wastraffu mewn blwyddyn. Ac mi fydd y ffigwr yn sicr o fod yn uwch pe bai'r gweinwyr yn gwaredu'r hen blatiau o'r conveyor belt mewn da bryd (cyn y 'best before'). Roedd sawl enghraifft o hyn - un rheol sydd ddim yn cael ei ddilyn yn slafaidd felly.

Wrth i mi roi'r adborth yma i'r weinyddes, mi wnaeth hi gadarnhau bod llwyth o wastraff ond does dim cynlluniau ar y gweill i newid hyn. Er lles y blaned, dwi'n gobeithio ei bod hi'n anghywir.

Diolch byth bo Sushi Life, Yakatori #1 a Tenkaichi gyda ni yma yng Nghaerdydd.