Ar y 3ydd o Hydref mi fydd canllaw Michelin yn cyhoeddi pwy sydd wedi ennill seren neu sêr Michelin am 2017. Am y tro cyntaf yn ei hanes, mi fydd Michelin yn cyhoeddi’r newyddion mewn seremoni wobrwyo ym mhalas y Savoy, Llundain gyda'r gobaith o allu cadw'r gyfrinach tan y funud olaf.
Pa obaith sydd i fwytai Cymru? Ma’ seren gan bum bwyty:
Dydw i ddim yn rhagweld y bydd yr un bwyty yn colli’i seren, os unrhywbeth ma' llygedyn o obaith y bydd Ynyshir a / neu The Whitebrook yn ennill ail seren. Annhebygol, ond cawn weld!
Newyddion gwych fyddai darllen bod Cymru, am y tro cyntaf erioed, yn llwyddo i ennill chweched, os nad seithfed bwyty Michelin. Unwaith eto, ma’ na’ obaith go iawn o hyn.
Mae siawns dda gan fwyty James Sommerin, lawr ym Mhenarth, ennill seren. Aflwyddiannus bu ymdrechion James a’r tîm ers dwy flynedd erbyn hyn ond…wel, tri chynnig i Gymro! Yn wir, yn ôl arolygwyr The AA – dyma fwyty gorau Cymru am 2017.
Y dewis amlwg arall i ennill seren yw bwyty Epicure sy’n rhan o westy Celtic Manor. Mae Terry Matthews yn taflu arian at y fenter i geisio ennill seren ond gyda phum bwyty gwahanol yn methu mae tipyn o obaith ar Richard Davies i wireddu gweledigaeth Terry Mathews. Mae rheswm da pam bo’r disgwyliadau yn uchel gyda Richard yn ennill seren Manor House yng Nghastell Combe. Ar sail fy ymweliad diweddar, roedd nifer o fan-wendidau ond tybed os ydy Richard Davies wedi gwneud digon?
Y gobaith arall am seren yw bwyty Llangoed Hall. Mae hi nawr yn bymtheg mlynedd ers iddyn nhw golli seren ond gyda rheolwr gyfarwyddwr uchelgeisiol, Calum Milne wrth y llyw, mae’r bwyty wedi ennill lle yn y Good Food Guide 2017 fel un o fwytai gorau’r Deyrnas Unedig.
Rydw i hefyd yn clywed pethau da am fwyty The Grove yn Arberth sydd hefyd yn berchen ar The Beach House yn y Gwŷr.
Mae’n anodd proffwydo beth ma’ arolygwyr Michelin yn meddwl, ond dwi’n credu bydd 2017 yn un hanesyddol i fyd bwyd Cymru gyda chweched os nad seithfed bwyty yn ennill seren.
Pa obaith sydd i fwytai Cymru? Ma’ seren gan bum bwyty:
- The Walnut Tree a Tyddyn Llan sydd wedi ennill a chadw seren Michelin saith mlynedd o’r bron;
- The Whitebrook sydd yn cynnig Whitebrook ar blât diolch i’r cogydd dawnus Chris Harrod;
- The Checkers sydd â'r cogydd oedd yn arfer gweithio yn Waterside Inn; ac
- Ynyshir sydd wedi ennill pedwar rhosyn AA - dau fwyty yn unig yng Nghmru sydd wedi cyflawni'r gamp yma
Veloute betys a chaws gafr o fwyty The Checkers |
Piwri moron o fwyty The Whitebrook |
Mae siawns dda gan fwyty James Sommerin, lawr ym Mhenarth, ennill seren. Aflwyddiannus bu ymdrechion James a’r tîm ers dwy flynedd erbyn hyn ond…wel, tri chynnig i Gymro! Yn wir, yn ôl arolygwyr The AA – dyma fwyty gorau Cymru am 2017.
Pinafal a ras al hanout o fwyty James Sommerin |