I’r sawl sydd ddim yn gyfarwydd â stori Hangfire, mae’n un llawn llwyddiant. Sam a Shauna sydd tu ôl i Hangfire ac mae’r ddwy ohonyn nhw wedi ymchwilio’n helaeth i mewn i’r cwestiwn beth yn union yw barbeciw Americanaidd? Treuliodd Sam a Shauna chwe mis yn teithio ar draws America yn mynychu dosbarthiadau meistr a chystadlu mewn gwahanol gystadlaethau.
Gyda’r wybodaeth newydd yma, cynhaliwyd cyfres o ‘pop ups’ llwyddiannus yn nhafarndai The Canadian, The Lansdowne a The Pilot. Roedd adwaith Caerdydd i’w bwyd yn anhygoel. Ar ôl llu o adolygiadau ffafriol, gwobr 'Best Street Food' yng nghystadleuaeth Radio 4 y BBC daeth dêl llyfr. Bydd y llyfr yn adrodd hanes eu taith ar draws America, gan gynnwys gwybodaeth fanwl am grilio a mygu yn ogystal â chynnig cyngor ar sut i adeiladu mygwr eich hun!
Rywsut, mae Sam a Shauna wedi cael yr amser i agor bwyty hefyd. Agorwyd y bwyty fel rhan o brosiect boneddigeiddio tŷ pwmpio Y Bari, ac mae’r lle yn wych.
Nawr bod bwyty ei hun gyda Hangfire, maen nhw nawr gallu cynnig bwydlen ehangach. Gydag amser dwi’n gobeithio profi popeth, ond y tro cyntaf es i, ces i’r asennau: y 'babyback' (£15) a’r 'St Louis' (£15). Roedd yr asennau’n dyner a llawn blas oherwydd y dull coginio o ddefnyddio gwres anuniongyrchol. Yr enghraifft orau o’r math yma o fwyd yng Nghymru, heb os.
Mae’r bwyty yn boblogaidd iawn felly mae’n werth bachu bwrdd ar lein. Wedi dweud hynny, mae bar gyda Hangfire fel rhan o’r bwyty felly mae modd yfed wrth y bar wrth aros am fwrdd. Ewch a mwynhewch!
Hangfire Southern Kitchen
Hood Road
Y Bari
CF62 5QN
@hangfirebbq