Monday, 16 January 2017

Curado Bar

Dwi’n dwli ar ac yn ymfalchïo o weld safon bwytai'r Brifddinas yn gwella. Dwi’n cofio bwyty afiach Sizzle & Grill yn cau a’r cyffro o weld bod bwyty Chez Francis yn agor yn ei le. Yr un oedd y teimlad pan sylwais i fod cangen Burger King ar Westgate Street yn cau a bod Curado Bar yn agor yn ei le. Perchnogion Ultracomida (Arberth ac Aberystwyth) sydd tu cefn i’r fenter yma a ma’ safon cynhwysion a chywirdeb y coginio i'w gweld yn Curado Bar hefyd.
Llun diolch i @CuradoBar
Deli, bar a bwyty Pintxos yw Curado ac ar ôl profi’r bwyd ar sawl achlysur, mae’n bleser dweud bod Curado yn berl o le. Safon y cynnyrch a’r gwasanaeth cyfeillgar sy’n gyfrifol am lwyddiant yma. Mae’r rheolwr, Cymro Cymraeg Leigh Sinclair, yn estyn croeso cynnes, yn wybodus iawn a mwy na pharod i argymell platiad blasus o fwyd.
Llun diolch i @CuradoBar
A blasus iawn yw’r bwyd hefyd. Y sobrasada (selsig chorizo meddal gyda chnau pwmpen wedi’u malu a mêl), yr escalivada (planhigyn wy wedi’i rhostio, winwnsyn, olif a saws romesco) a’r morcilla (pwdin gwaed, ham Serrano, mojo picon a phupur wedi’i rhostio) yn enwedig o flasus. Ac am £2 - £3 y platiad, mae’r pintxos yn rhesymol tu hwnt.
Llun diolch i @CuradoBar
Os oes awydd bwyd gyda bach mwy o ‘swmp’ ma’r secreto Iberico (£6) yn hyfryd ond Champinones al ajillo yw’r seren yn fy marn i. Mae Curado wedi llwyddo i ddyrchafu pryd syml o fadarch ar dost i fod yn blatiad llawn blas. Mae dewis da iawn o winoedd hefyd ac am ond £15 y botel, mae’r gwin 'house wine' yn yfadwy iawn.

Dwi’n cofio cyfnod pan La Tasca oedd yr unig ddewis am fwyd Sbaeneg a nawr ma’ ddetholiad o fwytai Sbaeneg o safon yng Nghaerdydd diolch i La Cuina, Bar 44...a nawr Curado Bar.

Facebook/CuradoBar
2 Westgate Street
Caerdydd
02920344336

Wednesday, 9 November 2016

Bistro, The Pot

Mae bistro The Pot wedi ennill ei blwy fel un o ffefrynnau Caerdydd. Mae sawl enghraifft o adolygiadau ffafriol gan flogwyr a newyddiadurwyr. Ar sail dau ymweliad, anghyson ac elfen o pot luck yw'r lle i mi.
Fy mhrofiad cyntaf.

Y gegin agored yn profi i fod yn felltith gyda gwynt saim wedi'i losgi yn llenwi fy ffroenau. Dechreuad o sgolop, tomato, ffa a selsig yn well fel  brecwast na dechreuad. Crwyn y ffa yn wydn.
Prif gwrs o Bouillabaisse. Daw'r saig yma o Ffrainc yn wreiddiol. Byddai pysgotwyr yn gwneud math o gawl pysgodyn gan ddefnyddio'r pysgod hynny nas gwerthwyd erbyn diwedd y dydd. Roedd y boul hwn yn gwneud i mi feddwl y byddai'n braf o beth petasai'r pysgotwr wedi llwyddo i werthu ei helfa bysgod i gyd y diwrnod hwnnw. Y pysgod wedi cael gormod o dân ac oedd angen llwyth o halen.
Nid y profiad gorau felly ond tro ar ôl tro, pethau da yr oeddwn i yn eu clywed gan ffrindiau a theulu. Gyda dau gwrs a gwydred o win ond yn costio £20 (dydd Mawrth - Iau) penderfynais roi cynnig arall arni.

Fy ail brofiad.

Tartare tiwna a swordfish gyda mango a saws soy yn ysgafn a chydbwysedd perffaith o asid y ffrwyth a hallt y soy.
Stecen llygad yr asen gyda madarch, sglodion wedi'u ffrio tair gwaith a saws au poivre. Pryd syml wedi'i goginio'n berffaith
I bwdin ces i glasur Ffrengig o crème brûlée gyda saws ffrwythau - y ffrwyth yn sur - ac yn bartner perffaith i'r hufen cyfoethog.
Am bryd min-nos yng Nghaerdydd, dwi'n amau cewch chi well bargen ac mae'n ymddangos taw eithriad oedd fy mhrofiad cyntaf siomedig.

@ThePotBistro
Facebook/ThePotBistro
55 Whitchurch Road
Cardiff
CF14 3JP
02920 611204

Friday, 28 October 2016

Wriggle

O gymharu â phrif ddinasoedd eraill y DU, does dim enw da gyda Chaerdydd o ran safon ei bwytai. Wrth weld sawl bwyty cadwyn sydd eisoes yn, ac yn parhau i, ddominyddu canol y ddinas, mae'n ymddangos mae'r lleiafrif sy'n gwybod lle i fynd am fwyd safonol, annibynnol.

Cythruddo nifer wnaeth Jay Rayner nôl ym mis Awst wrth iddo ladd ar byd bwyd y brifddinas. Mae ganddo fe bwynt serch hynny. Chewch chi ddim cynnyrch nag unrhyw ddylanwad Cymreig ym mwytai Jamie's Italian, Pizza Express, TGI Friday, Spud U Like, Wagamama, Gourmet Burger Kitchen, Cosy Club, Nando's...a phob un yn hawlio lle amlwg yn y ddinas.

Sut ma' hyrwyddo bwytai annibynnol Caerdydd sy'n dathlu cynnyrch Cymreig felly? Un cwmni a fydd yn cyfrannu at ateb y cwestiwn yma yw Wriggle.

Sefydlwyd Wriggle ym Mryste yn 2014 er mwyn rhoi llais i fwytai annibynnol. Maent yn dathlu bwytai unigryw a hefyd yn helpu i leihau gwastraff bwyd yn y sector. Llwyddiant bu lansiad y cwmni ym Mryste a Brighton, a nawr Caerdydd sy'n elwa.
Ces i'r cyfle, ynghyd a blogwyr blaengar y ddinas, i greu canllaw o fwytai gorau'r brifddinas. Her a hwyl oedd ceisio cytuno ar y cant gorau ond roedd y sgwrs yn uwcholeuo'r ffaith bod llwyth o fwytai o safon o'n cwmpas.

Yn ogystal â chanllaw ar gyfer trigolion ac ymwelwyr, mi fydd y bwytai annibynnol yma yn cynnig dêl am amser penodedig trwy ap neu wefan Wriggle. Mae'n gyfle i gael bargen bob hyn a hyn, ac i gefnogi'r rhai sy'n dod â chymeriad unigryw i'n strydoedd.
Mae'r bargeinion trwy Wriggle yn anhygoel, er enghreifft:
Fel ma’ nhw'n dweud, "get a Wriggle on" yw'r neges i drigolion Caerdydd i wneud yn fawr o'r cyfle yma.

Bwyty Chez Francis
Gallwch lawrlwytho'r ap yma ar Android, iOS neu ymweld â'r wefan. Cofrestrwch gyda chôd YLSPOR er mwyn ennill £3 o gredit.

Monday, 26 September 2016

Ar y 3ydd o Hydref mi fydd canllaw Michelin yn cyhoeddi pwy sydd wedi ennill seren neu sêr Michelin am 2017. Am y tro cyntaf yn ei hanes, mi fydd Michelin yn cyhoeddi’r newyddion mewn seremoni wobrwyo ym mhalas y Savoy, Llundain gyda'r gobaith o allu cadw'r gyfrinach tan y funud olaf.

Pa obaith sydd i fwytai Cymru? Ma’ seren gan bum bwyty:

  • The Walnut Tree a Tyddyn Llan sydd wedi ennill a chadw seren Michelin saith mlynedd o’r bron;
  • The Whitebrook sydd yn cynnig Whitebrook ar blât diolch i’r cogydd dawnus Chris Harrod;
  • The Checkers sydd â'r cogydd oedd yn arfer gweithio yn Waterside Inn; ac 
  • Ynyshir sydd wedi ennill pedwar rhosyn AA - dau fwyty yn unig yng Nghmru sydd wedi cyflawni'r gamp yma

Veloute betys a chaws gafr o fwyty The Checkers
Dydw i ddim yn rhagweld y bydd yr un bwyty yn colli’i seren, os unrhywbeth ma' llygedyn o obaith y bydd Ynyshir a / neu The Whitebrook yn ennill ail seren. Annhebygol, ond cawn weld!
Piwri moron o fwyty The Whitebrook
Newyddion gwych fyddai darllen bod Cymru, am y tro cyntaf erioed, yn llwyddo i ennill chweched, os nad seithfed bwyty Michelin. Unwaith eto, ma’ na’ obaith go iawn o hyn.

Mae siawns dda gan fwyty James Sommerin, lawr ym Mhenarth, ennill seren. Aflwyddiannus bu ymdrechion James a’r tîm ers dwy flynedd erbyn hyn ond…wel, tri chynnig i Gymro! Yn wir, yn ôl arolygwyr The AA – dyma fwyty gorau Cymru am 2017.
Pinafal a ras al hanout o fwyty James Sommerin
Y dewis amlwg arall i ennill seren yw bwyty Epicure sy’n rhan o westy Celtic Manor. Mae Terry Matthews yn taflu arian at y fenter i geisio ennill seren ond gyda phum bwyty gwahanol yn methu mae tipyn o obaith ar Richard Davies i wireddu gweledigaeth Terry Mathews. Mae rheswm da pam bo’r disgwyliadau yn uchel gyda Richard yn ennill seren Manor House yng Nghastell Combe. Ar sail fy ymweliad diweddar, roedd nifer o fan-wendidau ond tybed os ydy Richard Davies wedi gwneud digon?

Y gobaith arall am seren yw bwyty Llangoed Hall. Mae hi nawr yn bymtheg mlynedd ers iddyn nhw golli seren ond gyda rheolwr gyfarwyddwr uchelgeisiol, Calum Milne wrth y llyw, mae’r bwyty wedi ennill lle yn y Good Food Guide 2017 fel un o fwytai gorau’r Deyrnas Unedig.

Rydw i hefyd yn clywed pethau da am fwyty The Grove yn Arberth sydd hefyd yn berchen ar The Beach House yn y Gwŷr.

Mae’n anodd proffwydo beth ma’ arolygwyr Michelin yn meddwl, ond dwi’n credu bydd 2017 yn un hanesyddol i fyd bwyd Cymru gyda chweched os nad seithfed bwyty yn ennill seren.

Saturday, 30 July 2016

Bwyty Kumar's Restaurant

Mae cymaint o lefydd bwyta da ar hyd City Road, anodd yw penderfynu pa un i ddewis. Diolch felly i flogwyr @cleanplateblog a @gourmetgorro am dynnu fy sylw at Kumar’s.
Mae’r bwyty yn un bach ac wedi’i addurno’n syml iawn heb unrhyw foethusrwydd…a bwced yn dal diferion wrth i’r to gollwng dŵr! Mae’r gwasanaeth yn ôl nifer o bobl yn araf ond ces i wasanaeth effeithlon tu hwnt er iddi fod yn gymharol brysur ar nos Iau.

Y peth cyntaf i fy nharo oedd pa mor rhad oedd y bwyd. Mae Kumar’s yn cynnig DÂPh/BYOB hefyd felly mae’n bosib cael pryd nos ar gyfer 2 berson am ychydig dros £20.

Mae’r bwyd yn bell o fod yn berffaith ond dwi’n hapus goddef y gwendidau yma oherwydd y prisiau rhad.
Gobi 65 £3.50
I ddechrau ces i’r Gobi 65 sef blodfresychen gydag amryw o sbeis wedi’i ffrio’n ddwfn. Y gwead yn un dymunol iawn gyda’r ffrio yn creu crwst tenau crenshlyd a gwres y sbeis yn berffaith. Doedd dim diben i’r winwnsyn coch amrwd serch hynny. Mi fyddai wedi bod llawer gwell cynnig saws syml o iogwrt gyda mintys er mwyn bod yn wrthgyferbyniad i’r sbeis. Mân wendidau o ystyried y pris o £3.50
Masala Paneer £3.95
Archebais i’r Masala Paneer hefyd. Roedd hwn fel tro ffrio go gyffredin gyda chaws paneer wedi’i ffrio gyda winwns, pupur a saws melys a sur. Roedd y cydbwysedd rhwng y blas sur a melys yn dda iawn. Gwerth nodi’r pris hefyd o £3.95
Tikka Masala £7.95
Fel prif gwrs ces i gyri tikka masala cyw iâr. Roedd e’n bryd blasus ac yn wahanol iawn i gyri tikka masala eraill dwi wedi profi. Roedd dwyster a dyfnder i flas y cyw iâr sy’n neud i mi feddwl bod y cyri wedi’i goginio gyda’r winwns a phupur fel cebab a’r cynhwysion yn cael eu golosgi cyn cael eu hychwanegu at y saws hufennog. Y gwead a’r blas yn wahanol i’r arfer ond yn llwyddiant er hyn.
Dosai winwns £4.50
Ces i flasu dosai winwns masala hefyd – dosai enfawr tenau gyda 3 gwanhaol saws yn cynnig amrywiaeth. Yr amrywiaeth o saws coconyt dwys, daal a masala yn beth da oherwydd byddai cael ond un saws yn gwneud i'r dosai fod yn undonog a diflas. Roedd y winwns, fel y cwrs cyntaf, heb fawr o werth. Byddai well gen i weld y winwns wedi’u coginio’n hirach - fyddai wedi sicrhau blas mwy melys. Mater o farn bersonol yw hynny wrth gwrs.

Cyfanswm y bil? £21. Er y gwendidau, byddai’n siŵr o ddychwelyd

129 City Road
Caerdydd
CF24 3BP
029 2021 4569

Saturday, 23 July 2016

Mr Villa’s, Y Bari

Mae’r diwydiant bwyd yn un cystadleuol tu hwnt ac mae miloedd o bobl busnes yn colli miloedd wrth fuddsoddi mewn bwyty gyda’r gobaith o ennill arian mawr, ond methu mae 90% o fwytai cyn iddyn nhw ddathlu blwyddyn o fodolaeth. Angerdd a pharch tuag at y cynhwysion sy’n talu’r ffordd yn y pen draw. A dyma sy’n crisialu athroniaeth Beppe a Christine Villa sydd wedi bod yn gweithio yn y byd bwyd am dros bum deg o flynyddoedd.
Ar ôl rhedeg bwytai ym Madrid, Brighton, Llundain, Cernyw a Chymru, mae bron i flwyddyn ers iddyn nhw agor Mr Villa’s – bwyty sglodion a physgod yn Y Bari. Ces i wahoddiad i brofi’r bwyd a chael cyfle i sgwrio gyda'r perchennog, Christine.

Yn fyr, mae’r bwyd yn syml a hynod o flasus. I ddechrau ces i fara lawr a chig moch wedi’i fygu. Gyda Christine yn gwybod yn union pa fath o wymon sydd ei angen - a hithau'n casglu’r gwymon lled dryloyw o draeth Southerndown ei hun - doedd e’n fawr o syndod i mi i'r pryd fod yn un arbennig o dda.
Bara lawr gyda chig moch £4.95
Parhau gwnaeth y thema o fwyd tymhorol wedi’i goginio’n syml gyda phrif gwrs o sewin, cregyn gleision a saws menyn. Gyda chynnyrch cystal â sewin lleol, roedd y saws o fenyn, gwin, sialot, garlleg ac ychydig mwy o fenyn yn fwy na digon i bartneru’r pysgodyn.
Sewin £15.95
Roedd y sglodion hefyd o safon. Nid y sglodion posh sydd wedi’u coginio dair gwaith sydd i'w gweld bob man y dyddiau yma – ond sglodion go iawn!
O ran dewis pwdin, ches i ddim dewis - mynnodd Christine i mi flasu pob opsiwn! Er bod yr ystod o ddewisiadau yn cynnwys pwdin reis, mousse siocled ac oren, doedd yr un o'r dewisiadau yma yn or-felys. Roedd cydbwysedd arbennig o dda o felystra ac asidedd yn perthyn i’r darten lemwn, mousse siocled oren a’r meringue cneuen gyll. Fy ffefryn, serch hynny, oedd y pwdin reis. Powlen o reis al dente hufennog yn gysurlon iawn ac yn fy atgoffa o fy mhlentyndod.
Pwdin reis £4.95
Roedd hi'n bleser cael rhannu bwrdd gyda Christine a chlywed am ei phrofiadau helaeth o redeg bwytai. Mae sawl peth wedi newid yn ystod y 50 mlynedd diwethaf – yn wir roedd Christine yn edrych arna i a’r blogiwr bwyd @cleanplateblog fel pobl estron; cyfryngau cymdeithasol fel rhywbeth heb bwrpas a marchnata drud yn ddi-angen. Er yr holl newid yma, yr un yw ei athroniaeth dros y degawdau: coginio cynnyrch da yn dda a bydd y cwsmeriaid am ddychwelyd dro ar ôl tro, degawd ar ôl degawd. A phwy ydw i i anghytuno?!

4 Bron-Y-Mor
Y Bari
CF62 6SW
01446 730662

Saturday, 30 April 2016

Dusty Knuckle

Pwy sy'n adeiladu ffwrn pizza yn ei ardd ar gyfer parti? Dyna wnaeth Phil, perchennog Dusty Knuckle ryw ddegawd yn ôl. Dyma darddiad busnes Dusty Knuckle sydd wedi bod yn fwyty dros dro am bedwar mis ar bymtheg cyn iddo fachu mangre barhaol yn Nhreganna. Mae DK wedi trawsnewid iard gefn siop Crafty Devil i fod yn berl o le.
Ches i ddim cwrs cyntaf ond roedd gweld cynhwysion gan gynhyrchwyr lleol Cymru fel Inner City Pickle a Charcutier Ltd yn arwydd da.

Mae creu pizza da yn anodd ac yn her. Gwnaeth Heston Blumethal egluro'r her rai blynyddoedd yn ôl ar ei raglen “In search of perfection".  Yn syml, mae'r broses o goginio yn lladd blas tyner perlysiau megis basil felly mae angen coginio'r toes cyn gynted â phosib.

Nid yw ffwrn draddodiadol yn gallu ymdopi â’r her yma. Felly, dyma DK yn adeiladu ffwrn ei hun, ffwrn sydd yn cyrraedd gwres o dros 550oF. Mae'r ffwrn yn galluogi DK i greu pizza arbennig. Pizza sydd wedi ennill lle yn netholion 25 pizza gorau ym Mhrydain yn ôl The Times.
Ces i pizza ffenigl gyda selsig Eidalaidd ffenigl gan yr athrylith Illtud Llyr Dunsford yn serenni a pizza pepperoni gyda selsig sydd wedi'u creu yn arbennig ar gyfer DK. Roedd y pizza yn y ffwrn am gwpwl o funudau yn unig. Yn ddigon i bothelli'r toes ond cynnal blas cynhwysion mwy tyner. Mae'r canlyniad yn un hyfryd.
Gyda gwres y tsili o'r pizza yn dal ar fy nhafod roedd hufen iâ yn berffaith ar gyfer pwdin. Unwaith eto, dathlu cynnyrch o Gymru maen nhw'n neud gyda hufen iâ fanila Gwynne's. Roedd y diliau mêl (honeycomb) cartref yn ychwanegu ychydig o wead hefyd.
Mae DK yn sicr o fod yn llwyddiant ac mae'n fwyty arall yn Nhreganna sy'n werth ei brofi.

16 Heol Llandaf
Caerdydd
CF11 9NJ
@dusty_knuckle
Facebook/dustyknuckle