Thursday 24 December 2015

Little Bao Peep

Hangfire. Got Beef. JOL’s. Mae’r tri wedi dechrau bywyd fel bwyty pop-up cyn esblygu i fod yn fwytai go iawn. Mae’n ffordd arbennig o dda o grefftio busnes a lleihau’r risg sylweddol sy’n gysylltiedig ag agor bwyty. Tybed beth yw cynlluniau hir dymor Little Bao Peep, felly?  Does gen i ddim clem, ond yn sicr mi fydd Caerdydd ar ei hennill pe bae nhw, gydag amser, yn sefydlu bwyty parhaol. Dwi’n dweud hyn ar sail noson pop-up lwyddianus gynharach yn yr wythnos.


Mae Little Bao Peep yn cynnig bwyd Asiaidd ac yn arbenigo mewn bao, sef rholyn ysgafn wedi’u stemio. Garyn, brawd Cai Pritchard (perchennog Got Beef) sy’n berchen ar Little Boa Peep a pharatowyd tri chwrs arbennig o dda ym mwyty ei frawd.



Ffa edamame gyda Halen Môn. Dechrau syml i’r pryd ac yn arwyddocaol o ran ymroddiad Little Boa Peep i ddefnyddio cynnyrch o Gymru.

Twmplenni cig oen a moron, moron wedi’u piclo a sesame du. Y twmplenni’n ysgafn a thenau a phicl y moron yn torri trwy gyfoeth y cig oen. Roedd y cydbwysedd yn berffaith.


Mae Little Bao Peep wedi dod o hyd i fformwla sy’n gweithio’n berffaith ar gyfer y bao:
- rholyn bao ysgafn ond digon cadarn i gadw’r llenwad
- llenwad blasus wedi’i goginio’n dyner
- rhywbeth sy’n cynnig gwerthgyferbyniad gwaeadol


Gwendid nifer o rholau bao yw diffyg rhywbeth sy’n cynnig y gwrthgyferbyniad gwaeadol yma a ma’ peryg i bob llond pen fod yn llipa. Nid felly gyda Little Bao Peep. Roedd blas y ddau rholyn yn dra gwahanol, ond y ddau yn dilyn yr un fformwla llwyddianus yma.

Un yn cynnwys bola porc, ciwcymbyr wedi’u biclo, sibolsyn, hoisin a phowdr cnau daear a’r llall gyda chyw iâr wedi’u rhwygo gyda jeli cwrw a darnau o gig moch melys.

I bwdin ces ffriter Oreo gyda hufen iâ siocled dwbl “Gwynne’s”. Roedd y cyfuniad yma yn uwcholeuo gwahaniaeth safon siocled y ddau gynhwysyn. Roedd blas siocled y bisged Oreo ar goll oherwydd dwysder blas ac ansawdd gymharol well yr hufen iâ. Mi fyddai’n well gen i weld Little Boa Peep yn paratoi bisgedi ei hun a sicrhau bod dwyster siocled y bisgedi gystal â’r hufen iâ. Mi oedd y pwdin yn ffiaidd ac yn ffein serch hynny!


Ces i goffi iâ (Lufkin) cyn talu’r bil - £17 y pen am y cyfan. Bargen.

Byddaf yn sicr o gadw llygad barcud ar ei ffrwd Twitter er mwyn cael dysgu ble fydd ei pop-up nesaf. Ar sail y noson pop-up yma, dwi’n rhagweld 2016 llewyrchus iawn i Little Bao Peep.


@baopeep
Facebook/littlebaopeep

Friday 18 December 2015

Irie Shack

Yn ddiweddar, mae cwpwl o fwytai'r Caribî wedi agor yn y brifddinas. Mae Turtle Bay wedi agor yng nghanol y ddinas ac mae Irie Shack wedi agor dau fwyty yn Cathays a’r Bae. Penderfynais i roi cynnig ar Irie Shack ar Woodville Road ac roeddwn i’n edrych ymlaen at gael dianc y tywydd diflas a chael pryd oedd yn cynnig “taste of the tropic islands.”


Mae ystyr gair “Irie” yn crisialu amcanion y bwyty:
- used by Rastafarians as a friendly greeting
- nice, good, or pleasing (used as a general term of approval)

Er i mi gael croeso cynnes yna, yn anffodus doedd y bwyd ddim yn ‘neis’ ddim yn ‘dda’ na wedi ‘plesio’. Mae’r fwydlen yn un eang gyda chrin dipyn o ddewis: 20 o gyrsiau cyntaf; a 28 o brif gyrsiau, a chefais fy synnu gydag ateb y gweinydd i fy nghwestiwn o ba bryd oedd ef yn argymell. Dwedodd y gweinydd nad oedd yn hoff o’r math yma o fwyd. Roedd yn well ganddo fwyd Ceralan ac yn argymell bwtai lleol arall i mi drio! Er i mi synnu at ei ateb, ar ôl i mi brofi’r bwyd yn Irie Shack, mi oedd ef yn llygaid ei le!

I ddechrau, ces i’r Stamp ‘n’ Go (£4.95) sef ffriter penfras. Roedd bwyta’r peli yma fel cnoi peli sboncen. Braidd dim blas a’r gwead yn annymunol.


Fe wnaeth pethau gwella fymryn gyda chyri coconyt (£8.95) sef cyw iâr wedi’i goginio’n araf gyda phupur, perlysiau a sbeis a llaeth coconyt. Gweinwyd y cyri gyda cholslo Caribî, rice ‘n’ peas a thwmplenni wedi’u ffrio. Roedd y reis yn ddigon derbyniol.


Y cyri yn ‘iawn’ gydag ychydig o gic o’r pupur a’r sbeis ond roedd mayonnaise y colslo dipyn bach yn sur. Duw a wyr beth oedd y twmplenni, dwi’n credu taw bara gwyn rhad wedi’u ffurfio mewn i beli a’u ffrio oedden nhw. Cwbwl diangen.


Ces i brofi llond pen o Irie Signature Dish (£8.95) fy ffrind sef hanner cyw iâr wedi’u grilio. Methiant arall gyda’r cig yn sych a di-flas. Er tegwch i’r bwyty, roedd y Brown Stew Chicken (£8.95) yn flasus ac yn werth i mi drio y tro nesa’ yn ôl fy ffrind arall. I fod yn berffaith onest, dwi’n amau y bydd tro nesaf.

Y pethau gorau am y noson oedd y gwasanaeth a’r awyrgylch. Er i mi ddim cael y profiad gorau, roedd y bwyty yn llawn a phawb arall i weld yn hapus gyda'u bwyd.

106-110 Woodville Road
Cathays,
02920373272
cathays@irieshack.com

64-66 JAMES STREET
Bae Caerdydd
cardiffbay@irieshack.com

@irieshack