Saturday 27 October 2018

Heaneys

“…y gwirionedd yw bo’ Caerdydd yn methu cystadlu â dinasoedd eraill y DU. Mae’r canllawiau yma, heb os, yn cyfrannu at ac yn dylanwadu ar ganfyddiadau eraill o’r sin fwyd yng Nghaerdydd.”

Dyma beth ysgrifennais i amser yma'r llynedd wrth gymharu safon bwytai Caerdydd gyda dinasoedd arall ym Mhrydain. Does fawr wedi digwydd ers hynny i newid y sefyllfa yma - yn wir, gwaethygu fu hanes y safon. Mae canllawiau Michelin, AA a’r Good Food Guide ar gyfer 2019 yn adlewyrchu hyn.

Mae’r duedd yn amlwg i mi ond diolch byth mae yna eithriadau: tafarn y Heathcock a bwyty Tommy Heaney - y ddau le wedi agor mis Hydref. Caiff dafarn y Heathcock sylw yn fy mlog nesaf ond bwyty Heaneys yw ffocws y blog yma.
Mae coginio Tommy Heaney yn gyfarwydd i nifer ar ôl iddo goginio yng ngheginau Bar 44 a The Great House ym Mhen-y-bont a hefyd ar ôl iddo serennu ar gyfres ddiweddar The Great British Menu. Ar ôl cyfnod o redeg bwyty pop up ac ymgyrch arian torfol llwyddiannus, mae wedi agor ei fwyty ar hen safle Arbennig yn Nhreganna.

Mi ddechreua i gyda’r negyddol. Mae angen gwneud rhywbeth gyda’r ffenestri mawr ar flaen y bwyty. Ar ddiwrnod heulog mae’r haul yn dallu’r cwsmeriaid ac mi oedd hi fel bwyta mewn tŷ gwydr gyda gwres yr haul yn taro fy nghefn. Gyda’r nos, mae’r bwyty wedi’i oleuo fel sbotlamp i bawb sy’n cerdded heibio gael busnesu i weld pwy sydd yno! Byddai ‘manifestation’ syml sy’n gorchuddio traean isaf y ffenestr yn datrys y broblem ‘ma. Mân gŵyn yw hwn yng nghyd-destun fy mhrofiad i.

Mae’r fwydlen yn syml sy’n cynnwys rhestr o blatiau bach o fwyd:
Addawol heb fod yn chwyldroadol oedd y platiau cyntaf gyda’r hwyaden heb ei fygu gormod a’r braster yn toddi yn y geg. Y bara surdoes yn ddigon dymunol a’r menyn marmite hallt sydd wedi profi i fod mor boblogaidd gyda chwsmeriaid.

Yna daeth y wystrysen. Waw. Y wystrysen orau i mi flasu gyda’r afal a’r dil a’r granita yn creu teimlad annisgwyl a phleserus. Byddwn i wrth fy modd yn bwyta dwsin.
Nesa’ oedd y tartare cig eidion gyda betysen wedi’i fygu. Byddai y platiad yma’n well heb y cig. Y madarch a’r betys oedd yn serennu ac mi oedd blas y cig eidion ar goll braidd.
Platiad arall, pysgodyn arall, pleser arall. Monkfish oedd y pysgodyn tro hwn gyda sorbet marchruddygl a chiwcymbr yn ychwanegu blas tyner iawn wnaeth godi’r platiad i fod gyda’r gorau, os nad y gorau'r prynhawn.
Mae’n amlwg bod gan Tommy talent. Mae’r dalent yn dod i’r amlwg pan ei fod yn coginio gyda physgod - does dim rhyfedd i Tommy lwyddo i greu ail bryd orau yng nghystadleuaeth Great British Menu eleni. Mi oedd y pollock a’r penfras yn enghreifftiau arall o’r dalent yma.

Cig oen oedd nesaf gydag ansiofi. Mi oedd hwn yn arbennig o dda gyda’r BBQ yn mygi’r cig rywfaint ac yn creu ‘depth of flavour’ a’r ansiofi yn torri trwy gyfoeth y pryd a hefyd yn darparu rhywbeth hallt ar y plât. Y cig oen yn cystadlu gyda’r monkfish gyda’r gorau os nad y gorau y prynhawn.
O’r ddau bwdin, mi wnaeth y cwstard Earl Grey sefyll allan ond tra iddyn nhw fod yn flasus, y platiau sawrus sydd orau yma.

Pleserus iawn oedd fy mhrofiad cyntaf a dwi yn barod wedi bwco bwrdd i ddychwelyd. Diolch Tommy am ddewis Caerdydd fel lleoliad dy fwyty. Bwytai fel hyn fydd yn codi proffil Caerdydd a does dim amheuaeth taw llwyddiant ysgubol bydd Tommy Heaney yng Nghaerdydd.

http://www.heaneyscardiff.co.uk/index.php
@cardiffheaneys
@heaney16
info@heaneyscardiff.co.uk
02920 341264