Thursday 30 November 2017

Caerdydd: Canllaw ar ganllawiau bwyd 2018

Erbyn hyn mae pob un o’r canllawiau wedi cynabod a gwobrwyo bwytai y Deyrnas Unedig am 2018. Y tri mwyaf dylanwladol yw canllaw Michelin, The Good Food Guide a chanllaw yr AA. Dyma flog sydd yn crynhoi’r canllawiau yma ar gyfer 2018 gyda ffocws ar fwytai Caerdydd: “canllaw ar y canllawiau.”

Michelin

Heb os, y canllaw mwyaf adnabyddus – Oscars y byd bwyd. Mae pawb yn gyfarwydd â’u sêr ond does yr un bwyty yn y brifddinas wedi hawlio un – yr unig brifddinas ym Mhrydain heb seren. Mae yna fwyty gyda seren ond 4.5 milltir i ffwrdd diolch i fwyty James Sommerin ym Mhenarth.

Mae Michelin hefyd yn cydnabod bwyd o safon am bris rhesymol – y bib gourmand. Dim ond dau bwyty trwy Gymru gyfan sydd wedi ennill bib: Hare & Hounds a Felin Fach Griffin – y naill na’r llall yn y brifddinas.

Mae canllaw Michelin hefyd yn cydnabod bwytai sydd yn cynnig “simply a good meal” gyda’r Michelin Plate – ond rhyw ddwsin o fwytai sydd wedi ennill plât:

Canol y Dref
Tre/Pontcanna
Arall
Park House
Purple Poppadom
Chai Street, Y Rhath / Treganna
Asador 44
Arbennig
St David’s Hotel & Spa, Y Bae
Casanova
Bully’s
Potted Pig
Chez Francis
Park Plaza
La Cuina
Cathedral 73

The Good Good Guide

Mae canllaw TGFG yn dyrannu sgôr o 1 – 10 i fwytai’r Deynas Unedig ac hefyd mae’n cyhoeddi 50 bwyty gorau’r DU bob blwyddyn. Yn 2018 does dim lle i unrhyw fwyty o’r brifddinas ar y rhestr yma. Yn wir, dim ond Ynyshir (12fed safle), bwyty James Sommerin (35ain safle) a The Whitebrook (49ain safle) sydd wedi hawlio lle ar y rhestr.

Ond 7 bwyty Caerdydd sydd wedi dal sylw arolygwyr TGFG:

Bwyty
Sgôr
Meini Prawf
Arbennig
3
Coginio da, gan ddangos sgiliau technegol cadarn a defnyddio cynhwysion o ansawdd.
Purple Poppadom
3
Asador 44
2
Coginio pwrpasol, gan arddangos sgiliau technegol da a chyfuniadau diddorol a blasau. Anghysondebau achlysurol.
Bully’s
2
Chapel 1877
2
Mint and Mustard
2
Casanova
1
Gallu coginio gyda chyfuniadau bwyd syml a blasau clir, ond rhai anghysonderau.
Gyda llaw, bwyty Ynyshir (Ceredigion) sydd â’r sgôr uchaf o unrhyw fwyty yng Nghymru – 8.

Canllaw yr AA

System o rosynnau neu rosette’s sydd gan yr AA gyda’r nifer yn amrywio o 5 i 1. Crewyd hanes eleni gyda Ynyhir yn ennill 5 rhosyn – y tro cyntaf i fwyty yng Nghymru ennill cynifer o rosynnau.

Tra bo 4 rhosyn AA gyda Sosban & The Old Butcher’s, Bwyty James Sommerin a The Whitebrook, tri bwyty yn unig yng Nghaerdydd sydd wedi ennill sylw gan arolygwyr yr AA:

Bwyty
Rosette
Meini Prawf
Bully’s
2
Bwytai rhagorol sy'n anelu at gyflawni safonau uwch a chysondeb gwell. Mae mwy o fanylder yn amlwg yn y coginio, a bydd sylw amlwg i ddewis cynhwysion o ansawdd.
Park House
2
Moksh
2

A dyna ni! Tra bod achos dathlu gan nifer o fwytai yn y brifddinas, y gwirionedd yw bo’ Caerdydd yn methu cystadlu â dinasoedd eraill y DU. Mae’r canllawiau yma, heb os, yn cyfrannu at ac yn dylanwadu ar ganfyddiadau eraill o’r sîn fwyd yng Nghaerydd.