Monday 21 April 2014

La Bodega


Does dim cymaint â hynny o lefydd bwyta da yng nghanol y ddinas yn fy marn i. Ag eithrio Bar 44 a La Cuina, prin iawn yw'r llefydd sydd yn gwneud bwyd Sbaenaidd da chwaith. Pleser felly oedd cael treulio prynhawn yn gwledda ar tapas anhygoel reit yng nghanol y ddinas.


Cyn i mi glodfori'r lle, mi soniaf am y gwendidau:
  • Nid yw bwydlen sy’n dweud bod y tapas yn authentic a'r cynhwysion yn ffres yn gysurus iawn. Mae’n fath o ddisgrifiad y baswn yn disgwyl ei weld ar fwydlen tai bwyta cadwyn. Tapas yw tapas a dwi’n cymeryd yn ganiatol bod y cynhwysion yn ffres
  • Y charcuterie yn flasus ond well gen i'r cig wedi’i dorri’n deneuach
  • Mae rhai pobl wedi dweud wrthai bod y lle’n ddrud. Rhaid i mi gyfaddau nad yw’r bwyd yn rhad ond rhaid cofio bod cynhwysion o ansawdd yn costio, yn enwedig yng nghanol y brifddinas 
  • Rhaid i fi ddweud rhywbeth am y gwall yn y fwydlen hefyd, chwiliwch am y sillafiad diddorol!

Yn fy marn i, mân-wendidau yw'r rhain i gyd a wnaethon nhw ddim effeithio'n negyddol o gwbl ar ginio ysblennydd. Mae modd eistedd tua blaen y bwyty ac edrych allan ar y stryd fawr ond dwi mor falch i mi benderfynu eistedd tua’r cefn. O fewn munudau teimlwn fel fy mod i ar wyliau yn Sbaen. Y gerddoriaeth draddodiadol, y cogyddion a’r tim gweini yn siarad Sbaeneg â’u gilydd a chael gweld y cogyddion wrthi’n gweithio.



Mae’r naws yn berffaith a’r bwyd yn wych. Dros botel o Cava (£25) ces i brofi tapas arbennig o dda:


Pan con Tomate (£3.50)
Bara yn grimp ac yn cynnal lleithder y tomato, cydbwysedd y garlleg yn berffaith. 
Croquetas de Jamon (£7.50)
Croquetas ham yn wych, saws béchamel hufenog a’r darnau o ham iberico yn rhoi cic hallt i’r pryd.

Embutidos Ibericos (£9.95)
Cig wedi’i dorri’n rhy drwchus. Well gen i gael mwy o ddarnau ond wedi’u torri’n deneuach.

Fabada Asturiana (£5.75)
Stiw chorizo a ffa gwyn. Unwaith eto well gen i’r chorizo wedi’i dorri’n fanach a’r stiw ei hun i fod yn llai dyfrllyd. Gwell gen i flas mwy cyfoethog.

Morcilla Iberica con Huevo (£5.90)
Pwdin gwaed ac wyau. Melyn wy yn iro’r holl bryd, a’r pupur wedi’u piclo’n ysgafn mewn finigr yn torri trwy’r pwdin gwaed cyfoethog.


Albondigas con Romescu (£6.25)
Ochr allanol y peli cig wedi’u coginio’n drwyadl sydd yn rhoi blas dwfn a phupur y saws pupur coch yn felys neis.
Tarta de Santiago £4.50
Y toes yn feddal a blas yr almon yn amlwg ond heb fod yn rhy felys. Yr hufen iâ yn syml ond doedd dim angen yr hufen. Braster di-angen.

Crema a la Catalana (£4.50)
Haenen tenau o siwgr crimp a chwstard melfedaidd a llyfn.

Mae'r lle yn wych. Ond galw mewn am ginio cyflym oedd fy mwriad ond mae'r ffaith i mi aros i wledda am 4 awr yn dweud y cyfan!

15 Stryd Fawr
Caerdydd
CF10 1AX
02920371823