Wednesday 14 October 2015

Checkers, Sir Drefaldwyn

Mae gan y byd bwyd lawer i ddiolch i'r teulu Roux. Tra bod wyneb Michel Roux Jnr. yn un adnabyddus i lawer, ei dad Albert Roux a’i frawd Michel Roux yw’r brodyr mwyaf dylanwadol yn y maes yma. Mae’r Waterside Inn er enghraifft, un o fwytai’r brodyr, wedi ennill a chynnal tair seren Michelin am 30 o flynyddoedd. Camp anhygoel.

Mae’r brodyr Roux wedi hyfforddi a meithrin talent nifer o gogyddion dros y degawdau gan gynnwys Stephane a Sarah Borie. Yn ffodus i ni’r Cymry, ar ôl treulio saith mlynedd yng nghegin The Waterside Inn, penderfynodd Stephane a Sarah agor bwyty gydag ystafelloedd yn Nhrefaldwyn. Ac ar ôl ond saith mis, llwyddodd The Checkers i ennill seren Michelin – un o bump o fwytai yng Nghymru â seren yn 2016.

Bwyd Ffrengig yw The Checkers gydag opsiwn o fwydlen a la carte (tua £45 am dri chwrs) neu fwydlen blasu saith cwrs (£75). Gyda hi’n ben-blwydd arnaf, roedd y dewis yn un hawdd!

Y peth cyntaf sy’n fy nharo i yw’r pris. Mae’n ddrud ac roedd y saith cwrs yn cynnwys yr amuse bouche a’r llond pen i lanhau’r daflod. Mae’r bwyd serch hynny yn anhygoel.
Crackling porc, saws mwstard. Bisged parmesan gyda chaws Roqufort. Hadog wedi’i fygu gyda saws radish poeth
Velouté betys, port coch gyda chaws gafr a chnau cyll (hazelnuts). Dechreuad ysgafn i’r pryd ac yn arwydd o’r hyn oedd i ddod. Gallu Stephane i drawsnewid llysieuyn syml sydd wedi sicrhau bod y bwyty hwn ar dir uwch.
Velouté betys, port coch gyda chaws gafr a chnau cyll
Sgolop wedi’i bobi gyda rafioli, letys baby gem a saws seidr. Y sgolop wedi’i bobi’n berffaith sy’n dipyn o gamp ond roedd angen angori'r cregyn sgolop yn fwy cadarn cyn gweini. Bron iawn i mi golli ychydig o’r saws oherwydd hyn ac mi fyddai wedi bod yn siom oherwydd roedd y saws seidr yn anhygoel.
Sgolop wedi’i bobi gyda rafioli, letys baby gem a saws seidr

Maelgi (monkfish) wedi’i rostio gyda bacwn wedi’i fygu, mousse Roquefort, ffacbys (lentil) Puy a saws gwin coch. Roedd hwn yn bryd gyda thipyn o swmp gyda blasau cryf yn gweithio gyda’i gilydd…ryw sut. Roeddwn i’n hapus i gael fy mhrofi’n anghywir ond nid oedd y disgrifiad wedi fy nghyffroi. Roedd maelgi gyda gwin coch, caws cyfoethog, saws cyfoethog a ffacbys Puy yn fy nharo i fel pryd llawer rhy drwm. O ystyried cydbwysedd y saith cwrs, dwi o'r farn y dylid fod wedi ysgafnhau’r cwrs yma.

Maelgi (monkfish) wedi’i rostio gyda bacwn wedi’u fygi, mousse Roquefort, ffacbys Puy a saws gwin coch. Diolch i @kelly_j_kovacs am y llun
Granite granadila (passion fruit) leim a sinsir

Granite granadila (passion fruit) leim a sinsir
Wellington cig carw, moron chantenay gyda hufen, saws oren a grawn pupur (peppercorn). Dwi’n hoff iawn o gig carw ond roedd cyfuniad y crwst, yr hufen gyda’r moron a’r saws cyfoethog yn ormod i mi, er gwaethaf ymdrechion yr oren yn y saws. Y cig carw wedi’i goginio’n berffaith serch hynny.
Wellington cig carw, moron chantenay gydag hufen, saws oren a grawn pupr (peppercorn)
Y pwdin cyntaf oedd y mango, coconyt a pain perdu. Llwyddiant ysgubol ac roeddwn i’n hoff iawn o’r cyflwyniad o ‘egg and soldiers'. Nid darn o fango yw’r melyn ŵy gyda llaw. Dwi’n creu taw spherification yw’r dechneg sydd yn creu pêl o fango - roedd y mango yn ffrwydro ac yn rhyddhau’r sudd. Pwdin arbennig o dda.

Mango, coconyt a pain perdu
Soufflé poeth eirin du (damson) gyda hufen iâ fanila. Yn ôl y disgwyl o fwyty o’r safon yma, roedd y soufflé wedi codi’n berffaith ac roedd y defnydd o’r ffrwyth eirin du yn wych. Yn wahanol i ffrwythau eraill, roedd cynnwys eirin du yn sicrhau nad oedd y pwdin yn rhy felys, yn enwedig oherwydd yr hufen iâ fanila.

Soufflé poeth eirin du (damson) gydag hufen iâ fanila
Mae’r bwyty yn dipyn o siwrne o Gaerdydd a byddwn i’n sicr yn argymell aros dros nos.

The Checkers
Broad Street
Trefaldwyn
SY15 6PN
01686669822
@CheckersChef


Wednesday 7 October 2015

Ble mae'r sêr Michelin?

Mae gan bob un o brifddinasoedd y Deyrnas Unedig fwyty seren Michelin. Pob un onibai am Gaerdydd. Er gwaethaf ymdrechion bwyty James Sommerin, bydd rhaid i Gaerdydd aros blwyddyn arall.

Roeddwn i wedi proffwydo y byddai bwytai James Sommerin, Llangoed Hall ac o bosib Terry M wedi ennill seren. Yn anffodus, mae’n ymddangos mai Llundain sydd wedi mynnu sylw arolygwyr Michelin. Fel soniodd y blogiwr blaengar Chef Hermes: “nearly half of the newly starred restaurants are within the capital, there are signs that Bibendum & his chums are going further afield…[it’s] just a shame that they seem to have missed Manchester, Wales & the bulk of Scotland.”

Gan nad oedd bwyty yng Nghaerdydd wedi ennill seren Michelin, dyma ddiweddariad ar fy mlog sy'n ateb y cwesitwn, ble mae'r sêr Michelin?



Mae’r tabl isod yn rhestri’r bwytai un seren Michelin o fewn awr o siwrne i Gaerdydd. Cliciwch ar enw’r bwyty am wybodaeth bellach a chliciwch ar bellter y siwrne er mwyn cael cyfarwyddiadau ar sut i gyrraedd y bwyty. (Os ydych yn darllen hwn ar ffôn symudol, trowch y ddyfais 90 gradd).

Milltir
Bwyty
Pellter (car)
Cinio
Cinio Nos
41.3
£38 x 6 cwrs
£68 x 10 cwrs
42.2
£19 x 2 gwrs
£45 x 3 chwrs
42.3
£25 x 2 gwrs
£54 x 3 chwrs
44
£25 x 2 gwrs
£45 x 3 chwrs
51.3
£30 x 3 chwrs
£60 x 6 chwrs
54
£25 x 2 gwrs
£74 x 7 cwrs
55
£20 x 2 gwrs
£62 x 2 gwrs
56.1
£80 x 3 chwrs
£105 x 7 cwrs
bwytai eraill seren Michelin yng Nghymru
105
£40 x 3 chwrs
£75 x 7 cwrs
118
£35 x 5 cwrs
£55 x 3 chwrs
141
£25 x 2 gwrs
£57 x 3 chwrs

*yng Nghymru
** mi fydd Casamia yn symud cyn hir o bentref Westbury i'r hen ysbyty yng nghanol y ddinas ym mis Ionawr 2017.

Bwyty 2 seren Michelin:
Milltir
Bwyty
Pellter (car)
Cinio
Cinio Nos
68.9
£26 x 3 chwrs
£28.50 x 3 chwrs

Bon apétit!