Wednesday 5 July 2017

Asador 44

Eleni yn Tafwyl ces i’r pleser o gymryd rhan mewn sesiwn drafodaeth gyda blogwyr Cymraeg blaenllaw bwyd y brifddinas. Un o’r pynciau a drafodwyd oedd bwytai gorau Caerdydd. Roedd y sgwrs yn un ddiddorol gyda phob blogiwr yn siarad yn angerddol am wahanol lefydd. Mi oedd y panel yn unfarn serch hynny am un bwyty: Asador 44.

Asador 44 yw bwyty diweddaraf Owen a Tom Morgan - y brodyr talentog tu ôl i fwytai tapas Bar 44 (Y Bontfaen, Canol Y Ddinas a Phenarth). Nid bwyty tapas yw Asador 44 serch hynny ond bwyty barbeciw.
Diolch i Gourmet Gorro am y llun
Ers i’r lle agor ei ddrysau 4 mis yn ôl, mae wedi ennill ei blwy fel un o fwytai gorau’r brifddinas. Y prif reswm am hyn yw ymrwymiad Owen Morgan i ansawdd y cynnyrch. Ar ôl blynyddoedd o arbrofi ryseitiau a phrofi cynhwysion yn rhanbarth Y Basg roedd hi’n amser i agor y bwyty.

O edrych ar y fwydlen, y prisiau ac nid y prydau sy’n fy nharo i gynta’. Dechreuad o carabinero (un corgimwch am £16) yn enghraifft eithafol o hyn. Fel rhywun sy’n hapus i wario arian ar fwyd da, nid yw hyn yn broblem i fi ond mae’n gwneud i fi gwestiynu ydy’r prisiau yma’n gynaliadwy? Mae pawb yn gwybod beth ddigwyddodd i Burger & Lobster a’r fwydlen £20.
Diolch i Asador 44 am y llun
Prif ffocws y bwyty yw’r asador sef barbeciw neu gril neu sbit. Ar yr asador ma detholiad o bysgod, llysiau a chig yn cael ei goginio. Ces i’r sirloin o hen fuwch odro Asturia 9 mlwydd oed. Pryd syml ond anhygoel ar yr un pryd. Mae safon y gwin cystal hefyd ac mae’r sommelier, Furgus Muirhead yn wybodus iawn ac mae ganddo CV anhygoel am rywun mor ifanc: Jason Atherton; Tom Sellers; a Tom Aitkens.
Does gen i ddim gair o feirniadaeth ac eithrio’r melysfwyd o gacen gaws. Mi oedd e wedi’i goginio yn y ffordd draddodiadol ond doedd e ddim cystal â’r hyn sy’n cael ei greu yn La Viña yn San Sebastián.
Yn fyr, mae’r lle yn wych, yn werth yr arian ac yn lle arbennig i ddathlu achlysur arbennig yng nghanol y ddinas. Mae’n werth nodi hefyd bod Asador 44 yn cynnig bwydlen arbennig amser cinio sy’n fargen am £10.

https://asador44.co.uk/
@asador44
facebook/asador44