Thursday 27 June 2013

Milgi

Rwy’n teimlo trueni dros lysieuwyr. Dydw i ddim am swnio’n nawddoglyd a dwi’n parchu rhesymau pam bod llysieuwyr yn dewis peidio â bwyta cig. Dwi’n teimlo trueni oherwydd y dewis gwael sydd ar gael mewn sawl bwyty. Mae yna sawl enghraifft o brydau llysieuol sydd yn swnio’n flasus iawn wrth gwrs, ond mae'r bwytai yn codi crocbris: £11 am ffriter chickpea moron a chwmin neu £13 am lysiau wedi eu marineiddio ac wedi eu golosgi gyda, fregola grosso (pasta â llysiau mewn geiriau eraill)!

Nos Sul 23ain o Fehefin es i am bryd nos ym Milgiar City Road. Ers 2010 mae Milgi ond yn cynnig bwydlen lysieuol. Wel, mae Milgi yn llawer mwy na bwyty ond bwyd yn unig yw testun y blog yma…

Athroniaeth y lle yw defnyddio cynhwysion lleol mewn ryseitiau sydd yn adlewyrchu dylanwadau byd eang. Mae’r fwydlen yn adlewyrchu hyn ac mae’n amlwg bod yr athroniaeth yma wedi profi’n llwyddiannus iawn gyda Milgi yn ennill gwobrau am y Best Cheap Eats a Best Ethical yng Nghymru, tair mlynedd yn olynol.


Mae’r fwydlen yn gryno iawn gyda tri neu bedwar dewis i bob cwrs, gyda’r prisiau’n amrywio o £5-6 am gwrs cyntaf, £8-9 am brif gwrs a £5 am bwdin.

Ches i ddim cwrs cyntaf a nes i ddewis halloumi wedi’i grilio gyda phupur saffrwm; pys pinto, cassoulet tomato; a thatws wedi’i ffrio’n ysgafn gyda chwmin fel prif gwrs (£8.95). Roedd e’n ddewis hawdd i mi oherwydd dwi’n dwli ar halloumi: y canol wedi’i feddalu ychydig; a’r darnau allanol yn dechrau troi’n grimp wedi bod yn y badell grilio. Mae’n gaws llawn blas oherwydd yr holl halen hefyd.

Roedd y tatws yn wahanol i’r hyn oeddwn i yn disgwyl ac yn wir, wedi i mi gadarnhau gyda’r cogydd, nid tatws wedi’i ffrio’n ysgafn gyda chwmin ges i ond tatws wedi eu ffrio’n ysgafn gyda chlof, all spice, cwmin a sinamon. Ymddiheurodd y cogydd ond doedd dim angen oherwydd oedd y melystra o’r sinamwn yn gweddu’n berffaith gyda’r halloumi hallt.

Roedd y cassoulet tomato a ffa pinto yn ddigon dymunol o ran blas - ei rôl bennaf oedd cydbwyso’r pryd trwy gyfrannu saws. Roedd y salad hyd yn oed yn flasus! Dwi’n dweud hynny gydag ychydig o syndod oherwydd dwi’n colli cyfrif o’r achlysuron pryd dwi’n cael salad sydd yn cynnwys hanner dwrn o ddail salad llipa a rheini yn morio mewn olew rhad.

Prif gryfder y salad oedd yr hadau pwmpen a winwnsyn oherwydd iddyn nhw gynnig gwead gwahanol a gwrthgyferbyniad da i bopeth arall oedd ar y plât.

Oherwydd safon y bwyd, doedd dim rhaid i mi feddwl dwywaith os oeddwn i am bwdin ai peidio. Doughnuts afal gyda hufen iâ riwbob a bisged frau a pum sbeis. Yr unig wendid yma oedd yr hufen iâ fel carreg o galed, nid hufennog, fel y dylsai fod. Roedd y doughnuts serch hynny yn berffaith: yr haenen allanol yn grimp a’r canol yn ysgafn gydag afal poeth. Roedd y pum sbeis yn gweithio’n berffaith gyda’r afal ac er gwaethaf fy mhryderon, doedd llond llwy o doughnut, afal, bisged frau a hufen iâ ddim rhy felys. I’r rhai ohonoch chi sy’n meddwl beth yw’r powdr piws ar yr hufen iâ a’r plât, powdr betysen yw e. Doeddwn i ddim yn gweld diben cynnwys y powdr yma oherwydd roedd ei flas ar goll a methu cystadlu gyda’r pum sbeis.



Mae Milgi yn sicr iawn o’i hun ac yn gwybod ei le yn y farchnad. Mae naws y lle yn hamddenol tu hwnt, mae’r bwyd yn ffres, lleol ac mae’r pris yn rhesymol dros ben.

Saturday 22 June 2013

Pier 64: Y bola yn hapusach na’r banc

Ar yr 16eg o Fehefin 2013 es i mas gyda’r teulu i Pier64 am ginio i ddathlu Sul Y Tadau. Bwyty, bar a thŷ stecen ydyw, lawr ym marina Penarth - lleoliad delfrydol o ystyried y tywydd braf cawsom ni.

@l0mbard0


Gyda Francis Dupuy (yn gynt o Le Gallois) wrth y llyw mi oeddwn i’n disgwyl bwyd o safon uchel. Cynyddodd y disgwyliad eto wedi i mi weld prisiau rhai o’r prydau!

Ar ôl diod wrth y bar ces i gyfle i edrych ar y fwydlen. Roedd yna ddigon o amrywiaeth gyda physgod, saladau a chigach.

Gyda ni’n dathlu Sul Y Tadau, a Pier 64 yn dŷ stecen, ces i’r Chateaubriand am bris digon rhesymol o £49.95 (rhwng 2). Mi oedd ansawdd y cig yn wych ac roedd wedi’i goginio’n berffaith (gwaedlyd). Mi oedd y llysiau’n wych hefyd: llysiau gwyrdd al dente; tatws dauphinoise cyfoethog, yn gweithio’n dda gyda chig â chyn lleied o fraster; a saws gwin coch yn berffaith gyda’r Chateaubriand.

Mi oedd y pryd yn wych ac fe fwynheuais i pob un elfen. Y gost yw’r unig beth sydd yn gwneud i mi feddwl ddwy waith cyn dychwelyd. Mi oedd y Chateaubriand yn rhesymol ond gyda phopeth arall: llysiau gwyrdd â menyn £3; tatws dauphinoise £3; foie gras £7.95; a saws gwin coch £2, dwi’n talu £41 am brif gwrs, heb sôn am win, dŵr na phwdin!

Mae’n werth nodi bod prydau eraill ar gael sydd llawer rhatach ac hefyd bod yna fwydlen sy’n benodol at amser cinio sy’n cynnig 2 gwrs am £12.95 a 3 chwrs am £15.95.

Nid y fi oedd yn talu felly on i’n mwy na hapus dewis ffondant siocled gydag hufen iâ fanila (£5.95) am bwdin. Mi oedd hwn yn berffaith. Sbwng yn ysgafn a gwead y siocled poeth melfedaidd yn llifo ar ôl i mi ei dorri. Gydag ychydig o’r hufen iâ roedd e’n ddiweddglo bendigedig i’r pryd – heb fod yn rhy felys chwaith.


Gyda gwin Côtes du Rhône 100% Grenache Julien Mus (£24.95) ac espresso dwbl am £3.75 mi fydde fe wedi bod yn rhatach i mi gael cinio ym mwyty Alain Ducasse at the Dorchester – ac mae 3 seren Michelin ‘da nhw!

Er gwaetha’r gost, mae Pier 64 yn fwyty arbennig o dda sy’n creu bwyd o ansawdd. Dwi’n edrych 'mlaen cael bwyta yno eto, ond bydda'i siwr o fod yn archebu prydau rhatach.