Saturday 7 December 2013

Duck Egg Bleu

Wedi wyth mis o aros, agorodd drysau Duck Egg BleuThe Lazy Duck yn Nhreganna (4 Rhagfyr 2013).  Mae gan y cogydd/perchennog, Gareth Dobbs, ei hun yn hannu o Gaerdydd, brofiad o weithio yn Petrus a Le Gavroche ac mi oedd gen i ddisgwyliadau uchel.



Mae’r wefan yn ychwanegu at y disgwyliad hyn gyda’r cogydd yn dweud mai nod Duck Egg Bleu yw bod “yn ddigon da i gael ei leoli yn unrhyw un o ddinasoedd mwyaf adnabyddus y byd.” Serch hynny, roedd rhaid i mi gofio mai noson agoriadol Duck Egg Bleu oedd hi…

A hithau’n noson agoriadol, ces i wydraid o prosecco yn y lolfa cyn mynd i mewn i’r bwyty. Mae’r bwyty ei hun yn fawr (lle i 80) a'r un gegin sydd yn coginio ar gyfer The Lazy Duck hefyd.

Mae’r fwydlen a la carte yn wych (tri chwrs am £32.50). Yn wahanol i’r ffasiwn o  gyfleu prydau amwys, mae’r fwydlen yn esbonio pob un rhan. Ces i ddechreuad o gig carw: carpaccio a ‘lolipop’ gyda chnau cyll a finegrét siocled (£8.45).


Doedd y lolipop ddim yn sych er gwaethaf defnyddio cig gyda chyn lleied o fraster. Doedd dim byd arbennig iawn am y carpaccio a’r cnau cyll.

Yn dilyn y cwrs cyntaf, ces i’r amuse bouche syml ond effeithiol o gaws pob Cymreig gyda winwns coch. Caws llawn blas ac asidedd y finegr yn torri trwy’r braster. Roedd yr amuse bouche yn fwy blasus na’r cwrs cyntaf ac felly mi oeddwn i’n hapus i'w fwyta ar ôl y cwrs cyntaf – yn groes i fy nisgwyliad.


Fel prif gwrs ces i goes las cig eidion wedi’i frwysio mewn gwin Rioja, rafioli gyda chaws Perl Las a chnau Ffrengig, cennin bychain, moron, tatws wedi’i hufenu gyda thryffl a sudd gwin coch (£19.45).


Dyma enghraifft orau y noson o dalent y cogydd gan drawsnewid darn rhad o gig i mewn i rywbeth hynod o flasus. Roedd y cig yn ildio’n ddi-drafferth ac yn llawn blas. Y gic ychwanegol o’r caws glas hallt a melystra’r cennin yn gwneud y pryd yn un cofiadwy.  

Pwdin lemwn i lanhau’r daflod…

 
I bwdin ces i Chiboust siocled, consommé hibiscus, hufen iâ hufen tolch, tuille pupur (£6.95). Ar ôl prif gwrs cyfoethog mi oedd y chiboust yn ysgafn ond y consommé hibiscus yn llawer rhy felys at fy nant i. Y tuille yn siomedig oherwydd iddo fe fod yn rhy drwchus. Yn anffodus, roedd y rhewgell wedi torri felly ches i mo'r hufen iâ.

 
Rhwystredigaeth oedd y prif emosiwn ar ôl y pryd. Rhwystredigaeth oherwydd er gwaethaf yr holl fuddsoddiad a’r gwaith caled, roedd yna gamgymeriadau esgeulus a di-angen. Dyma rai o’r gwendidau, rhai yn ddealladwy ar noson agoriadol bwyty, ac eraill angen eu gwella cyn gynted â phosib:

  • Mi oedd gormod o oedi rhwng pob cwrs a chwe bwrdd yn unig oedd yn y bwyty
  • Doedd dim un agwedd o'r profiad yn slic iawn
  • Dechreuad ham, pys, ŵy a ‘sglodion’ sef pain perdu yn dderbyniol ond barn fy nghariad oedd bod angen rhywbeth mwy crimp fel gwrthgyferbyniad i’r cynhwysion eraill. Y gyllell a'r fforc yn llawer rhy fawr i fynd gyda’r dechreuad
  • Yr argymhellion gwin gyda phob pryd ar gael fesul potel yn unig
  • Diffyg angerdd/gwybodaeth gyda rhai oedd yn gweini, er enghraifft:
Gweinydd: here’s your amuse bouche
Cwsmeriaid: what is it?
Gweinydd: I don’t know, I’ll ask the chef…

Er gwaethaf fy rhwystredigaeth a’r gwendidau yma, mi oedd llawer o bethau da a digon o reswm i fi ddychwelyd yn y flwyddyn newydd wedi iddyn nhw fwrw eu prentisiaeth.
 
Rhaid clodfori nod Gareth, ei weledigaeth a’i ymroddiad i agor bwyty gyda'r bwriad o anelu’n uchel a chyrraedd yr uchelfannau yn ein prifddinas.

www.duckeggbleu.co.uk
02920220993
info@duckeggbleu.co.uk