Tuesday 2 January 2018

Penylan Pantry

Mae dechrau blwyddyn newydd yn garreg filltir naturiol ac yn gyfle i feddwl am addunedau ar gyfer 2018. Dwi am gadw adduned go syml eleni - bwyta bwyd da. Mae hyn yn golygu, yn bennaf, bwyta bwyd tymhorol a bwyta cig sydd wedi’i godi mewn modd sy’n parchu’r anifail - dim o’r cig mass produced yma sy’n debycach i gig ffatri na chig ffarm.

Un lle fydd o gymorth i mi os ydw i am gadw’r adduned yma yw Penylan Pantri. Os nad ydych chi wedi bod eto, mae’n berl o le reit yng nghanol Penylan ar Kimberly Road. Mae yna bedair elfen i’r pantri:
Diolch i @gourmetgorro am y llun
Y Caffi

Dwi wedi treulio sawl prynhawn dymunol yma yn profi bwyd blasus a thymhorol y pantri. Gyda phopeth yn cael ei baratoi yn ffresh, does dim ‘fast food’ ond mae’r bwyd gwerth aros amdano. Dwi’n hoff iawn o’i saladau gyda salad o flodfresychen wedi’i rhostio gyda sumac, caper berry, winwnsyn coch, finegr seidr, hadau wedi’u tostio, a ffagbys lentis yn hen ffefryn. I gyd fynd gyda’r saladau yma mae’r rolau selsig neu’r wy selsig (‘scotch eggs’) yn wych.

Salami ffenigl a ham Trealy Farm
Olifau Gordal gyda phersli ac oren

Y Pantri

Mae’r pantri yn creu naws gartrefol gyda llwyth o gynnyrch lleol o gwmnïau de Cymru yn llenwi’r silffoedd. Mae’r pobydd Alex Gooch yn cyflenwi’r bara, Hangfire yn cyflenwi’r sawsiau a Penylan Preserves y siytni ac yn y blaen…
Mae Penylan Pantry yn arbenigo mewn cawsiau a dyma'r lle i fynd am gawsiau blasus. Mae’r cawsiau cystal fel ei bod yn cyflenwi bwyty michelin James Sommerin lawr ym Mhenarth.

Arlwyo

Mae’r pantri hefyd yn arlwyo ar gyfer partïon preifat a braint oedd cael Melissa o’r pantri yn coginio gwledd y noson cyn i mi briodi. Gyda thipyn o waith gyda mi i wneud cyn y briodas mi oedd Melissa’n wych. Paratowyd bwyd heb ei ail a doedd dim ffwdan gyda’r paratoi na’r tacluso wedi i ni orffen y bwyd. Gwerth nodi hefyd canmoliaeth unfarn y gwesteion taw'r wy selsig gan Great Eggspectations yw’r wyau gorau iddyn nhw flasu erioed.
Wyau 'selsig' Great Eggspectations

Cymuned

Fel dwi wedi sôn eisoes, mae Penylan Pantri yn cydweithio â chwmnïau lleol er mwyn gwerthu cynnyrch cwmnïau eraill o ansawdd. Mae’r partneriaethau yma yn creu teimlad o gymuned ymhlith cynhyrchwyr bwyd annibynnol. Mae’r naws gymunedol yma yn parhau gyda Penylan Pantri yn cynnig “Veg Boxes” - llysiau organig sy’n cael eu cludo ar feic i bobl Caerdydd.

A dyna fe - perl o le yw Penylan Pantri ac rydyn ni’n ffodus iawn i gael Melissa a’i thîm yma yng Nghaerdydd.

Penylan Pantry
@PenylanPantry
melissa@penylanpantry.com

Cheese Pantry
Marchnad Caerdydd
@cheesepantry
hello@cheesepantry.wales

Great Eggspectations
@ge_cardiff

No comments:

Post a Comment